³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tric brwnt - ond gan bwy?

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Mawrth, 5 Ebrill 2011

Taflen Hain

Mae hon yn stori ryfedd ac mae angen talu sylw i'r manylion.

Ddydd Iau diwethaf (Mawrth 31ain) ymddangosodd post ar Flog Menai yn cynnwys y daflen hon - taflen yr oedd awdur Blog Menai, Cai Larsen wedi derbyn mewn e-bost. Nid Cai greodd y daflen a dywed yn y post nad yw'n cytuno a'r cynnwys.

Cymerwch eiliad i edrych ar y daflen. Mae'n ymddangos mai sgan o daflen bapur yw hwn. Gellir gweld yn eglur lle'r oedd y daflen wedi ei phlygu. Fe'i cyhoeddwyd gan grŵp o'r enw "United and Welsh" ac mae'n cymell pleidleisio tactegol yn erbyn Llafur. Nid yw'r daflen yn cynnwys unrhyw wybodaeth am y grŵp nac unrhyw ffordd o gysylltu â nhw.

Nawr os ydych chi'n chwilio'r we fe wnewch chi ganfod bod 'na sy'n honni bod yn eiddo i'r grŵp. Mae'n safle digon cyntefig - yn ddim byd mwy na thudalen flaen a dolen i'r daflen. Mae'n amlwg mai'r sgan o'r daflen oedd ar Flog Menai sy'n cael ei defnyddio ar y gwefan nid y gwaith celf gwreiddiol. Mae hynny'n awgrymu i mi nad yr un bobol neu berson oedd yn gyfrifol am y daflen a'r wefan.

Cofrestrwyd y wefan ar y cyntaf o Ebrill - y diwrnod ar ôl i'r daflen ymddangos ar Flog Menai. Fe gofrestrwyd y wefan gan "United and Welsh" gan roi cyfeiriad swyddfa a rhif ffôn swyddfa Ieuan Wyn Jones yn Llangefni.

Gan ddefnyddio'r hawl i ddweud beth a fynno yn NhÅ·'r Cyffredin honnodd Chris Bryant bod hi'n amlwg "mai pobol yn swyddfa Ieuan Wyn Jones oedd yn gyfrifol am y wefan". Fe gafodd ei geryddu gan y llefarydd am wneud y sylw.

Mae 'na esboniad arall wrth gwrs - sef bod rhywun wedi defnyddio delwedd o flog Menai i greu gwefan gan ddefnyddio cyfeiriad swyddfa Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru'n gwadu'n blwmp ac yn blaen bon unrhyw gysyltiad rhwng y blaid a'r wefan na'r daflen.

Fel mae'r pennawd yn dweud - tric brwnt ond gan bwy?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:01 ar 5 Ebrill 2011, ysgrifennodd Mei:

    Yn ôl Network Solutions, mae'r wybodaeth gofrestru wedi'i ddileu:

    networksolutions.com/whois-search/unitedandwelsh.com

  • 2. Am 19:11 ar 5 Ebrill 2011, ysgrifennodd Dylan:

    Mae'r peth bron yn ddoniol.

    Dw i'n siwr bod yr unigolyn sy'n gyfrifol am y daflen wedi rhyfeddu at yr holl sylw.

    Mae Bryant wedi gwneud twpsyn anferth o'i hun trwy feio Plaid Cymru ar sail y manylion cyswllt ffug, o leiaf. Ni fyddai hyd yn oed gelynion pennaf Ieuan Wyn Jones yn credu y byddai staff ei swyddfa mor ddwl â hynny. Yn hytrach, mae Plaid Cymru'n dod allan o hyn i gyd yn hapus braf yn amlwg ddi-euog, fel targed ymosodiad "False Flag" - - digon trwsgl a di-glem.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.