Ffydd ac Argyfwng Catholigiaeth
Dydw i ddim yn gallu meddwl am bwnc lle mae'r farn gyhoeddus wedi newid cymaint yn ystod fy oes i a'r agwedd tuag at bobol hoyw. Pan lwyddodd Leo Abse i lywio'r Mesur Troseddau Rhywiol i'r llyfr statud yn 1967 fe ddywedodd yr ysgrifennydd cartref, y rhyddfrydwr mawr hwnnw, Roy Jenkins, hyn " those who suffer from this disability carry a great weight of shame all their lives". Go brin y byddai hyd yn oed David Davies yn dweud rhywbeth felly heddiw!
Wrth i'r Llywodraeth baratoi mesur i gyfreithloni priodasau hoyw mae ein gwleidyddion, os unrhyw beth, yn ymateb i newid yn y farn gyhoeddus yn hytrach na cheisio arwain un.
Yn ôl arolwg gan a gyhoeddwyd ar Ŵyl San Steffan mae 62% o'r etholwyr yn cefnogi'r newid a 31% yn gwrthwynebu.
Diwrnod ynghynt fe ddefnyddiodd Archesgob Westminster Vincent Nichols ei neges Nadolig i ymosod yn chwyrn ar y cynlluniau. Galwodd ar Gatholigion i ysgrifennu at eu haelodau seneddol i brotestio a'r wythnos hon gorchmynnodd roi'r gorau i gynnal offeren arbennig ar gyfer pobol hoyw a'u teuluoedd mewn eglwys yn Soho.
Roeddwn i'n crafu fy mhen braidd ynghylch pam yr oedd yr Archesgob, a'r Pab o ran hynny, wedi dewis dyrchafu'r pwnc hwn yn un canolog i'w negeseuon Nadolig. Yr ateb syml wrth gwrs yw bod priodasau hoyw ar y gorwel mewn sawl gwlad a bod y rheiny yn gwbwl groes i ddealltwriaeth yr Eglwys Gatholig o ysgrythur ac ewyllys Duw. Rhaid parchu hynny - ond mae gen i deimlad bod 'na rhywbeth arall yn mynd ymlaen hefyd.
Dros yr ŵyl fe wnes i ail-ddarllen campwaith R. Tudur Jones "Ffydd ac Argyfwng Cenedl" dwy gyfrol sy'n adrodd hanes crefydd yng Nghymru rhwng 1890 a 1914. Mae deall yr hyn ddigwyddodd i grefydd yn ystod y cyfnod hwnnw yn allweddol i ddeall yr hyn a ddigwyddodd i'r iaith Gymraeg hanner canrif yn ddiweddarach gan greu'r argyfwng ieithyddol yr ydym o hyd yn ceisio ymgodymi â hi.
Roedd Dr Tudur yn un o ysgolheigion Cymreig mwyaf yr ugeinfed ganrif ac mae "Ffydd ac Argyfwng Cenedl" yn amlinellu'n ofalus y ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol wnaeth arwain at gwymp y Capeli. Ond yn ogystal â bod yn ysgolhaig roedd Dr Tudur yn Gristion Protestannaidd o argyhoeddiad dwfn ac fe wnaeth hynny ei arwain at y casgliad bod dirywiad crefydd yng Nghymru hefyd yn deillio o fethiant yr eglwysi i gadw at y llwybr cul.
Mae "charge sheet" Dr Tudur yn un hir. Mae'n cynnwys enwadaeth, pregethu blodeuog ond gwag, diwinyddiaeth anwadal, pwyslais ar y bywyd cymdeithasol yn hytrach na'r un ysbrydol a sawl cyhuddiad arall. Yn ei hanfod mae'n amlwg bod Prifathro Bala-Bangor o'r farn y byddai ei goleg yn llawn pe bai'r eglwysi wedi glynu at yr hen wirioneddau.
Rwy'n synhwyro efallai bod 'na agwedd rhywbeth yn debyg yn yr Eglwys Gatholig ar hyn o bryd - ei bod hi wedi syllu at y stordai, tai a safleoedd gweigion oedd gynt yn Fethania, Tabernacl a Chalfaria ac wedi gweld ei dyfodol ei hun. Mae'n ymddangos bod yr eglwys wedi penderfynu mai trwy lynu at ei chredoau ac ymddiried yn Nuw y mae sicrhau ei pharhad. I anffyddiwr wrth gwrs mae "ymddiried yn Nuw" yn gyfystyr a "gobeithio am y gorau"!
Fe wnaed y penderfyniad. Claddwyd Fatican II. Does dim cyfaddawdu a gwerthoedd yr oes fodern i fod.
A fydd hynny'n arwain at lewyrch yr eglwys? Fe fyddai'n rhaid bod yn broffwyd i ateb hynny - a beth bynnag ydw i, dydw i ddim yn un o'r rheiny!
SylwadauAnfon sylw
Does dim angen bod yn broffwyd o gwbl. Fe wnaethpwyd ymdrech oddi fewn i ymneilltuaeth i gadw at yr hen gredoau ond oddi fewn i enwad newydd, sef y Mudiad Efengylaidd dan ddylanwad Martin Lloyd Jones. Be fu eu hanes?