Jim Cro Crystyn
Yn wahanol i'r Unol Daleithiau dyw'r term "voter suppression" ddim yn un sy'n gyfarwydd iawn i bobol y gwledydd yma. Efallai bod hynny ar fin newid.
Fe ddechreuodd yr arfer yn nhalaethiau deheuol yr UDA ar ôl y rhyfel cartref. O ganlyniad i fuddugoliaeth gwyr y Gogledd gorfodwyd i'r taleithiau deheuol ganiatáu i bobol ddu, neu yn hytrach dynion duon, bleidleisio. "Voter suppression" oedd y dulliau a ddefnyddiwyd i rwystro'r bobol hynny rhag cofrestri. Yn amlach na pheidio roedd 'na ymdrech i roi wyneb parchus ar yr arfer trwy ei alw'n brawf llythrennedd neu brawf gwybodaeth. Gallwch weld un o'r rheiny yn .
Weithiau roedd y peth yn gwbwl ddigywilydd gan ofyn ,er enghraifft, i bobol faint o losin oedd mewn jar neu fygwth diswyddo person am gofrestri. Fe gafodd y profion eu gwahardd gan y "Voting Rights Act" yn 1965 - un un o fuddugoliaethau mawr yr ymgyrch hawliau sifil. Yn ogystal fe osododd y Mesur etholiadau yn y rhan fwyaf o daleithiau'r de ac ambell i sir a thref arall o dan oruchwyliaeth ffederal. Yn 2006 arwyddodd George W Bush orchymyn yn ymestyn yr oruchwyliaeth honno am chwarter canrif arall.
Roedd 'na reswm da dros wneud hynny. Mewn sawl talaith nad yw'n cael eu goruchwylio mae mesurau wedi eu cyflwyno i wneud hi'n anoddach i bleidleisio trwy, er enghraifft, ofyn i bleidleiswyr ddangos trwydded yrru. Yn anorfod bron y bobol dlotaf a mwyaf difreintiedig sy'n cael eu heffeithio ac mae hynny'n cynnwys canran uchel o bobol ddu - pleidleiswyr mwyaf ffyddlon y Democratiaid. "Voter Fraud measures" yw term y Gweriniaethwyr am y mesurau hyn. "Voter Suppression" yw term y Democratiaid.
Ym Mhrydain dros y ddegawd ddiwethaf mae sawl achos wedi cyrraedd y llysoedd lle cofrestrwyd etholwyr ffug - hynny yn bennaf mewn wardiau a chanran uchel o leiafrifoedd ethnig. Dim ond achosion amlwg sydd wedi arwain at achosion llys. Does wybod felly pa mor gyffredin yw'r broblem ond er mwyn ceisio eu datrys fe fydd system lle fydd unigolion yn gorfod cofrestru yn hytrach na chofrestri fesul cartref yn cael eu cyflwyno yn 2014.
Mae darn hynod o bwysig o waith ymchwil ynghylch y newid wedi ei gyhoeddi gan Brifysgol Abertawe heddiw. Dengys hwnnw bod y canran o etholwyr sydd wedi eu cofrestri wedi gostwng o 95% i oddeutu 91% heddiw. Yng Ngogledd Iwerddon lle cyflwynwyd cofrestru unigol rhai blynyddoedd yn ôl mae'r nifer sy'n cofrestru wedi gostwng i 82% erbyn hyn - a hynny mewn talaith sydd yn draddodiadol yn hynod wleidyddol.
Does dim angen bod yn broffwyd i synhwyro ein bod yn wynebu sefyllfa lle na fydd enwau hyd at chwarter yr etholwyr ar y cofrestri etholiad.
Yn ystod yr etholiadau lleol yma yng Nghymru yn 2008 fe ymchwiliodd yr heddlu i bum achos o dwyll etholiadol. Hyd y gwn doedd dim un achos llys.
Mae 'na gwestiynau difrifol iawn yn fan hyn. Ydyn ni ar fin "llifio coes i leddfu clwyf" gan achosi llawer mwy o niwed i'n democratiaeth nac ambell i ddihiryn yn ceisio bwrw mwy nac un bleidlais? Wedi'r cyfan pa fath o "gymdeithas fawr" sy'n cau miloedd o'i phobol fwyaf difreintiedig allan o'i gorsafoedd pleidleisio?
Mae'r adroddiad llawn yn ac os ydych chi'n pendroni ynghylch y pennawd mae'r esboniad yn a fan hyn!