Pwll anobaith
Ychydig wythnosau yn ôl sgwennais o blogbost bach ynghylch cau capel y Tabernacl yng Nghwm-gors, Gorllewin Morgannwg. Fe ofynnodd Y Tyst am ganiatâd i'w ail-gynhyrchu ac roeddwn i'n ddigon parod i weld fy enw yn cael ei ychwanegu at restr hir o aelodau fy nheulu sydd wedi cyfrannu at y papur hwnnw.
Mae'n rhaid bod yr erthygl wedi ymddangos erbyn hyn gan fy mod wedi derbyn ambell i nodyn yn ei chylch gan gynnwys un sy'n codi cwestiwn diddorol.
'Rwyf yn byw yng Nghwm Gwendraeth erbyn hyn... ardal glofaol, fel y Waun ond mae na wahaniaeth mawr na fedraf ddeall y rheswm pam! Capel Seion yn dathlu tri chan mlynedd yn 2012 a'r Tabernacl yn cau ar ol dim ond canrif.'
Er nad oes gen i ystadegau wrth law mae 'na ganfyddiad cyffredinol bod y Gymraeg yn yr ardaloedd glofaol ar y ffin rhwng Morgannwg a Sir Gar mewn trwbl ac nad yw'r iaith mor wydn yng ngwm Aman, er enghraifft ac yw hi yng Nghwm Gwendraeth.
Mae Carwyn Jones wedi son wrtha i droeon am y newid ieithyddol ym Mrynaman dros y ddegawd ddiwethaf gan awgrymu bod datganoli ei hun wedi lleihau pwysigrwydd y Gymraeg fel bathodyn o genedligrwydd. Dyw hynny ddim yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng gwahanol ardaloedd.
Mae'r ffaith bod y pentrefi hyn yn prysur droi'n rhyw fath o faestrefi ar wasgar i Abertawe'n fwy o ffactor yn fy nhyb i. Mae'r un ffenomen i'w gweld o gwmpas Caerdydd mewn pentrefi glofaol cwm Taf a chwm Rhymni. Yr unig wahaniaeth yw nad yw hynny'n cael effaith ieithyddol.
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n ddiddorol darllen rhan o'r cofnod o gwestiynau'r Prif Weinidog ddoe.
Gareth Jones: A fyddech yn cytuno bod gwarchod yr iaith Gymraeg yn ei hanfod yn golygu gwarchod cymunedau Cymraeg yn ogystal, a bod angen rhoi llawer mwy o sylw i hyrwyddo datblygiad economaidd a chynaliadwyedd cymunedau o'r fath, yn enwedig cymunedau gwledig Cymraeg sydd o dan fygythiad mawr ar hyn o bryd? Onid un ffordd o wneud hyn fyddai i'r Cynulliad ymdrin a'r iaith a chymunedau Cymraeg fel mater trawsbynciol, yn hytrach nag fel rhywbeth sy'n dod o dan yr Adran Dreftadaeth yn unig?
Y Prif Weinidog: Credaf eich bod yn gywir, Gareth. Gwyddoch, wrth gwrs, ein bod wedi datblygu ardaloedd penodol ar gyfer hybu'r Gymraeg. Ardaloedd o arwyddocad ieithyddol arbennig yw'r rhain, lle mae'r Gymraeg yn brif iaith bywyd beunyddiol. Yr ydym am sicrhau ein bod yn helpu'r cymunedau hyn i dyfu yn y dyfodol, o ran defnyddio'r Gymraeg. Gwn am sawl cymuned--yn enwedig yn y de, ond nid yn unig yn y de--sydd wedi newid iaith yn weddol gyflym dros y ddegawd ddiwethaf. Mae hyn yn fy mhoeni i a sawl Aelod arall yn y Siambr hon."
Fe wnewch chi sylwi bod Carwyn Jones wedi osgoi ateb y pwynt ynghylch gwneud y Gymraeg yn bwnc trawsffiniol. Os cofiaf yn iawn roedd hynny rhan o gytundeb "Cymru Gyfan" (yr enfys) ond yn absennol o gytundeb "Cymru'n Un" sef rhaglen y llywodraeth bresennol.
Fe fyddai llywodraeth enfys wedi gosod cyfrifoldeb am yr iaith yn nwylo'r Prif Weinidog. Mae'n bosib bod Plaid Cymru wedi ail-feddwl ynghylch hynny wrth ystyried pwy fyddai'n arwain llywodraeth "Cymru'n Un"!
Ta beth, mae'n ddiddorol bod y pwnc yn codi ei ben ar drothwy etholiad Cynulliad. Ydy cwestiwn Gareth Jones yn awgrymu y gallai newid o'r fath bod yn un o amodau Plaid Cymru mewn trafodaethau clymblaid? Mae hynny'n ddigon posib.
