³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfri'r Ymgeiswyr

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Iau, 12 Ebrill 2012

Un o'r tasgau mwyaf sy'n wynebu'r Uned Wleidyddol ar drothwy etholiadau lleol yw'r gwaith o gasglu'r ystadegau ynghylch faint o ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiadau ac i bwy. Wrth i fi sgwennu'r geiriau yma mae dau o'n newyddiadurwyr wrthi'n palu trwy ffeiliau pdf di-ri er mwyn cael darlun cywir.

Dyw'r gwaith ddim wedi ei lwyr ddilysu eto ond gan fy mod yn holi Nick Clegg heddiw fe ofynnais am frasamcan ynghylch nifer ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol o gymharu â 2008. Roeddwn i'n synhwyro bod gostyngiad sylweddol wedi bod ac roeddwn i'n iawn yn hynny o beth.

Yn 2008 roedd gan y blaid 436 o ymgeiswyr. 341 yw'r nifer y tro hwn - gostyngiad o ryw 25%. Mae'r gostyngiad hyd yn fwy mewn ambell i ardal oedd arfer bod yn addawol iawn i'r blaid. Ym Mhen-y-bont, er enghraifft, lle'r oedd y blaid yn arwain y Cyngor am gyfnod ar ôl etholiad 2008 mae nifer ei hymgeiswyr wedi gostwng o 31 i 16. Yng Nghasnewydd mae'r nifer wedi gostwng o 47 i 25.

Ni ellir beio difaterwch cyffredinol am hyn. Mae'r tair prif blaid arall wedi llwyddo i gynyddu nifer ei hymgeiswyr ers 2008. Mae gan Lafur 887 o ymgeiswyr, 11 yn fwy na thro diwethaf. Mae'r Ceidwadwyr wedi enwebu 571 ymgeisydd y tro hwn o gymharu â 514 tro diwethaf ac mae nifer ymgeiswyr Plaid Cymru wedi cynyddu o 517 i 558. Mae hyd yn oed yr ymgeiswyr annibynnol ar i fyny o 600 i 651.

Wrth reswm mae'r mwyafrif llethol o'r wardiau y mae'r blaid wedi troi ei chefn arnyn nhw yn rhai lle'r oedd ymdrech 2008 yn aflwyddiannus. Serch hynny dyw'r ffaith bod y blaid yn ymladd brwydr mor amddiffynnol ddim yn argoeli'n dda.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:37 ar 12 Ebrill 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Mwy o ymgeiswyr Toriad na Plaid Cymru. Diddorol.

  • 2. Am 09:04 ar 13 Ebrill 2012, ysgrifennodd D. Enw:

    Ymgeiswyr ar gyfer cynghorau sir neu gymunedol yw'r uchod?

  • 3. Am 14:40 ar 13 Ebrill 2012, ysgrifennodd Richard:

    Gwych iawn. Diolch i pwy bynnag fan'na fu'n cyfrif. Am gythraul o joban!

    Un cwestiwn anoracaidd: ydi ffigyrau 2008 yn cynnwys yr ymgeiswyr yn Ynys Mon a'i peidio?

  • 4. Am 21:47 ar 13 Ebrill 2012, ysgrifennodd YR WYLAN:

    Yma yng Ngheredigion yr hyn sy’n synnu dyn yw mai ond un ymgeisydd sy’n sefyll yn enw’r Blaid Lafur yn etholiadau’r Cyngor Sir. Unwaith eto un gwr selog sy’n cario’r faner goch yng Ngeredigion. Os cofiaf yn iawn fe oedd yr unig ymgeisydd Llafur y tro diwethaf a’r tro cyn hynny. Beth mae hyn yn i ddweud am Lafurwyr y sir – ydyn nhw’n fyw neu’n farw?

    A beth mae hyn yn ‘i ddweud am blaid Carwyn Jones? Beth yw ei neges i ni etholwyr Ceredigion? Mae’n amlwg nad oes gan y Blaid Lafur unrhywbeth i’w ddweud wrthym. Unwaith eto mae Llafur yn ddigon bodlon byw ar deyrngarwch traddodiadol ei chadarnleoedd yn y cymoedd ac yn malio dim am y gweddill.

    Plaid ddiog yw’r Blaid Lafur.

  • 5. Am 22:03 ar 13 Ebrill 2012, ysgrifennodd YR WYLAN:

    Yma yng Ngheredigion yr hyn sy’n synnu dyn yw mai ond un ymgeisydd sy’n sefyll yn enw’r Blaid Lafur yn etholiadau’r Cyngor Sir. Unwaith eto un gwr selog sy’n cario’r faner goch yng Ngeredigion. Os cofiaf yn iawn fe oedd yr unig ymgeisydd Llafur y tro diwethaf a’r tro cyn hynny. Beth mae hyn yn i ddweud am Lafurwyr y sir – ydyn nhw’n fyw neu’n farw?

    A beth mae hyn yn ‘i ddweud am blaid Carwyn Jones? Beth yw ei neges i ni etholwyr Ceredigion? Mae’n amlwg nad oes gan y Blaid Lafur unrhywbeth i’w ddweud wrthym. Unwaith eto mae Llafur yn ddigon bodlon byw ar deyrngarwch traddodiadol ei chadarnleoedd yn y cymoedd ac yn malio dim am y gweddill.

    Plaid ddiog yw’r Blaid Lafur.

  • 6. Am 04:45 ar 23 Ebrill 2012, ysgrifennodd rental mobil:

    Erthygl Nice, diolch am rannu.

  • 7. Am 10:48 ar 25 Ebrill 2012, ysgrifennodd Y WYLAN:

    Wn i ddim a fydd y sylw yma yn ymddangos ar y blog. Yn fy mhrofiad i hap a damwain sy'n rheoli a fydd sylwadau yn ymddangos neu beidio.

    Mae fy sylw i wedi ymddangos ddwywaith a sylw remtal mobil wedi ymddangos dair gwaith. Dro ar ol tro dwi wedi cael neges yn dweud fod fy sylw wedi'i wrthod er mod i wedi copio'r llythrennau bach yn hollol gywir ac o fewn yr amser pennodedig.

    Vaughan, mae ise trwsio dy flog. Falle y cei di fwy o ymateb wedyn.

  • 8. Am 06:57 ar 26 Mehefin 2012, ysgrifennodd Jakarta Hotel:

    Erthygl Nice, Cadwch diweddaru

  • 9. Am 07:01 ar 26 Mehefin 2012, ysgrifennodd ayleen:

    Ydw i'n cytuno. Os gwelwch yn dda atgyweirio eich blog.
    diolch

  • 10. Am 07:09 ar 26 Mehefin 2012, ysgrifennodd riovinh:

    Cadwch postio a chadw i fyny gyda'r gwaith da

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.