Amser maith yn ôl
Un mlynedd ar hugain yn ôl i ddoe fe yrrwyd Margaret Thatcher i Balas Buckingham i gyflwyno ei hymddiswyddiad yn ffurfiol i'r Frenhines. Roedd yn ddiwedd cyfnod mewn gwleidyddiaeth ac ers hynny mae cenhedlaeth o etholwyr wedi tyfu i fyny heb unrhyw gof ohoni fel Prif Weinidog.
Go brin fod unrhyw un o dan ddeg ar hugain oed ac atgofion uniongyrchol o wleidyddiaeth y cyfnod. Nid bod hynny'n golygu nad oes gan rai o'r ifanc deimladau cryfion ynghylch y ddynes haearn. Mae'n debyg ei bod hi wedi bod yn destun sawl stori amser gwely - boed hynny fel bwci bo neu arwr! Dyma un arall.
Wel, blantos, ffrind gorau Margaret oedd Tina. Heb Tina ni fyddai hi wedi llwyddo i ennill tri etholiad o'r bron. Roedd yn gyfnod unigryw bron yn hanes gwleidyddol Prydain - cyfnod lle doedd na fawr o gysylltiad rhwng cyflwr yr economi a ffawd etholiadol y Llywodraeth. Yn wir cafodd Mrs Thatcher ei buddugoliaeth fwyaf yn 1983 pan oedd yn economi ar ei din a nifer y di-waith ymhell dros dair miliwn. Roedd cyflwr y Blaid Lafur a Rhyfel y Falklands yn rhannol gyfrifol am y fuddugoliaeth honno ond roedd a wnelo Tina llawer a'r peth hefyd.
I'r rheiny sydd ddim wedi ei chwrdd o'r blaen acronym yw Tina sy'n sefyll dros "There Is No Alternative". Honno oedd y fantra Geidwadol oedd yn mynnu nad oedd dewis arall ond preifateiddio, llacio rheolaeth y banciau a'r marchnadoedd arian a chyflymu tranc y diwydiannau trymion a rhannau helaeth o'r diwydiant cynhyrchu.
Fe fydd angen cymorth Tina ar y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf, dybiwn i.
Beth bynnag oedd ei gymhellion economaidd roedd strategaeth wleidyddol George Osborne yn weddol amlwg o'r eiliad y croesodd trothwy 11, Downing Street am y tro cyntaf. Y bwriad oedd rhoi llwyth o foddion cas i'r sector gyhoeddus a'r trethdalwr yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth yn y gobaith y byddai 'na arwyddion economaidd addawol erbyn cynnal yr etholiad nesaf yn 2015. Mewn byd perffaith fe fyddai'r ystadegau'n ddigon da i allu torri rhyw faint ar drethi.
Wel, mae'r byd ymhell o fod yn berffaith. Yn ôl ystadegau'r OBR a gyhoeddwyd heddiw y disgwyl y bydd diweithdra o hyn yn 2.4 miliwn adeg yr etholiad nesaf. Yn y sector gyhoeddus fe fydd gweithwyr wedi goddef pum mlynedd o ddirywiad yn eu cyflogau a'u safonau byw. Fe fydd hynny'n wir am sawl un yn y sector breifat hefyd.
Oni ellir darbwyllo'r etholwyr nad oedd 'na ddewis arall go brin y bydd pobol yn teimlo fel gwobrwyo pleidiau'r Llywodraeth.
Beth bynnag yw'r cyfiawnhad economaidd dros y mesurau a gyhoeddwyd ganddo heddiw mae'r peryg gwleidyddol i George Osborne yn amlwg. Gallai cymryd camau digon tebyg i'r rhai mae Llafur wedi bod yn galw amdanynt dros y deunaw mis diwethaf awgrymu i'r etholwyr bod ganddo fe ddau ddewis yn ôl yn 2010 - a'i fod wedi dewis yr un anghywir.