Rwy'n grac...
"Tinsel ar y goeden... seren yn y nen..."
Fe ddylwn i fod mewn hwyliau da Nadoligaidd - yn edrych ymlaen at frêc bach o'r gwaith ac ychydig o loddesta.
Dydw i ddim. Rwy'n flin. Rwy'n grac. Rwy'n wynad.
Yr "Office for National Statistics" sy'n gyfrifol am fy nhymer. Gwnâi ddim boddran cyfieithu'r teitl. Wedi'r cyfan dyw nhw ddim yn trafferthu gwneud.
Rhyw chwe mis yn ôl cefais lythyr gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan yn y "Labour Force Survey". Esboniwyd bod yr astudiaeth hon yn ail yn unig i'r Cyfrifiad o safbwynt pwysigrwydd y gwaith ac oherwydd hynny bod yn rhaid cael cyfweliad wyneb yn wyneb. Doedd llenwi ffurflen ddim yn ddigon da.
Roedd y llythyr yn uniaith Saesneg. Atebais yn ddigon cwrtais gan ddweud fy mod yn ddigon parod i gymryd rhan yn yr ymchwil ond fy mod yn dymuno gwneud hynny yn Gymraeg. Ces i ddim ateb.
Rhai wythnosau'n ddiweddarach ymddangosodd rywun ar stepen drws fy nghartref gan ddweud ei fod yn cynrychioli'r asiantaeth a'i fod yn dymuno fy holi ar gyfer yr astudiaeth.
Roedd y gweithiwr yn ddi-gymraeg. Brathais fy nhafod ac esbonio'n gwrtais yn Saesneg fy mod yn dymuno cael fy holi yn Gymraeg. Dywedodd y byddai'n gweld os oedd hynny'n bosib.
Rhai wythnosau'n ddiweddarach cefais alwad ffôn gan un o weithwyr yr asiantaeth oedd yn medru'r Gymraeg. Ymddengys fod yr angen i gael fy holi "wyneb yn wyneb" wedi diflannu. Fe fyddai ymateb dros y ffon yn ddigonol.
Dyna ddigwyddodd. Roedd y swyddog yn ddyn dymunol a'i Gymraeg yn ddigon pert - ond roedd hi'n gwbl amlwg ei fod yn cyfieithu'r holiadur off top ei ben ac yn ei llenwi yn Saesneg. Doeddwn i ddim yn hapus ond fel 'na mae bywyd weithiau.
Tan ddoe. Ddoe derbyniais lythyr arall gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan mewn "follow-up survey". Unwaith yn rhagor roedd y llythyr yn uniaith Saesneg.
Digon yw digon. Rwyf wedi cael llond bol. Rwyf wedi alaru ar eich deddfau iaith, eich byrddau, eich cynlluniau iaith, eich comisiynwyr a'ch safonau!
Y cyfan rwy'n dymuno ei gael yw tipyn o gwrteisi a thipyn o barch. Oes rhaid mynd trwy hyn bob tro?
Ydy hi'n anodd?
Nadolig Llawen.