Storom Awst
Efallai eich bod yn cofio un agwedd hynod ddigalon o etholiad Cynulliad 2003. Rhywbryd yn ystod yr ymgyrch treuliwyd diwrnod cyfan yn ffrio ynghylch pyllau nofio Cymru. Roedd un blaid am ddarparu nofio am ddim i blant, un arall am gynnig nofio am ddim i bensiynwyr ac un arall am wneud y ddau beth.
Ni ddeffrowyd Owain Glyndŵr o'i drwmgwsg ond efallai ei fod wedi troi yn ei fedd!
Rhyw ddiwrnod felly yw heddiw wrth i'r Torïaid a Phlaid Cymru gystadlu a'i gilydd i daflu arian i gyfeiriad defnyddwyr pont ac ail groesfan Môr Hafren.
Addo rhewi'r tollau am y pum mlynedd nesaf mae'r Ceidwadwyr. Dyw cyfrifoldeb dros y pontydd ddim wedi datganoli. Am wn i mae'r blaid yn credu y byddai'n bosib cyrraedd rhyw fath o gytundeb gyda "Severn River Crossing" - y cwmni preifat wnaeth godi'r groesfan a thrwy hynny cael yr hawl i godi tollau ar y ddwy bont tan tua 2017.
Efallai'n wir y byddai hynny'n bosib ond go brin y byddai'r cwmni yn fodlon goddef unrhyw gwymp yn ei elw sylweddol. Fe fyddai'n rhaid digolledi'r cwmni o'r coffrau cyhoeddus - yn wir, allan o cyllideb y Cynulliad.
Dadlau dros drosglwyddo'r cyfrifoldeb am y pontydd, neu ran ohono, i'r Cynulliad mae Plaid Cymru. Gallai hynny ond digwydd ar ôl i'r cytundeb presennol ddod i ben yn 2017. Yn ôl y blaid pe bai hynny'n digwydd gallai tollau i geir ddisgyn i ryw ddwy bunt - y swm sy'n angenrheidiol i gynnal a chadw'r croesfannau.
Mae'n ddigon posib y byddai adran drafnidiaeth y DU yn ddigon parod i olchi eu dwylo o'r pontydd. wedi'r cyfan dyn a ŵyr pa fath o waith cynnal a chryfhau bydd angen wrth iddyn nhw heneiddio.
Ar y llaw arall fe fyddai'n sefyllfa braidd yn rhyfedd. Wedi'r cyfan, mae hanner yr ail groesan a'r cyfan o Bont Hafren yn Lloegr. Cofiwch, os oes 'na wirionedd yn chwedl Awstin Sant ac Esgobion Cymru does 'na ddim llawer o gynsail i gytundeb rhwng y Cymry a'r Saeson ym mhentref Awst!