³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Codi Cwestiynau

Vaughan Roderick | 15:41, Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012


Anaml iawn rwy'n sgwennu adolygiad o un o sesiynau'r Cynulliad - ond roeddwn i'n teimlo bod sesiwn gwestiynau'r Prif Weindiog heddiw yn un ddadlennol - nid yn gymaint oherwydd y cynnwys ond oherwydd yr hyn yr oedd yn ei dweud ynghylch cyflwr gwleidyddiaeth Cymru a chryfderau a gwendidau'r pedair plaid a'i harweinwyr.

Mae Carwyn Jones wrth gwrs yn hynod o gyffyrddus mewn sesiynau cwestiynau. Byddai dyn yn disgwyl hynny gan fargyfreithiwr. Serch hynny wedi ei gelu ynghanol un o'i atebion heddiw roedd 'na gyfaddefiad ac ymddiheuriad. Cyfaddef bod 'na wallau gramadegol a sillafu yng nghais Llywodraeth Cymru am y Banc Buddsoddi Gwyrdd wnaeth Carwyn ac ymddiheuro i'r Cynulliad.

Fe fyddai'r Banc wedi bod yn wobr wych i Gymru ei hennill er bychan oedd y gobeithion o wneud hynny o'r cychwyn. Serch hynny roedd cyhoeddi dogfen oedd heb hyd yn oed wedi ei phrawf ddarllen yn gywir yn adlewyrchu'n gythreulig o wael ar y Llywodraeth - yn enwedig yr Adran Fusnes a Menter.

Mae dyn yn clywed achwyn cyson am yr adran honno'r dyddiau yma. Mae'r Pwyllgor Dethol Cymreig, Cyn-gadeirydd y WDA ac Adam Price ymhlith y rhai sydd wedi bod yn uchel eu cloch yn ddiweddar.

Mae sicrhau bod adran Edwina Hart yn gweithio'n effeithiol yn saff o fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Wedi'r cyfan, heb son am bwysigrwydd yr economi, pa wleidydd fyddai'n mwynhau gorfod ymddiheuro am gam-gymeriadu elfennol rhai o'i weision sifil?

Daeth yr ymddiheuriad wrth i Carwyn ateb cwestiynau gan Andrew RT Davies. Roedd honno'n fuddugoliaeth fach i Andrew ond dyna oedd yr unig un. Fe wastraffodd yr arweinydd Ceidwadol ei gwestiwn cyntaf a thrwy ofyn dau gwestiwn hirwyntog ac aml gymalog fe wnaeth hi'n hawdd i Carwyn eu swatio i'r neilltu.

Pan etholwyd Andrew yn arweinydd roedd hyd yn oed cefnogwyr Nick Ramsey yn credu y byddai'n ddyrniwr effeithiol. Mae'r ffaith ei fod yn methu codi cleisiau yn broblem gynyddol i'r blaid.

Leanne Wood oedd yr ail arweinydd i gwestiynu Carwyn. Mae nifer o bleidwyr yn credu mai ar lawr gwlad yn hytrach nac yn y siambr y bydd Leanne yn profi ei gwerth ac ennill ei phlwyf. Serch hynny mae'n rhaid iddi berfformio yn y Cynulliad.

Yn y ddwy sesiwn gwestiynau ers ei hethol yn arweinydd mae Leanne wedi gofyn cwestiynau adeiladol - tacteg sydd yn gwneud hi'n anodd iawn i Carwyn danio magnelau i'w chyfeiriad.

Roedd gwneud hynny er mwyn cyrraedd gwyliau'r Pasg heb roi'r cyfle i Carwyn geisio ei thanseilio yn gwbwl synhwyrol ond rhywbryd, yn hwyr neu'n hwyrach, fe fydd yn rhaid i Leanne ddechrau ymosod.

Yn sicr fe wnaeth Kirsty Williams hynny'n effeithiol heddiw wrth holi ynghylch problemau trigolion rhai ardaloedd wrth geisio cael gafael ar ddeintydd gwasanaeth iechyd. Mae Kirsty wedi cael cyfnod bach da yn ddiweddar - efallai oherwydd newidiadau yn staffio ystafell gefn ei phlaid. Beth bynnag yw'r rheswm gallai Andrew a Leanne ddysgu gwersi wrth ei gwylio.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.