Traed Moch
Mae 'na gyfnod yn dod ym mywyd pob Llywodraeth bron pan mae pethau'n dechrau mynd o le. Mae camgymeriadau polisi, ffaeleddau personol ac anlwc pur yn cyfuno i wneud i'r llywodraeth ymddangos fel un sydd wedi colli ei rheolaeth ar y sefyllfa.
Rhyw wythnos felly mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael yr wythnos hon. Mae camgymeriadau camsyniadau a chamymddwyn wedi gosod pwysau difrifol ar David Cameron a'i weinidogion. Wrth reswm mae Llafur wedi elwa o hynny ond go brin y gall yr wrthblaid hawlio'r clod am y cleisiau ar ambell i aelod o'r Cabinet. Nhw eu hun sy'n gyfrifol am y rheiny!
Dydw i erioed wedi deall yr honiad bod George Osborne yn rhyw strategydd gwleidyddol o fri. Mae'n cael ei ail-adrodd gan rai o newyddiadurwyr San Steffan fel pe bai'n ffaith - ond os oedd y Canghellor yn gymaint o athrylith a hynny fe fyddai'r Ceidwadwyr wedi ennill etholiad 2010. Go brin fod unrhyw wrthblaid swyddogol wedi methu ennill mwyafrif mewn amgylchiadau mor ffafriol - ac eithrio Llafur yn 1992, efallai.
Mae peth o broblemau'r Llywodraeth yn deillio o gyllideb George Osborne ei hun. Go brin y byddai unrhyw wleidydd gwironeddol graff wedi methu sylwi ar beryglon cyfuno torri trethi'r cyfoethog tra'n cynyddu'r graddfeydd i bensiynwyr ac fe fyddai pethau fel y dreth ar basteiod wedi cynnu clychau larwm. Serch hynny, dim ond dechrau ar bethau oedd y gyllideb.
Dim ond Peter Cruddas all esbonio'r rhesymau iddo 'frolio' ynghylch dylanwadu ar bolisiau'r Llywodraeth gerbron dau newyddiadurwr oedd yn esgus bod yn ddarpar gyfranwyr i'r Blaid. Faint o weithiau y mae pobol yn y byd gwleidyddol wedi cerdded mewn i drap tebyg dywedwch?
Mae'n bosib mai ymdrech i ddenu i sylw i ffwrdd o'r sgandal hwnnw oedd y penderfyniad i rybuddio'r cyhoedd ynglŷn â pheryglon streic gan yrwyr tanceri. Mae'r Llywodraeth yn gwadu hynny. Beth bynnag oedd y cymhelliad, mae naws Corporal Jones-aidd y rhybuddion wedi pery pryder diangen i fodurwyr ac argyfwng lle nad oedd un yn bodoli.
Fe ddywedais i ar y dechrau bod cyfnodau fel hyn yn digwydd ym mywyd sawl Llywodraeth ond gan amlaf maen nhw'n digwydd ar ôl blynyddoedd lawer mewn grym - wrth i hen benderfyniadau gael effeithiau annisgwyl ac wrth i gyn-weinidogion chwerw gronni ar y meinciau cefn.
Dyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn ddyflwydd oed eto. Fe ddylai hi o hyd fod yn profi cariad cyntaf yr etholwyr. Nid felly mae pethau.
Pam hynny? Efallai ei bod yn deillio o'r ffaith mai llywodraeth glymblaid yw hon neu efallai, dim on efallai, dyw yw ambell i Weinidog ddim hanner mor glyfar ac maen nhw'n ei feddwl.
SylwadauAnfon sylw
Yn bersonol, dwi'n tueddu i feddwl mai'r sylw a wnaed gan y miliwnydd o Brif Weinidog David Cameron sy'n arwain cabinet llawn dop dyn o filiwnyddion - "We're all in this together" - yw gwraidd amhoblogrwydd Llywodraeth y DU. Sut ar wyneb daear mae disgwyl cefnogaeth bobl cyffredin ar ol y fath sylw hurt? O leia mi fuasa "Unfortunately, you're all in this together and, er, we're sort of not" wedi enill rhyw fath o barch!