³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mam Fethedig Cymru

Vaughan Roderick | 15:10, Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011

Fe fydd y rheiny ohonoch chi wnaeth ddarllen blog Betsan ddoe yn gwybod bod na arwyddion bod dyddiau Cyngor Ynys Mon wedi eu rhifo. Trwy'r dydd ddoe ac eto heddiw mae gweision sifil wedi bod wrthi'n ceisio drafftio gwelliant neu welliannau i'r Mesur Llywodraeth Leol fyddai'n galluogi i'r Llywodraeth orfodi awdurdodau lleol i uno. Hyd yma dydyn nhw ddim wedi llwyddo.

Nid mater o bwerau'r cynulliad yw hwn. Na phoenwch - does dim angen unrhyw artaith LCOaidd y tro hwn. Fe gafodd y Cynulliad yr hawl i ad-drefnu cynghorau trwy hap a damwain bron rhai blynyddoedd yn ôl. Y broblem yw bod y gwelliant yn mynd y tu hwnt i gwmpawd rhagymadrodd y mesur presennol. Ceisio canfod ffordd o gwmpas hynny mae'r Llywodraeth er mwyn osgoi gorfod cychwyn o'r cychwyn gyda mesur newydd.

Os oedd unrhyw amheuaeth yn bodoli ynglŷn â bwriad y Llywodraeth fe ddiflannodd yn ystod sesiwn gwestiynau'r Gweinidog llywodraeth leol y prynhawn yma. Mynnodd Carl Sargeant nad oedd unrhyw fwriad ganddo i ad-drefnu llywodraeth leol yn ei chrynswth ond dywedodd gan y Cynulliad ddewis ond gweithredu lle'r oedd Cyngor yn methu. Dim ond un cyngor yng Nghymru sydd yn y dosbarth hwnnw ar hyn o bryd. Ynys Môn yw hwnnw.

Ond ai uno Môn a Gwynedd fyddai diwedd y broses? Yn y tymor byr, efallai. Ond o gael yr hawl i uno cynghorau fe fyddai na demtasiwn i glatsio unrhyw awdurdod oedd yn llusgo traed ynglŷn â chydweithio. Am y rheswm hwnnw mae 'na sawl un ym myd y Cynghorau sy'n betrusgar.

Nid felly yn y Cynulliad. Mae 'na sawl un yn rhengoedd y gwrthbleidiau - a Phlaid Cymru hefyd - sy'n bryderus am y modd y mae'r Llywodraeth yn ceisio cyflwyno gwelliannau yn hwyr yn broses ddeddfu. Pryderon am y broses yw'r rheiny.

Dydw i ddim wedi llwyddo i ganfod un aelod cynulliad nad yw'n credu bod Cynghorwyr Môn wedi bratu eu cyfle olaf am achubiaeth.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:25 ar 26 Ionawr 2011, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Wyt ti yn meddwl mai eisiau'r hawl i weithredu mae'r Cynulliad i'w ddefnyddio. Fe allent wrth gwrs anfon tim i mewn i reoli. Mae'r PW dros dro wedi dweud na fydd yn aros tan ar ol Medi ac mae son y bydd Elan Closs yn brysur ar faterion arall yn y dyfodol agos. Yn ironig mae coup de ta oedd i fod i frwydo yn erbyn uno yn debygol o wneud hynny yn fwy anorfod.

  • 2. Am 08:42 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Huw:

    Dwi'n byw yn Ynys Môn a gallai ddim ddweud pa mor falch byddai i weld diwedd y Cyngor. Edrychaf ymlaen at uno efo GWynedd eto gobeithio

  • 3. Am 11:51 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Y peth sy'n neud fi mor flin am y peth yma. Ydy bod gwasanaethau ym Mon llawer yn well na Gwynedd. Gweler hynny yn amser yr eira mawr hefor lonydd. I adio i hyn, mae Mon wedi achub pob pwll nofio. Mae gwariant ar ysgolion yn uwch ym Mon. Rydym yn ailgylchu mwy o'n sbwriel na unrhyw cyngor arall. Ac hefyd hefo mwy o 'small holdings' na unrhyw Sir yn Nghymru, dwin meddwl 2ail trwyr D.U. Ac i adio at hyn mae Treth Cyngor yn llai ym Mon (£140 yn llai na Gwynedd ar 'band d')

    Felly i trigolion yr Ynys, dim ond ryw ddrama dibwynt ydy y cynghorwyr. Oherwydd da ni dal i gael gwasanaethau da, ac felly dwim eisiau ymuno o Gwynedd, rhag ofn i ni golli heini. A gorfod llyncu dyled Gwynedd.

    Rhai cwestiynau i chwi:
    1) Ydych yn meddwl caiff y gwellianau eu basio? os oes, gai ofyn pam bod rhaid brysio fo drwadd, pam ddim disgwyl? mae o i gyd yn teimlon an-ddemocrataidd. Pam ddim gohirio'r fesur?

    2) Be mae AC yr Ynys yn ei feddwl- mae o fel petai e hefo "Gag" am rwbath sydd yn ymwneud a Mon.

