Drwgdeimlad
Anaml iawn y mae sesiynau cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Bae yn cynnig yr un fath o theatr wleidyddol a fersiwn San Steffan. Roedd y rhai yn yr wythnosau cyn tranc Llywodraeth Alun Michael yn rhai difyr - i ni oedd yn gwylio o leiaf. Prin yw'r sesiynnau cofiadwy ers hynny.
Wythnos yn ôl cafwyd arwydd bod pethau'n dechrau newid ychydig. Mewn cyfres o gwestiynau bachog fe ymosododd Ieuan Wyn Jones ar y Llywodraeth am beidio â chyhoeddi yr un cynllun cyfalaf newydd ers etholiad mis Mai. Roedd hi'n amlwg nad oedd Carwyn Jones wedi rhagweld yr ymosodiad na pharatoi ar ei gyfer. Am unwaith roedd ei atebion yn ymddangos braidd yn ansicr.
O fewn munudau i ddiwedd y sesiwn roedd sbin ddoctoriaid y Llywodraeth wrthi'n brysur yn mynnu bod rhaff o gynlluniau wedi eu cyhoeddi a bod cyhuddiadau arweinydd Plaid Cymru yn gamarweiniol neu hyd yn oed yn gelwyddog. Fel prawf o hynny ddoe cyhoeddodd y Llywodraeth yn brolio ynghylch gwariant cyfalaf eleni.
Ymlaen a ni at rownd 2 felly. Cyn i Ieuan gael ei gyfle yn y sesiwn gwestiynau heddiw cafwyd gornest fach stormus rhwng y Prif Weinidog ac Andrew RT Davies. Mae'r rhain yn mynd yn dipyn o ddefod gydag arweinydd yr wrthblaid yn holi am ryw agwedd neu'i gilydd o waith Llywodraeth Cymru a Carwyn yn ymateb trwy ymosod ar record Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Y Gwasanaeth Iechyd oedd dan sylw heddiw ac fe gynhaliwyd y ddefod wythnosol gyda rhwystredigaeth Andrew yn amlwg wrth iddo ddod yn agos iawn at golli ei dymer a mynnu gofyn un cwestiwn mwy na'i haeddiant. Efallai ei fod yn ymwybodol y byddai'r Llywydd yn gyndyn iawn i rwystro Ceidwadwr rhag siarad ar ôl embaras ei meic agored wythnos ddiwethaf!
Gwres nid goleuni y cafwyd o'r ffrwgwd bach yna. Cwestiynau Ieuan oedd yn bwysig yw wythnos hon am resymau y dof atynt yn y man.
Fe ddechreuodd arweinydd Plaid Cymru trwy drafod datganiad newyddion ddoe. Doedd dim byd newydd yn y peth meddai - yr un oedd y cynnwys i bob pwrpas a a rhyddhawyd gan Lywodraeth Cymru'n Un cyn yr etholiad. Ieuan ddylai wybod - mae'n cael ei ddyfynnu yn y datganiad gwreiddiol. Doedd na ddim prosiectau newydd meddai nac un rhaw yn torri daear Cymru o ganlyniad i benderfyniadau'r Llywodraeth.
Gwadodd Carwyn yr honiad ond roedd Ieuan yn ei hwyliau erbyn hyn ac yn adeiladu tuag at wneud cyhuddiad y mae Plaid Cymru wedi bod yn braenaru'r tir ar ei gyfer ers rhai wythnosau.
Yn y bon y cyhuddiad yw bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar ei dwylo gan feddwl bod 'na fantais wleidyddol i Lafur mewn caniatau i economi Cymru ddirywio a beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y dirywiad hwnnw.
Mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Yn reddfol rwy'n berson sy'n credu yn rasel Hanlon - "never attribute to malice that which is adequately explained by stupidity" ond does dim dwywaith bod y naratif gwleidyddol y mae Plaid Cymru yn ceisio ei greu un a allasai brofi'n effeithiol.
Y broblem i Lafur - ac efallai i Blaid Cymru yw hon. Ar ôl gwneud cyhuddiad o'r fath fe fydd hi'n anodd iawn i Blaid Cymru gefnogi cyllideb y Llywodraeth heb newidiadau sylfaenol i'w chynnwys - yn fwyaf arbennig cyflymu prosiectau cyfalaf a chynyddu'r gwariant ar ddatblygu economaidd.
Beth fydd y Llywodraeth yn gwneud felly - ildio i Blaid Cymru neu droi at y 'Condemiaid' diawchedig yna? Dyw hi ddim yn ddewis dymunol i Lafur ond dyna'r dewis syn ei wynebu. Fe fydd yr wythnosau nesaf yn rhai diddorol.