³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ac Ambell Sbrigyn...

Vaughan Roderick | 10:52, Dydd Iau, 3 Tachwedd 2011

Gyda'r Euro yn y fantol a'r economi byd-eang yn gwegian maddeuwch i mi am fentro blogbost bach ynghylch pwnc sy'n ymylol i fywydau pob dydd pobol Cymru - a dweud y lleiaf. Wedi'r cyfan chwi gewch y newyddion ar y dudalen newyddion - does dim byd yn bod ar ledaenu ychydig o glecs ar y dudalen hon.

Mae'n debyg eich bod wedi clywed am helynt Rosemary Butler ddoe wrth i feicroffon agored ei dal yn sibrwd "Oh here we go now" wrth i Mark Isherwood ddechrau ar araith yn ymosod ar record economaidd y Llywodraeth Lafur diwethaf yn San Steffan.

Mae'n anodd credu nad mynegi rhwystredigaeth a'r Aelod oedd y Llywydd - nid o reidrwydd am resymau pleidiol. Mae sawl gwleidydd a newyddiadurwr (gan gynnwys fi) yn dechrau diflasu wrth i slapstic y ddadl wleidyddol Brydeinig gael ei llusgo'n fwyfwy aml i mewn i sesiynau'r Cynulliad. Mae'n debyg y byddai 'na gydymdeimlad â Rosemary Butler pe bai wedi esbonio mai dyna oedd yn gyfrifol am ei geiriau anffodus.

Yn lle hynny cafwyd datganiad oedd yn atgoffa dyn o'r olygfa yn Casablanca lle mae Cyrnol Renault yn esgus cael ei synnu o ddarganfod bod hapchwarae'n digwydd yng nghaffi Rick. Chi'n cofio.

"I'm shocked, shocked to discover that Gamblings been taking place"

"Your winnings, sir"

Yn yr un modd roedd y Llywydd wedi "arswydo gan yr awgrym bod ei geiriau'n cyfeirio at Aelod Cynulliad". At beth oedden nhw'n cyfeirio felly? Ni chafwyd esboniad.

Nawr mae 'na bobol sy'n wfftio hyn i gyd. Wedi'r cyfan, maen nhw'n dadlau, mae Llefarydd TÅ·'r Cyffredin yn dweud pethau llawer mwy haerllug wrth aelodau'r Siambr honno. Gyda phob dyledus barch iddyn nhw mae'r bobol hynny yn colli'r pwynt yn gyfan gwbwl.

Pe bai Rosemary Butler wedi dweud yr union eiriau ar goedd yn hytrach na dan ei gwynt ac wedi esbonio eu hystyr - fyddai na ddim problem. Fyddai 'na ddim problem chwaith pe bai Mrs Butler yn boblogaidd ac yn uchel ei pharch ymhlith trwch aelodau'r Cynulliad. Yn anffodus nid fel 'na mae pethau.

Efallai bod Mrs Butler yn dioddef oherwydd cymariaethau rhyngddi hi a'i rhagflaenydd, Dafydd Elis Thomas neu rhyngddi hi a'i dirprwy, David Melding ond y gwir amdani yw bod nifer o aelodau ar draws y Siambr wedi ei siomi gan ei pherfformiad. Mae rhai o'r cwynion yn blentynnaidd braidd, rhai yn ddi-sail efallai, ond mae mwy nag un aelod o'r farn y gallai na fod newid yn y Llywyddiaeth ymhell cyn diwedd oes y pedwerydd cynulliad. Fe gawn weld.

Yn y cyfamser rwy'n difaru am y tro cyntaf nad yw'r blog yma yn Saesneg. Byswn wedi dwli gallu ysgrifennu'r pennawd "Is time running out for Rosemary?"!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:06 ar 3 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Andy Bell:

    "Sage" fuost ti erioed. Parsley bilif ! Ac rwy'n tipyn o "dil'". That's all folks!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.