O'r Maes
Dyma fi ar y Maes Llafur, felly.
Wel, beth arall fyddai dyn yn galw Eisteddfod y drws nesaf i Ysbyty Aneurin Bevan? Mae hwnnw'n enw uniaith Gymraeg, gyda llaw.
Heddiw bydd Rhodri Morgan yn traddodi darlith ar y Maes ynghylch Bevan a'i etifeddiaeth. Tybed a fydd e'n cynnwys un ffaith fach ddiddorol am yr arwr hwnnw? Yn ôl yn y tridegau Bevan oedd cydawdur maniffesto "Plaid Newydd" Oswald Moseley.
Fe fyddai hynny wedi gwneud cwestiwn da i'r cwis! Mae'r atebion i'r diweddaraf wedi eu cyhoeddi. Roedd Dewi a Dai yn gywir y tro hwn ac na, Dewi, dwyt ti ddim yn cael cadw'r gwpan!
SylwadauAnfon sylw
Diddorol am Bevan yn gydawdur maniffesto Oswald Mosley. Pryd oedd hyn? Oes rhywbeth ar y we?