Oinc
Dwn i ddim os ydy 'Gwir Gymru' wedi dewis enw i'w mochyn eto. "Porci" oedd awgrym un ymgyrchydd 'Ie' gan fod yr ymgyrchwyr 'Na', yn ei dyb ef yn hoff iawn o ddweud "porky pies"
Ta beth am hynny syniad wedi ei fachu o ymgyrch 'Na' Gogledd Ddwyrain Lloegr yw'r mochyn. Yn y refferendwm hwnnw yn 2004 fe brynodd yr ochor 'Na' falwn enfawr af ffurf eliffant gwyn ac roedd mynd a hwnnw o un digwyddiad 'Ie' i'r nesaf yn rhan fawr o'u hymdrech.
Yn yr ymgyrch hwnnw roedd symbolaeth y "white elephant" yn gwbwl amlwg dyw hynny ddim yn wir am y mochyn. Mae arweinwyr yr ymgyrch 'Na' yn gwadu mai gwneud ensyniadau ynghylch aelodau'r Cynulliad yw'r bwriad. Yn hytrach ceir rhyw fwmian annelwig ynghylch 'Animal Farm'.
Beth bynnag oedd y bwriad yn ol y rheiny sydd wedi gwylio'r mochyn wrth ei bethau mae'r stynt yn denu pobol draw i siarad a'r ymgyrchwyr. Yn hynny o beth mae'n gweithio.
Serch hynny mae'n anodd credu y bydd y mochyn yn 'game-changer'.
Mae'n werth nodi Ladbrokes newydd gyhoeddi eu prisiau ar y refferendwm. 1/10 yw pris 'Ie'. 5/1 yw pris 'Na'. Os ydy'r bwcis yn gywir mae angen mwy na mochyn ar Wir Gymru.
SylwadauAnfon sylw
Beth bydd "stynt" fel yr isod yn fwy effeithiol?
Dwi'n gweld mai Syr Eric sy'n ymddangos nos fory eto ar S4C - iawn gen i, mae o'n gwneud lles aruthrol i'r Ymgyrch Ie! Ond a ydi hyn yn golygu nad yw'r cyfryngau Cymraeg yn gallu cael gafael ar unrhyw un arall i gynrychioli'r ymgyrch Na? Ydi hyn yn golygu nad oes neb cymwys arall ar gael, ar wahan i Bill Hughes, wrth gwrs - has-bin arall?