³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Beth???

Vaughan Roderick | 10:35, Dydd Sadwrn, 4 Medi 2010

Rwy'n amau mai achos o'r diawl yn gweld y bai ar bechod fydd hwn! Peth peryglus yn y busnes yma yw tynnu sylw at wallau pobol eraill. Gall eich camgymeriadau eich hun ddychwelyd yn ddigon sydyn i frathu'ch pen ôl! Ar ôl dweud hynny mae'n anodd anwybyddu'r 'howlar' yma yn y Western Mail;

"An ancient Welsh manuscript is set to be moved from Cardiff Central Library to the National Library of Wales in Aberystwyth to safeguard its survival. Cardiff council's executive is set to agree at a meeting on Thursday that The Llyfr Aneirin (Book of Aneirin) should be moved to the library in North Wales to preserve its condition."

Mae angen gwersi daearyddiaeth ar rywun! Rwy'n gwybod bod 'Gogledd Cymru' yn cychwyn yn Nhongwynlais ym marn rhai yng Nghaerdydd. Serch hynny...

Tra fy mod yn fy mhulpud cwynfanus a hunangyfiawn fe wna i sôn am erthygl arall wnaeth fy nghythruddo'r bore 'ma. Mae erthygl am reilffyrdd Namibia yn adran deithio'r Telegraph yn cynnwys y frawddeg yma;

"With commendable efficiency and Prussian army stock, engineers completed the 230-mile Staatsbahn between Windhoek and Swakopmund in five years, and began running passenger and freight services in 1902."

Fel mae'n digwydd rwyf newydd gwpla darllen llyfr ynghylch hanes yr Almaenwyr yn Ne Orllewin Affrica sy'n cynnwys disgrifiadau byw a dirdynnol o'r ffordd yr adeiladwyd y rheilffordd arbennig yma. "" yw teitl y llyfr. Efallai bod y teitl yn unig yn awgrym go dda o beth yn union yr oedd "commendable effiency" y cwmni rheilffordd yn ei olygu i frodorion y wlad.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:46 ar 4 Medi 2010, ysgrifennodd SionW:

    Eithaf teg, Vaughan eich sylwadau ar y rheilffordd yn Ne Orllewin Affrica. Ychydig iawn sy'n mentro siarad am y rhai sy'n cael eu coloneiddio mewn sefyllfaoedd o'r fath. Mae nod yr imperialydd i weld ymhobman ac o hyd.

    Ac ar gyfer "Papur Newydd Cenedlaethol Cymru" dyma bwt o hanes personol. Ceisiais roi stori iddynt yn ddiweddar, ond cefais yr ymateb nad oedden nhw'n rhedeg straeon am Ogledd Cymru (o le dw i'n hannu) gan mai yn Ne Cymru oedd eu marchnad. Ym, maddeued y cwestiwn, onid ceisio ehangu ei cylchrediad mae papur newydd fel rheol?

  • 2. Am 21:47 ar 4 Medi 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Oes rhywun yn cytuno a fi ? Dwi yn eithaf hoff o ddarllen blog betsan heb orfod darllen a chael fy nhythruddo gan sylwadau rhai o'r cyfranogwyr. Efallai y dyliwn gychwyn ymgyrch i wahardd sylwadau yn barhaol !!!!!

  • 3. Am 22:41 ar 4 Medi 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n amau fy mod yn adnabod o leiaf un person fyddai'n cytuno. Gwna i ddim ei henwi!

  • 4. Am 00:42 ar 5 Medi 2010, ysgrifennodd Huw:

    A oes agenda bach fan hyn i ddiystyru'r Gymraeg yn y de? Bod pethau Cymraeg yn perthyn yn y gogledd, tra fo Saesneg yw iaith Caerdydd?

  • 5. Am 17:17 ar 5 Medi 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Trwy drosglwyddo'r llyfr? Go brin mae hi fwy yn fater o'r embaras i Gyngor Caerdydd ar ol i ymgyrchwyr Cymraeg (Cymdeithas Carnhuawc, rwy'n meddwl) ddatgelu eu bwriad i werthu rhai o drysorau llyfrgell y ddinas. Ar ol ymyrraeth gan Llywodraeth fe'i hachubwyd gan Llyfrgell Prifysgol Caerdydd a'r Llyfrgell Gen.

  • 6. Am 22:52 ar 5 Medi 2010, ysgrifennodd paul m roberts:

    heblaw am y ffaith bod na ddim ffasiwn lle a NorthWales. Dyw e ddim ar unrhyw fap, dyw e ddim yn sir, nac yn ardal. Dyw e, na SouthWales ddim yn bodoli o gwbl ac yn "figment of imagination"
    hwyr glas inni ddechrau cael eu gwared o'n iaith bob dydd
    Dyw fy nghariad o Luton byth yn cyfeirio at 'North England' pan yn mynd lan i weld ei theulu yn Leeds

  • 7. Am 12:59 ar 6 Medi 2010, ysgrifennodd SionW:

    Cytuno efo Huw - stori am yr iaith Gymraeg (a hynny mewn llefydd tramor) oedd fy stori i at y WM....

  • 8. Am 15:42 ar 6 Medi 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Monwysyn - dwi wedi rhoi'r gorau i ddarllen Blog Bestan ers talwm nawr oherwydd y sylwadau gwrth-Gymraeg diddiwedd. Mae jyst yn ddiflas.

    Mae bywyd yn rhy fyr i ddarllen sylwadau pobl sy'n byw yng Nghymru ond ddim yn hoffi'r Gymraeg.

    Sori Betsan.

  • 9. Am 19:00 ar 6 Medi 2010, ysgrifennodd Josgin:

    Paul - tyrd i Ffordd Farrar bob tro mae tim o'r de'n chwarae !

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.