Post Cyntaf
Cawn wybod fod aelodau'r Pwyllgor Dethol Cymreig yn bwriadu ymweld â phont ac ail groesfan Môr Hafren fel rhan o'u hymchwiliad i'r tollau. Dyw pwynt yr ymweliad ddim yn amlwg. Wedi'r cyfan oni ellir cymryd bod y rhan fwyaf o'r aelodau wedi gweld a hyd yn oed croesi'r aber o bryd i gilydd? Efallai bod David Davies yn gweld ei hun fel rhyw Awstin Sant i'n hoes ni - er go brin fod y Pwyllgor Dethol yn cymharu â'r synod eglwysig a gynhaliwyd ar safle gwasanaethau mwyaf di nod ein traffyrdd! Does 'na ddim son yn y datganiad gyda llaw ynghylch p'un ai y bydd yn rhaid i'r pwyllgor dalu am groesi ai peidio!
Yn y cyfamser mae aelodau seneddol Plaid Cymru (ynghyd â Peter Bottomley am ryw reswm) wedi gosod cynnig yn galw ar yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt i wylio "Pen Talar" yn ei gyfanrwydd cyn cyrraedd penderfyniad ynghylch dyfodol y sianel. Does dim gwirionedd yn y si bod gelynion y sianel yn bwriadu danfon recordiadau o "Wawffactor" a "Bang Bang Bangkok" i'r gweinidog.
SylwadauAnfon sylw
Gallwch wastad dibynnu at Peter Bottomley i wneud yr annisgwyl – Tori eangfrydig, a chanddo nifer o syniadau go flaengar pan oedd yn Weinidog Trafnidiaeth dan Margaret Thatcher. Yn ôl y sôn, mae’n dal i seiclo i Dŷ’r Cyffredin
Mae Peter Bottomley yn un o'r aelodau seneddol hynny sy'n llofnodi bron pob EDM mae e'n weld (ond ddim gymaint a Martin Caton, Gŵyr)
Fasen i ddim yn annog Jeremy Hunt i wylio'r bennod gynta, oedd yn safonol iawn ond araf (na un o'r 80au am ei fod yn bownd o fod yn wrth-Thatcheraidd). Efallai fydd pennod o'r 90au yn ddigon bywiog i gadw ei sylw.