Ffwdan y Ffed
Diawch, mae Jonathan Edwards yn hoffi tynnu blew o drwyn! Efallai ei fod braidd yn amrwd fel gwleidydd ond, iesgob, mae'n dweud pethau diddorol. Fe achosodd ei ddoe ynghylch defnydd y cyfryngau o'r enwau "Llafur Cymru" a "Cheidwadwyr Cymru" gryn drafod yn y swyddfa ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni feddwl yn ei gylch. Y bore 'ma yn y mae Jonathan yn mynd cam ymhellach gan ddadlau y dylai esgyll "cenedlaethol" ac "unoliaethol" y blaid Lafur Gymreig wahanu.
Nawr, rwy'n gwybod o hir brofiad nad oes dim yn gwylltio pobol Llafur yn fwy nac honni bod ganddi ddwy asgell. Dim ond yr enw "Margaret Thatcher" sy'n gwneud mwy o niwed i'w pwysedd gwaed. Gwell efallai yw son am ddau draddodiad - traddodiad Aneurin Bevan a thraddodiad Jim Griffiths.
Mae gan Lafur bresenoldeb ym mhob rhan o Gymru. Yn wir gellid dadlau mae hi yw'r unig blaid sydd yn wirioneddol 'genedlaethol'. I raddau mae honiad Carwyn Jones mai Llafur yw "gwir blaid Cymru" yn fater o ffaith. Serch hynny mae ei datblygiad deallusol yn deillio bron yn llwyr o faes glo'r de ac mae'r gwahaniaethau rhwng y ddau draddodiad yn cychwyn yn gynnar iawn yn hanes y blaid.
Yn nwyrain y maes glo, asgell wleidyddol Ffederasiwn Glowyr De Cymru oedd y blaid Lafur. Rhyngwladoldeb ac undod y dosbarth gwaith oedd ei hefengyl.
Roedd y Ffed yn bwysig yn ardal y glo caled hefyd - roedd Jim Griffiths yn llywydd arni wedi'r cyfan. Ond roedd 'na ddylanwad arall ar ddatblygiad Llafur yng ngorllewin y maes glo. Y capeli oedd y dylanwad hwnnw. Roedd ciwed o weinidogion yr Annibynnwyr yn ardal y glo caled yn allweddol yn natblygiad yr ILP yn lleol. Roedd Niclas y Glais yn un ohonyn nhw. Roedd fy nhad-cu TM Roderick yn un arall. Gellir cael blas o'r cyfnod trwy wrando ar Gwenallt yn fan hyn.
Roedd y traddodiad hwn yn trysori Cymreictod a'r syniad o "werin". Mae pobol fel Carwyn Jones, Keith Davies a Gwenda Thomas wedi etifeddu'r traddodiad hwnnw.
Ond siomwyd rhai o'i sylfaenwyr yn ardal y glo caled gan Lafur. Wedi ei dadrithio mudodd rhai i'r blaid Gomiwnyddol ac eraill i Blaid Cymru. Pobol fel Jonathan ac Adam Price yw eu hetifeddion.
Nawr, mae Jonathan yn llygad ei le nad oes 'na fawr yn gwahaniaethu daliadau gwleidyddol rhai o fewn y blaid Lafur ac asgell chwith Plaid Cymru . Yn wir ar adegau mae'n rhaid ceisio creu gwahaniaethau ffug trwy ffetisheiddio annibyniaeth ar y naill ochor neu esgus bod yn "falch o fod yn Brydeiniwr" ar y llall.
Serch hynny mae'r syniad y gallai Llafur wahanu yn freuddwyd gwrach. Ar y cyfan nid ideoleg sy'n gwahaniaethu'r pleidiau yng Nghymru ond ymlyniad llwythol. Mae unrhyw un sy'n disgwyl i hynny newid yn y dyfodol agos yn amrwd a dweud y lleiaf!
SylwadauAnfon sylw
Mae'n syfyrdanol fod y cwestiwn hwn wedi codi o gwbwl mor gynar ar ol y refferendwm! Mae bobol o bob plaid yn meddwl yn whanaol am y wleidyddiaeth Gymreig, a gall dim byd on da ddod ohono.