Morgan v Morgan
Jocian oeddwn i wrth alw'r Eisteddfod yn "faes Llafur" yn gynharach heddiw. Rwy'n dechrau meddwl bod hi'n enw digon addas ar ôl gweld cymaint o wleidyddion Llafur yn crwydro'r o gwmpas y lle. O fewn deng munud heddiw gwelais i Nia Griffith, Ann Clwyd, Paul Flynn a Nick Smith heb sôn am lond siambr o gynghorwyr.
Trodd nifer ohonyn nhw i fyny ym Mhabell y Cymdeithasau i wrando ar ddarlith Rhodri Morgan ynghylch Aneurin Bevan lle'r oedd y cyn Prif Weinidog ar ei fwyaf difyr ac eclectig. Honnodd er enghraifft bod yr Eisteddfod wedi cytuno i wneud eithriad i'r rheol iaith yn 1958 oherwydd y byddai'r deuawd "Bevan a Robeson" yn sicr o apelio at gynulleidfa oedd wedi cael llond bol o Jac a Wil!
Ymhlith y selogion Llafur yn y gynulleidfa roedd un nad yw'n aelod etholedig, ar hyn o bryd o leiaf. Fe gollodd gwraig Rhodri, Julie, ei sedd seneddol o lond dwrn o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol ac mae sawl un o fewn y blaid wedi bod yn gweddïo y bydd hi'n sefyll yng Ngogledd Caerdydd yn etholiad y Cynulliad.
Dyw Julie ddim am ddatgelu ei chynlluniau eto ond o farnu o'r wen fawr pan ofynnais am ei dyfodol rwy'n rhyw amau bod gweddïau'r Llafurwyr ar fin cael ei hateb a hunllef Jonathan Morgan ar fin cael ei wireddu.
SylwadauAnfon sylw
Ni wnaethpwyd eithriad i Bevan a Robeson. Symudwyd y Gymanfa Ganu o'r Sul olaf traddodiadol i'r cyntaf. Nid oedd yr Eisteddfod wedi cychwyn yn swyddogol ac felly roedd hawl gan Bevan a Robeson anerch y dorf yn Saesneg. Roedd Rhodri hefyd yn anghywir i awgrymu bod mwyafrif tref Tredegar yn siarad Cymraeg pan ganed Bevan.