Ond Dafydd Shôn fydd Dafydd Shôn
Dydw i ddim yn gwybod os oedd Crwys yn cyfeirio at unrhyw wleidydd penodol yn ei gerdd "Dafydd Shôn". Aneurin Bevan oedd Aelod Seneddol y bardd - cewch chi farnu ai'r cawr Llafur oedd dan sylw!
"Mae Dafydd Shôn fel hyn a'r fel,
Mae Dafydd Shôn yn glamp o ddyn,
A dweud y gwir mae Dafydd Shôn
Yn llawer gwell nag ef ei hun."
Efallai mai Bevan oedd dan sylw ond mae'n debyg mai dewis enw cyffredin wnaeth Crwys wrth gyfansoddi "Dafydd Shôn". Wedi'r cyfan mae 'na hen ddigon o David Jonesis yng Nghymru. Chi'n gweld lle rwy'n mynd da hwn nawr!
Mae'n ffaith ryfedd na chafodd yr un Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru neu'n brif lefarydd yr wrthblaid ar Gymru ers i Mrs Thatcher benodi Nicholas Edwards yn 1975.
Dydw i ddim yn deall hyd heddiw pam na chafodd Wyn Roberts y cyfle. Mae llawer mwy yn ei ben nac oedd yn un ambell i hurtyn penglogaidd wnaeth gael ei ddyrchafu ac fe fyddai Wyn wedi cychwyn ar y broses o gymreigio delwedd y blaid flynyddoedd cyn i Nick Bourne orfod wenud hynny.
Ta beth, "digon yw digon". Dyna'r neges syml gan Geidwadwyr Cymru i David Cameron - os am newid deiliad TÅ· Gwydr yna rhaid cael Cymro y tro hwn.
Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am hyn a chwi gofiwch broblem y Prif Weinidog. Yng ngeiriau Crwys "Dafydd Shôn yw Dafydd Shôn"! Anodd fyddai penodi rhyw un dros ben David Jones ond ni fyddai David ei hun yn ddewis poblogaidd yn San Steffan na'r Bae.
Beth wnaiff y Prif Weinidog felly? Gadael pethau fel maen nhw am y tro yw'r ateb mwyaf tebygol, dybiwn i, ond peidied neb a meddwl nad yw Cymru a chyflwr Ceidwadwyr Cymru yn peri pryder cynyddol i bobol fawr y blaid yn Llundain.
Roeddwn i'n pendroni ar y blog yr wythnos ddiwethaf ynghylch faint o aelodau sydd gan y blaid yng Nghyrmu erbyn hyn. Ers hynny mae deryn back wedi sibrwd y ffigwr yn fy nghlust. Fedrai ddim rannu'r union nifer da chi - ond gallaf ddweud fod y blaid wedi colli dwy ran o dair o'i haelodau ers 1999 a bod bron y cyfan o'i hincwm bellach yn dod o goffrau'r blaid yn Llundain.
Nawr dyw llond dwrn o Aelodau Seneddol o Gymru ddim yn mynd gwenud rhyw lawer i adeiladu mwyafrif i David Cameron yn yr etholiad nesaf ond dyw hynny ddim yn golygu bod Cymru'n ddibwys iddo.
Yn sgil methiant cymharol y blaid i ymsefydlu ei hun yng Ngogledd Iwerddon a'i chyflwr trychinebus yn yr Alban bodolaeth plaid gymharol lwyddianus yng Nghymru sy'n caniatau i'r Ceidwadwyr bortreadu ei hun fel plaid i Brydain gyfan.
Sut mae sicrhau llewyrch y blaid Gymreig yn y dyfodol yw'r cwestiwn. Go brin bod Dafydd Shôn yn rhan o'r ateb. Dyna o leiaf yw barn rhai o fewn ei blaid.