Yn y doc
Ar y cyfan mae gwleidyddion yn eithaf da ar gadw cyfrinachau - os ydyn nhw'n wirioneddol dymuno gwneud hynny. Ond ambell waith mae 'n amhosib osgoi'r temtasiwn i rannu clecs os ydy'r stori yn un ddigon gafaelgar.
Yn sicr mae sylw gan un o weision sifil pwysicaf Whitehall yn disgyn i'r dosbarth hwnnw ac o fen byr o dro i'w sylw mewn cyfarfod preifat mi oedd y sibrydion ar led yn y Bae ac , am wn i, yn Hollyrood a Stormont hefyd.
Ar ôl cyfarfod hynod o stormus rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig honnir i'r gwas ddweud rhywbeth i'r perwyl hwn - os oedd y Deyrnas Unedig yn cwympo'n ddarnau fe fyddai hynny'n digwydd oherwydd agwedd ac anwybodaeth Llywodraeth Prydain yn hytrach nac o ganlyniad i genedlaetholdeb neu unrhyw weithred gan y Llywodraethau datganoledig.
Yn sicr dyw'r berthynas rhwng Llywodraeth David Cameron a Llywodraeth Carwyn Jones yn ddim byd tebyg i'r hyn oedd hi yn nyddiau Gordon Brown. Mater o liw gwleidyddol yw hynny'n rhannol wrth reswm ond mae 'na ffactor arall hefyd.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddangos yn fwyfwy fel un ar ruthr, un sy'n fyrbwyll bron. Gan gymryd sylw Tony Blair ei fod yn edifar na gyflawnodd fwy yn nyddiau cynnar ei lywodraeth fel eu mantra mae Gweinidogion wrth eu gwaith fel lladd nadroedd.
Canlyniad hynny yw bod camgymeriadau'n digwydd - rhai'n fawr fel y cynllun i werthu coedwigoedd Lloegr ac eraill yn rhai cymharol bitw ond yn ddigon i dynnu blew o drwynau llywodraethau eraill y Deyrnas.
Un esiampl o hynny yw penderfynniad sydd yn sicr wedi gwylltio Carwyn Jones. Cymaint felly nes bod y Prif Weinidog yn cyfeirio ato byth a hefyd er nad yw'r stori wedi cael rhyw lawer o sylw.
Peth amser yn ôl cyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa o drigain miliwn o bunnau i ddatblygu porthladdoedd. Gan nad yw porthladdoedd yn fater datganoledig doedd na ddim elw i Gymru o'r cyhoeddiad yn nhermau fformiwla Barnett. Serch hynny cyhoeddwyd mai porthladdoedd Lloegr yn unig fyddai'n manteisio o'r gronfa Brydeinig.
Nawr dyw hwn ddim yn beth mawr, son am ryw £3 miliwn o bunnau ydym ni yn fan hyn. Ond fel mewn unrhyw berthynas neu briodas mae'r pethau bychan yn cyfri a gormod o bwdin dagith gi.