SylwadauAnfon sylw
Gan fy mod yn byw yn yr ardal mae'r bwnc hyn yn fy mhryderu i'n fawr iawn. Ond mae yna nifer o resymau dros ddirywiad yr iaith yn Nyffryn Aman yn enwedig. Difaterwch yr ysgol Uwchradd. Ysgol Dyffryn Aman, un dwi'n ddisgybl ynddi, mae'r ysgol yn cael ei ffrydio gan ysgolion Cymraeg yn bennaf 80% o'r holl ddisgyblion yn dod o ysgolion categori A. Serch hynny dim ond 40% sydd yn derbyn eu haddysg yn Gymraeg, nid yw'r ysgol yn gweithredu ar eu polisi dwyieithog fel y dylai, mae difaterwch y prifathro a nifer o unigolion yn cael gormod o ddylanwad ar dynged yr iaith. Mae'r un yn wir am Gyngor Sir Gâr, agwedd amwys iawn tuag at yr iaith nid ond yn Nyffryn Aman mae'r iaith ar drai. Problem arall yw'r arian mae'r cyngor yn ei dderbyn wrth ddarparu cartrefu i bobl sydd â problemau yn y Gymdeithas mae hyn yn wir am Rydaman, maent yn symud teuluoedd o Fyrmingham ayyb i'r ystadau Cyngor er mwyn cael arian ychwanegol - hyn wedyn yn cael effaith uniongyrchol ar yr iaith.
Does dim os bod y Gymraeg yn marw marwolaeth hallt a chreulon iawn yn Nyffryn Aman, ac mae'n dorgalonnus i mi weld y sefyllfa, ond does dim iws siarad shop amdano fe, rhaid i n i fynd mas 'na ac ymgyrchu i newid y drefn!.
Adam
Mae ymateb yma gyda thi yn gofnod call sydd yn ei dweud hi fel y mae. Heb os mae yn ddigalon iawn ond rwyt yn taro'r hoelen ar ei phen mewn sawl lle. Heb os mae agwedd ddi hudans Ysgol Dyffryn Aman ers blynyddoedd maeth wedi bod yn broblem sydd wedi mynd ymlaen ac ymlaen heb i neb fyn i afael ag e. Fel sydd yn hollol amlwg mae 80% o'r plant yn dod i mewn o ysgolion Categori A, ac i fod yn rhugl yn y Gymraeg. Gall yr ysgol yma fod yn ysgol Gymraeg swyddogol os byddai'r uwch reolwyr a'r prif athro yn dymuno. Byddai hyn heb os yn ffordd o dal tir os nad dim byd arall.
Rhywbeth arall mae Adam yn sôn amdano yw polisi cyngor Sir Gar o adael teuluoedd (rhan fwyaf gyda phroblemau cymdeithasol enbyd) i mewn i ganol cymunedau Cymraeg ei hiaith. Mae hwn ar ben sefyllfa lle mae dirywiad yn barod
Rwy’n synnu nad oes llawer mwy o ymateb i'r blog yma wedi bod. Da gweld bod disgybl ysgol mewn Cymraeg graenus yn fodlon mynegi barn. Ble mae'r gweddill o bobl Sir Gar Cyfrannwch i'r ddadl yma?!!
Diolch yn fawr iawn i chi Alun. Odych chi'n honni o'r ardal yn wreiddiol neu? Mae hyn yn wir, ysgrifennais adroddiad eithaf swmpus i'r prifathro yn sôn am fy mhryderon ac fe'u anwybyddwyd yn llwyr, does dim iws cwyno, cyflog llawn, a llenwi pocedu y mae rhan fwyaf o unigolion bondigrybwyll sydd yn rheoli'r ysgolion â'r sir. Nid yw addysg a beth sydd orau wrth wraidd eu syniadaeth nhw o gwbl ac mae'n warth arnom ni fel trigolion yn y Dyffryn.
Maent hefyd yn manteisio ar agweddau'r ardal, e.e. am fod yr ardal yn un difreintiedig mae yna lot o dlodi a difaterwch, ond nid ynghylch yr iaith ond ynghylch pob dim. Ar ôl brwydro a brwydro yn yr wythdegau i gadw'r pyllau ar agor, mae fel petai cannwyll dyffryn Aman wedi pylu, a nad oes nerth nag angerdd yn bodoli i newid y drefn. Dyna felly mae'r ysgol yn manteisio arno fel esgus i beidio â ehangu'r Gymraeg fel cyfrwng addysgu. Maent yn cyflogi staff uniaith Saesneg sydd i fod yn ddwyieithog gyda'r elfen dwp ma o ni ffaelu gwahaniaethu! Os nad ydynt yn gymwys peidiwch a'i chyflogi. Ti'n iawn does dim rheswm o gwbl pam na all Dyffryn Aman fod yn Ysgol Gymraeg.