Dŵr sy'n llifo dros y wlad...
Rhywle yn y tŷ mae gen i focs o recordiau sengl cynnar cwmni Sain. Dŵr Huw Jones oedd y record gyntaf un ac os cofiaf yn iawn roedd 'Tryweryn' gan Meic Stevens hefyd ymhlith yr hanner dwsin cyntaf. Mae'n brawf, os oes angen prawf, o ba mor bwysig oedd dŵr fel pwnc yng ngwleidyddiaeth Cymru yn sgil boddi Capel Celyn.
Nid Tryweryn a Chlywedog oedd yr unig gynlluniau i foddi cymoedd yng Nghymru yn y chwedegau. Diolch i brotestiadau ar y pryd mae ysblander creigiog Cwm Senni yn Sir Frycheiniog o hyd yno i'w fwynhau. Dydw i ddim yn cofio i unrhyw gynllun am gronfa ddŵr newydd godi ei ben ers hynny er bod son wedi bod am godi uchder ambell i argae er mwyn cynyddu maint cronfeydd.
Fe wnaeth Deddf Dŵr, 1973 lawer i ostegu'r dyfroedd - os gwnewch chi faddau'r geiriau mwys. Fe sefydlodd honno Awdurdod Datblygu Cenedlaethol Dŵr Cymru, rhagflaenydd sector gyhoeddus Dŵr Cymru, i fod yn gyfrifol am gyflenwadau dŵr y rhan fwyaf o'r wlad. Fe wnaeth hi hefyd greu mecanwaith i alluogi i'r Awdurdod godi am ddŵr a gyflenwyd o Gymru i Loegr.
Hanfod y system oedd gorfodi i Awdurdod Hafren Trent drosglwyddo rhydd-ddaliad unrhyw gronfa o'i eiddo yng Nghymru i'r Awdurdod Cymreig ac yna cytuno ar delerau prydles er mwyn cael defnyddio'r dŵr.
Pa mor berthnasol yw hynny i'r dadleuon presennol? Yn fy marn i mae'n berthnasol iawn gan ei fod yn datgan egwyddor bwysig sef hon: nid yw prynu tir a buddsoddi mewn codi cronfa yn gyfystyr a phrynu'r hawl i'r holl ddŵr y gellid ei gasglu. Ym marn gwleidyddion 1973, o leiaf roedd gan bobol Cymru, trwy eu hawdurdod cyhoeddus, berchnogaeth o'u dŵr.
Mae'n ymddangos bod Dŵr Cymru'n credu hynny hefyd. Mewn datganiad sydd wedi ei eirio'n hynod o ofalus dyma sydd gan y cwmni i ddweud.
"Mae hwn yn fater i lywodraeth ond, yn hanesyddol, mae dŵr wedi bod yn bwnc gwleidyddol hynod ddadleuol yng Nghymru a dychmygwn y byddai unrhyw benderfyniad ynghylch cronni a chyflenwi dŵr yn y dyfodol yn un a byddai'n derbyn cefnogaeth Llywodraeth a phobol Cymru"
Neu i ddefnyddio un o sloganau'r chwedegau - "Ni piau'r dŵr!"
SylwadauAnfon sylw
Felly er gwybodaeth Vaughan,
Ydy Dwr Cymru yn cael eu talu am y dwr mae Severn Trent yn ei ddefnyddio o gronfeydd Cymreig? Os ddim, ydy'r mecanwaith y 70au dal yn gyfraith?
Efallai nad oedd yn eglur o'r post mai cyfeiro at gronfeydd newydd oedd y cymal nid at rai oedd yn bodoli eisoes. Fel mae'n digwydd mae Dwr Cymru yn perchen ar rai o'r cronfeydd sy'n cyflenwi Lloegr (cronfeydd dyffrun Elan, er enghraifft) ond nid rhai eraill fel Clywedog.
Vaughan - fel arfer rwyt yn cyhoeddi niferoedd ymgeiswyr ethoiadau cyngor. Unrhyw obaith eleni?