Arian yn y banc
Go brin fod yr enw Sir Julian Hodge yn golygu rhyw lawer i unrhyw un o dan hanner cant heddiw. Efallai bod ganddo'ch gof iddo ariannu'r ymgyrch 'na' yn refferendwm 1997 neu eich bod wedi sylwi ar ei enw ar bencadlys banc bychan yng nghanol Caerdydd ac ambell i ddarlithfa.
I'r rheiny ohonom cafodd ein magu yn y pumdegau neu'r chwedegau ar y llaw arall mae enw Sir Julian yn gyfarwydd iawn. O'i swyddfa ar ben adeilad uchaf Cymru (Gwesty Holland House erbyn hyn) roedd Sir Julian yn gallu syllu allan ar deyrnas o fusnesau amrywiol na welwyd ei thebyg yng Nghymru ers hynny. Ymhlith y gwahanol fusnesau yr oedd Sir Julian wedi eu casglu ar hyd y blynyddoedd roedd siop James Howells, casgliad o fodurdai, cwmni cacennau Avana, dwsin o sinemâu a'r "Hodge Card" - y cerdyn credid cyntaf ym Mhrydain.
Yn wir benthyg arian oedd sylfaen y cyfan. Nid fan hyn yw'r lle i ail-adrodd yr holl gyhuddiadau ynghylch y graddfeydd llog yr oedd cwmnïau Hodge yn eu codi ond teg yw dweud efallai nad oedd yn dangos yr un fath o haelioni i'w gwsmeriaid ac yr oedd yn dangos tuag at elusennau ac achosion da.
Fel sawl Ozymandias arall roedd Syr Julian yn dymuno gadael marc ar ei ôl a'r ddwy gofeb fawr yr oedd yn deisyfu eu gweld oedd Cadeirlan newydd i Gatholigion Caerdydd a banc i hybu busnesau Cymreig.
Daeth fawr ddim o'r cynllun am Gadeirlan. Dadorchuddiwyd carreg sylfaen yn ôl yn yr wythdegau. Duw - neu'r Archesgob a wyr lle mae hi nawr. Doedd Archesgobaeth Caerdydd ddim yn orawyddus i fwrw ymlaen a'r cynllun. Fe fyddai'r adeilad llawer yn rhy fawr i anghenion yr Eglwys ac wrth gwrs roedd 'na gwestiynau anodd ynghylch tarddiad yr arian oedd yn cael ei gynnig.
Cafodd Syr Julian fwy o lwyddiant gyda'r banc. Fe'i sefydlwyd yn 1971 er yn ôl pob son roedd yn rhaid iddo odro pob owns o'i gyfeillgarwch a Jim Callaghan er mwyn cael gwneud.
"Banc Masnachol Cymru" oedd enw'r peth i ddechrau ar roedd ganddo bencadlys ysblennydd cyferbyn a Chastell Caerdydd. "Plas Glyndŵr" yw enw'r adeilad erbyn hyn ac yn eironig ddigon mae gartref i weision sifil yr adran datblygu economaidd.
Byr oedd oes y Banc. Methodd datblygu'r rhwydwaith o ganghennau yr oedd Sir Julian wedi ei rhagweld er iddo lwyddo i gael gwared a'r 'masnachol' yna o'r enw. Fe'i prynwyd yn y diwedd gan y "Bank of Scotland" a rhoddodd hwnnw'r gorau i ddefnyddio'r enw yn gynnar yn ganrif hon.
Ym mol HBOS y mae Banc Cymru heddiw felly ac ym mol banc Lloyds y mae hwnnw. I bob pwrpas eiddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw'r cyfan.
Yn 2009 ysgrifennodd Geraint Talfan Davies yn galw am drosglwyddo perchnogaeth 'Banc Cymru' i Lywodraeth Cymru. Does dim eiddo gan y banc erbyn hyn ond dadl Geraint oedd bod 'na werth i'r enw ac awgrymodd sawl ffordd y gellid ei ddefnyddio.
Efallai bod a wnelo'r ffaith bod ei ewythr Alun Talfan Davies yn Gadeirydd ar y banc rywbeth a brwdfrydedd Geraint ond mae'n anodd iawn anghytuno a'i sylwadau. Mae popeth sydd wedi digwydd ers 2009 - yn enwedig methiant y banciau i fenthyg i fusnesau bychan wedi cryfhau ei ddadleuon.
Fe fyddai Banc Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain eleni. Onid yw hi'n bryd edrych eto i lenwi'r twll yn yr economi Gymreig?