Gofyn Cwestiwn
Dyma'r fersiwn Cymraeg o argymelliad y Comisiwn.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd
Mae gan y Cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis:
* amaethyddiaeth * yr amgylchedd * tai * addysg * iechyd * llywodraeth leol
Mae'r Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill. Er mwyn llunio deddfau ar unrhywun o'r materion eraill hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU. Yna, mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio'r deddfau hyn neu beidio.
Ni all y Cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.
Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'ydw'
Bydd y Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt, heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.
Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'nac ydw'
Bydd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn parhau.
Cwestiwn
A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?
Mae 'na rywbeth rhyfedd braidd ynghylch y cwestiwn yma.
Er bod y Comisiwn wedi cymryd gofal i asesu argymhellion Swyddfa Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg ar wahân i'w gilydd gan dynnu sylw at wahanol wendidau yn y ddwy iaith mae'n ymddangos i mi bod cwestiwn Cymraeg y Comisiwn ei hun yn gyfieithiad slafaidd iawn o'r un Saesneg.
Sut arall mae esbonio'r defnydd o'r term "maes pwnc" i olygu "subject area"? Nid bod y term yn anghywir hyd y gwn i ond rwy'n herio unrhyw un i ganfod enghraifft lle mae'r term hwnnw wedi ei gynnwys mewn darn o Gymraeg nad oedd yn gyfieithiad o'r Saesneg.
Yn ei gwaith ymchwil i fersiwn Swyddfa Cymru o'r cwestiwn mae'r Comisiwn yn nodi bod Cymry Cymraeg yn cael trafferth i ddeall "fesul pwnc". Os oedd hynny'n anodd i bobol sut ar y ddaear mae disgwyl iddyn nhw ddeall "maes pwnc" - term sydd yn llawer mwy artiffisial a chlogyrnaidd?
Beth ar y ddaear sy'n bod ar ddefnyddio "maes"? Mae'r ystyr yn gwbl eglur.
Yn yr un modd mae'r term "UK Parliament" yn cael ei gyfieithu fel "Senedd y DU". Efallai bod hynny'n gywir, ond dyw priflythrennau ddim yn cael eu defnyddio yn yr un ffordd yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r term "the UK" yn cael ei ddefnyddio ar lafar yn aml yn Saesneg. Oes unrhyw un erioed wedi galw'r Deyrnas Unedig (neu gyfunol) yn " y DU" yn Gymraeg?
Nawr y peth olaf ydw i yw pedant iaith. Rwy'n rhy gyfarwydd â'n ffaeleddau a cham-deipio fy hun i ddisgyn i'r pydew arbennig yna! Ar y llaw arall ar ôl deg wythnos a llwyth o bres oni ddylai'r Comisiwn allu llunio cwestiwn yr un mor hawdd ei ddeall yn Gymraeg a'r un Saesneg?
SylwadauAnfon sylw
Ac mae'n hir....
Dwi'n falch fod diffygion y cwestiwn gwreiddiol wedi eu cywiro.
Ond, ymddengys fod yno broblem tylfaenol gyda'r cwestiwn fel y mae'r Comisiwn wedi ei ddrafftio.
Mae hynny oherwydd y cyfeiriad at yr 20 "maes pwnc".
Dan Adran 109 Ddeddf 2006, mae modd ychwanegu at y "meysydd pwnc", naill ai cyn neu ar ol refferendwm, drwy "Order in Council". Felly gallasai fod mwy nag 20.
Pe bai'r cwestiwn yn aros fel ag y mae, gallesid dadlau:
(1) ei fod yn annilys gan nad yw'n cyfeirio at y posibilrwydd y gallesid ychwanegu at y meysydd pwnc (ac felly nad oedd canlyniad y refferendwm yn ddilys, nac felly unrhyw Ddeddf a wnaed dan y pwerau)a/neu
(2) na fyddai dilysrwydd cyfansoddiadol i unrhyw gais i ychwanegu maes pwnc arall wedi'r refferendwm, heb gynnal refferendwm arall.
Nid wyf yn gallu gweld fod yno gymal yn y ddeddf sy'n gwahardd herio canlyniad y refferendwm ar sail annilysrwydd y cwestiwn, felly, mewn theori o leiaf, gallasai'r mater godi am y tro cyntaf pan fo rhywun yn ceisio herio un o Ddeddfau'r cynulliad mewn llys barn, flynyddoedd wedi'r refferendwm. Gochelwn rhag meddwl na fydd hyn yn digwydd, neu y bydd barnwyr o anghenrhaid yn gydymdeimladwy a'r Cynulliad. Mae profiad Senedd yr Alban yn y Goruchaf Lys yn ddiweddar yn awgrymu nad yw pob uchel farnwr yn edrych ar ddeddf a wneir gan ddeddfwrfa ddatganoledig fel un sydd yn wahanol o ran natur i unrhyw fath arall o ddeddf nas pasiwyd yn San Steffan.