    3) dwin deall bod IWJ di bod ar Radio Cymru- yda chin digwydd gwybod pa rhaglen oedd o (a pha amser)? I mi gael gwrando ar yr iplayer?

    Diolch

  • 4. Am 12:37 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Roedd IWJ ar Post Cyntaf. Fe fyddaf yn ateb rhai o'r pwyntiau erailll mewn post y prynhawn yma.

  • 5. Am 13:33 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd D. Enw:

    Byddai uno gyda Gwynedd yn cryfhau'r Gymraeg ym Môn. Mae'r iaith wedi colli tir yn gythreulig yn yr Ynys. Mae angen uno sawl sir arall hefyd - Merthyr, Bro Morgannwg a nôl efo'r hen Glwyd ond gyda Dyffryn Conwy Gymraeg yn rhan o Wynedd eto).

  • 6. Am 14:40 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Rhys:

    D.Enw, ma hwn yn swnio'n ddiddorol. Ga i ofyn ar ba sail eich bod am uno'r cynghorau eraill: ai methiannau strwythurol / darparu gwasanaethau, taclusrwydd daear-wleidyddol, neu ai cryfhau'r iaith yw'r cyfiawnhad? Diolch!

  • 7. Am 15:21 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    D.Enw
    Yn gyntaf dwi ddim yn meddwl dylai Cynghorau newid ar sail yr iaith yn unig. Ond ar yr achos yma, allaim dweud bod Gwynedd wedi gwneud gwaith da iawn ynglyn ar iaith. I fod yn onesd fyswn i'n dweud ei bod yn waeth. Gweler beth sydd yn digwydd ym manau hynod o Gymraeg fel Pen Llyn, neu manau sydd wedi mynd yn fwy seisnig fel Tywyn a Harlech.

    Mae Ynys Mon yn draddodiadol wedi bod yn llai Gymraeg na Gwynedd (oherwydd llefydd fel y Borth, Caergybia Beaumaris). Felly dwim yn gweld sut fysa ail drefnu cyngor yn helpu'r iaith?

  • 8. Am 15:35 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Gai hefyd adio, a tybio beth ydy eich barn chi am polisi iaith y Cynulliad ar y funud ynglyn ar Mesur.

    Dwi ddim yn deall pam bod deddf 1993, ac yna mesur 2010/11 yn gorfod bod yn un cenedlaethol. Yn amlwg mae gofynion iaith yng Nghwynedd yn wahanol i gofynion Caesnewydd neu Sir Benfro. Fysa e yn hyr gofyn i Sir Benfro gael Mesur iaith sydd yn siwtio Gwynedd, ac eto vice versa. Felly be da nin cael yn y diwedd yw Mesur cendelaethol sydd ddim yn taro ddim un gofynion ddim un Sir.

    Tybio ydwi pam, nad ydy'r Cynulliad wedi meddwl cael un Mesure Cenedlaethol reit llym. Ond yna cael system tebyg i'r Gaeltacht's yn yr Iwerddon gyda rheolau mwy llym, yn manau fel Gwynedd? yntau fysa hynny yn difrodi'r sir?.

    Dim ond syniad ydio, oherwydd mae Cymru (ynglyn ar iaith) yn wlad wedi'i rhannu yn ddau. Felly mae'n reit anodd cael mesur cenedlaethol sydd yn siwtio pob sir?

  • 9. Am 18:00 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Dewi, er fy mod i'n rhannu dy bryderon ynghylch yr iaith yng Ngwynedd, mae gen i ddiddordeb gwybod ble'n union mae'r cyngor wedi bod yn ddiffygiol ar y mater. Dim ond hyn a hyn all awdurdod lleol ei wneud, mewn gwirionedd.

    O ran Ynys Môn, y peth gorau alla' i weld yn digwydd yn sgil uno posibl efo Gwynedd ydi gweld darfod y nonsens yma o gynghorwyr annibynnol. Hynny ydi, mae wastad lle parchus i unigolion sydd ddim yn teimlo'n gartrefol mewn unrhyw blaid swyddogol ac sy'n bach o maverick, ond ym Môn maent yn ffurfio grwpiau - a hynny ar ôl yr etholiadau - ar sail...wel, pwy a wyr? Yn sicr nid ar sail egwyddor nac ideoleg. Personoliaethau a ffraeo plentynnaidd sy'n teyrnasu yng ngwleidyddiaeth Môn, nid syniadau.

  • 10. Am 19:05 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Dylan Llyr,

    Na na ymateb i sylw uchod roeddwn i. Dweud bod mesurau iaith Mon/Gwynedd gyn mor dda/ddrwg.

    Dwin cymeryd eich barn am annibynnwyr mon. Ond fyswn i yn ymghori chi i wrando ar Taro Post heddiw. Cyngorwyr Mon (un o Llafur a'r llall or Ceidadwyr). Be da chin feddwl nath ddigwydd- trafod trefnu? na, oedd nhw gyn mor ddrwg a unrhyw gynghorwr arall!.

    Dwin meddwl dylai pawb asesu y "math" o bobol sydd eisiau bod yn gynghorwyr, ac dyna lle mae'r problemau!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.