Carl a'r Cynghorau
Dyma i chi gyffro! Mae ad-drefnu llywodraeth leol yn ôl yn y newyddion a'r pendil yng Nghymru yn symud tuag at ganoli ar yr union adeg y mae'r pendil yn Lloegr yn symud i'r cyfeiriad arall. Beth sy 'na i ddweud na ddywedyd eisoes a ble mae dechrau wrth drafod y pwnc hwn?
Wel, beth am ddechrau yn y darn bach o swbwrbia Caerdydd lle ces i fy magu a mynd yn ôl i'r flwyddyn 1081 - ymhell cyn i Gymdeithas y Pentrefi Gardd, Barratt Homes a Wimpy gael gafael ar diroedd yr Eglwys Newydd a Rhiwbeina?
1081 oedd y flwyddyn pan gododd y Normaniaid eu castell newydd yng nghanol Caerdydd ond bychan oedd y drefedigaeth newydd a chyfyng ei hawdurdod hyd yn oed ar ôl lladd Tywysog olaf Morgannwg yn 1093. Os ydy'r chwedloniaeth yn gywir yn ystod brwydr yn Rhiwbeina mewn cae wrth ymyl fy nghartref teuluol y digwyddodd tranc Iestyn ap Gwrgant. Coeliwch neu beidio pan oeddwn i'n grwt roedd y Ceidwadwyr lleol yn trefnu digwyddiad blynyddol i ddathlu'r digwyddiad hwnnw!
Nid bod marwolaeth Iestyn wedi gwneud llawer o wahaniaeth i bobol y cylch. Fe barodd yr ardal i fod yn rhan o Arglwyddiaeth Senghennydd gan gael ei gweinyddu trwy ddeddfwriaeth Gymreig am ganrifoedd ar ôl hynny. Yn 1316, deng mlynedd ar hugain ar ôl cwymp tywysogion Gwynedd arweiniodd Llywelyn Bren o Felin Grufydd wrthryfel gwyr Morgannwg i amddiffyn y breintiau hynny.
Beth sydd a wnelo hyn oll ac ad-drefnu llywodraeth leol? Wel, fe barodd yr hollt rhwng gweddill Caerdydd a'i phlwyf mwyaf gogleddol am gyfnod maith iawn - hyd fy nyddiau i mewn gwirionedd. I Neuadd y Dref Caerdydd y byddai Dad yn mynd i dalu'r trethi lleol nid i Neuadd y Ddinas a Chyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd a Chyngor Sir Morgannwg nid Cyngor Dinas Caerdydd oedd ein cynghorau ni.
Doedd dim synnwyr o gwbl yn perthyn i'r peth a doedd dim synnwyr wedi perthyn iddo am ganrifoedd ond i genedlaethau o wleidyddion roedd potsio gyda threfniadau llywodraeth leol o fwy o ddrwg nac o werth.
Ceisiwyd dod o hyd i bob math o ffyrdd i wneud i'r hen drefn weithio cyn i Ysgrifennydd Cymru Peter Thomas benderfynu mai digon oedd digon a bod yn rhaid i bethau gwallgof fel y Sir Fflint wasgaredig ddiflannu.
Ar y cyfan roedd y drefn a gyflwynwyd yn 1973 yn ddigon synhwyrol. Roedd ambell i Gyngor Dosbarth yn rhy fach ond roedd y drefn o wyth Cyngor Sir a thrideg saith Cyngor Dosbarth yn gymharol effeithlon.
Y siroedd oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau mawrion ac i bob pwrpas yr un fyddai rôl y grwpiau rhanbarthol y mae Carl Sargeant yn dymuno gweld yn cael eu creu. Fe fyddai rôl y cynghorau unigol yn ddigon tebyg i rôl yr hen gynghorau dosbarth.
Y broblem amlwg da'r cynllun yw'r peryg o ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd. Fe fydd yn rhaid i'r llywodraeth roi llawer mwy o gig ar esgyrn y cynllun hwn cyn i gynghorwyr nac ethiolwyr ei lyncu.
Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod mwy a mwy o gynghorwyr yn dod i'r un casgliad ac arweinydd Gwynedd, Dyfed Edwards - os ydych chi eisiau adrefnu - er mwyn y nefoedd adrefnwch!