Dim ond UKIP a'r Swyddfa Gartref dwi wedi gweld yn defnyddio "y DU" (ac weithiau "y Du" :-D). Mae'n gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus bob tro, nid yn unig oherwydd bod ganddo syniad gormes, ond hefyd oherwydd y bu Teyrnasoedd Unedig eraill gynt (sef yr Iseldiroedd, Libia, Demarc a Norwy, Sweden a Norwy, a Phortiwgal, Brazil a'r Algarves). Beth yn union oedd yn bod â galw nhw'n "San Steffan" neu "Senedd San Steffan"? Neu hyd yn oed "Senedd Prydain"? Mae'n edrych fel petaen nhw wedi defnyddio geiriadur yn lle cyfieithydd.
'Senedd y Deyrnas Unedig' fyddai'r ateb amlwg. Gellir hollti blew cyfansoddiadol ynghylch defnyddio 'San Steffan' neu 'Prydain'. Ar y llaw arall mae'n debyg mai un o'r rheiny y byddai trwch y Cymry Cymraeg yn defnyddio ac os mae bod yn ddealadwy yw'r pwynt un o'r rheiny fyddai orau.
Mae'n ymddangos i mi bod sicrhau cywirdeb y cyfieithiad wedi bod yn drech na'r angen am gwestiwn dealladwy yn Gymraeg.
Mae'r holl beth yn siambls llwyr am y rheswm syml ei fod yn bwnc hollol anaddas i gynnal refferendwm yn ei gylch yn y lle cyntaf. Yr unig reswm y mae gofyniad am refferendwm yn rhan o'r ddeddf oedd er mwyn bodloni adain unoliaethol y blaid Lafur; byrbwylldra hefyd oedd cynnwys refferendwm fel rhan o gytundeb Cymru'n Un.
Eto i gyd, gorau po fwyaf o amser fydd yn cael ei ddadlau ar eiriad y cwestiwn, oherwydd mae'n bosib y gall hynny orfodi'r Ysgrifennydd Gwladol i ohirio'r refferendwm tan yr un diwrnod ag etholiad y cynulliad. Dyna'r unig adeg y mae gobaith am drafodaeth synhwyrol ar y math o newid cyfansoddiadol sy'n cael ei gynnig. Fel arall mae'n debyg o ddirywio i fod yn ffrae wirion rhwng y lleiafrifoedd ar ddau begwn y ddadl - rhwng y lleiafrif sydd o blaid annibyniaeth i Gymru ar y naill law, a'r lleiafrif o arch-Brydeinwyr sy'n paranoid yn erbyn unrhyw gynnydd cyfansoddiadol i Gymru ar y llaw arall.
All rhywun egluro pam nad oes modd rhoi sylwadau ar flog Betsan?
Does neb wedi sylwi ar y brawddegau 'ma:
"Er mwyn llunio deddfau ar unrhyw un o'r materion eraill hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU. Yna, mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio'r deddfau hyn neu beidio."
Mae'r ail frawddeg yn ffeithiol anghywir. Unwaith bod San Steffan wedi cytuno bod y Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar fater newydd, mae'r gallu i wneud hynny yn para. Does dim angen i San Steffan penderfynu "pob tro" a gaiff y Cynulliad lunio deddfu o fewn y mater newydd.
Holwr, mae sylwadau blog Betsan wedi ei cau am y tro am i bethau fynd braidd yn rhemp yno! Fe fydd y sylwadau'm ail-agor ar ol i sytem gymedroli fwy grymus gael ei chyflwyno.
Mae pwynt da gydag MH ar ei flog ynglyn a'r geiriad yma (hy yn y ddwy iaith)
Yn ol y cwestiwn "Bydd y Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt". Os cewn ni bleidlais "Ydw", a fydd na fodd i'r Cynulliad anwybyddu'r holl eithriadau yn y ddeddf?
Diddorol nodi, yn ol y cmisiwn etholiadol, nad ddylid disgwyl i bobl ddeall y cwestiwn cyn bleidleisio. "Expecting voters to read explanatory material to accompany such a question, either in a lengthy preamble or in a leaflet, is unrealistic. " Pan fo refferenda mewn gwledydd eraill, oes disgwyl i bobl yno ddeall (a hwyrach meddwl dros gyfnod am) y cwestiwn cyn pleidleisio?
Afraid dweud efallai, ond credaf y gall fod aneglurder arall (anochel o bosib) oherwydd gwahaniaeth yn yr hyn sy'n cael ei ddeall ar lafar yn gyffredin gan 'faterion eraill', lle mae'r Saesneg yn cyfleu term cyfreithiol pendant a chyfyng ei ystyr yn y cyd-destun, mae'r Gymraeg, i mi, yn ogystal â'r ystyr dan Ddeddf Llywodraeth Cymru yn golygu pethau llawer mwy amwys megis 'other things' neu 'other business'.