Byw ar y radio
Mae'n anodd anghytuno a gosodiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod 'dirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol' wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r dyddiau pan oedd gorsafoedd mewn ardaloedd cymharol ddi-gymraeg fel Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe yn cael eu gorfodi i ddarlledu oriau lawer o raglenni Cymraeg wedi hen ddiflannu. Cwffio i gael rhyw faint o'r iaith ar orsafoedd mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg mae ymgyrchwyr erbyn hyn.
Deddf Gyfathrebu (2003) yw'r drwg yn y caws. Canlyniad y ddeddf honno oedd rhoi'r gwaith o reoleiddio radio masnachol a chymunedol i gorff newydd sef OFCOM. Roedd gallu y corff hwnnw i osod amodau ar wasanaethau radio llawer yn llai na'i ragflaenwyr yw Awdurdod Radio a'r Awdurdod Darlledu Annibynol .
Teg yw gofyn a wnaeth Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iaith neu grwpiau protest sylweddoli'r peryg i wasanaethau radio Cymraeg ar y pryd?
Os naddo fe, pam? Os do fe, pam na gafwyd stŵr ynghylch y mesur ar y pryd?
Y naill ffordd neu'r llall mae pasio deddf 2003, o ystyried ei sgil effeithiau ar y Gymraeg, yn tueddu cryfhau dadl Richard Wyn Jones ac eraill sydd wedi awgrymu bod angen grŵp newydd i fonitro deddfwriaeth yng Nghaerdydd a San Steffan a lobio dros y Gymraeg.
Os am weld pwysigrwydd lobio ar ddeddfwriaeth does ond angen edrych yn fanwl ar ddeddf 2003. Yn sgil lobio gan y llond dwrn o grwpiau mawrion sy'n berchenogion ar y mwyafrif llethol o orsafoedd radio masnachol mae'r rheoleiddio ar y sector yn rhyfeddol o ysgafn. Mae'n ffaith rhyfedd fod y rheolaeth ar orsafoedd radio cymunedol llawer yn fwy llym.
Canlyniad hynny yw bod y cwmnïau mawrion yn cael gwneud mwy neu lai beth a fynnant a'u gorsafoedd tra bod grwpiau lleol fyddai'n dymuno cystadlu â nhw a'u dwylo wedi clymu.
Mae un rheol yn arbennig sydd yn bron yn amhosib ei ddeall. Gwaherddir gorsafoedd cymunedol rhag derbyn mwy na hanner eu hincwm o hysbysebion a noddi rhaglenni. Mae'r cymal yn bodoli i amddiffyn buddiannau gorsafoedd masnachol lleol - hyd yn oed oes ydy'r rheiny'n bethau swllt a dimau sy'n gwneud fawr mwy nac ail-ddarlledu rhaglenni rhwydwaith.
Heddiw mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y Gweinidog Iaith Leighton Andrews ei fod yn bwriadu "arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(5) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg (1993) i osod cynllun iaith sy'n cynnwys mesur wedi'i eirio'n briodol am yr ystyriaeth i'w rhoi gan Ofcom i'r Gymraeg wrth gyflawni ei swyddogaethau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd, yn gyffredinol yn ogystal ag fel agwedd ar "ddeunydd lleol" yn y Canllawiau Lleolrwydd".
Yr hyn mae'r gweinidog yn ceisio gwneud, yn sgil pwysau gan Gymdeithas yr Iaith a'r Bwrdd Iaith, yw defnyddio Deddf yr Iaith Gymraeg i osod cyfrifoldebau ar OFCOM yn ychwanegol at y rhai sy'n gynwysedig yn y Ddeddf Gyfathrebu.
Mae'n debyg mai barn cyfreithwyr OFCOM yw bod Leighton yn gweithredu y tu hwnt i'w bwerau trwy wneud hynny ac y byddai OFCOM yn gweithredu y tu hwnt i'w bwerau pe bai'n ceisio gosod amodau ieithyddol wrth ystyried caniatáu trwydded i orsaf leol.
Nid fy lle i yw barnu pwy sy'n gywir.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae'r datganiad yn 'arwyddocaol iawn'. Efallai ei fod e, efallai ddim. Mae'n debyg y bydd unrhyw newid yng nghynllun iaith OFCOM yn rhy hwyr i effeithio ar y ras am drwydded i ddarparu gwasanaeth radio yng Ngheredigion ac
mae'n annhebyg iawn y bydd unrhyw drwydded arall yn cael ei gynnig yng Nghymru cyn i Glymblaid San Steffan gyflwyno ei Mesur Cyfathrebu hi yn 2013.
Efallai bod y Gweinidog yn gosod marc ei fod am weld cymal iaith yn y Mesur Cyfathrebu nesaf - ond fe fydd angen mwy na marc i sicrhau hynny. Fe fyddai angen pwyso a lobio cadarn i sicrhau nad yw peiriant lobio'r gorsafoedd masnachol yn cael rhwydd hynt unwaith yn rhagor.