Gwaed ar eu dwylo
Mae'n anodd credu bod hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers i'r Archentwyr oresgyn Ynysoedd Falkland. Go brin fod unrhyw un iau na deugain yn cofio'r peth. Eto o bryd i gilydd mae'r grachen yn cael ei chodi. Mae Arlywydd yr Ariannin wedi dewis gwneud hynny unwaith yn rhagor yr wythnos hon.
Roeddwn i'n gweithio mewn gorsaf radio masnachol adeg y goresgyniad ac rwy'n cofio'n dda'r sioc achosodd y peth. Roedd 'na ryw stori ynghylch dynion scrap ar ynys South Georgia wedi bod yn ffrwtian am rai wythnosau ond doedd neb gan gynnwys llywodraeth Margaret Thatcher, mae'n debyg, wedi talu llawer o sylw iddi.
Yr hyn sy'n ddiddorol yw mai gan bobol asgell-chwith y cafwyd yr ymateb fwyaf chwyrn i'r digwyddiad yn y dyddiau canlynol.
Doedd 'na ddim camerâu teledu yn Nhŷ'r Cyffredin ar y pryd ond rwy'n cofio gwrando ar y ddadl arbennig a gynhaliwyd yn San Steffan ar y dydd Sadwrn ar ôl y goresgyniad.
Yn groes i'r fytholeg sydd wedi datblygu ynghylch y rhyfel arweinydd yr wrthblaid, Michael Foot, nid Margaret Thatcher oedd y mwyaf ffyrnig ac unplyg ynghylch ymddygiad yr Ariannin a'r ffordd y dylai'r Deyrnas Unedig ymateb i'r sefyllfa. Gallwch ddarllen yr araith gyfan yn . Dyma ddarn ohoni.
"The people of the Falkland Islands have the absolute right to look to us at this moment of their desperate plight, just as they have looked to us over the past 150 years. They are faced with an act of naked, unqualified aggression, carried out in the most shameful and disreputable circumstances. Any guarantee from this invading force is utterly worthless--as worthless as any of the guarantees that are given by this same Argentine junta to its own people."
Roedd 'na ambell un ar y chwith gan gynnwys nifer o Genedlaetholwyr Cymreig yn anghytuno â Foot - ond prin oedden nhw. Pam hynny - a pham yr oedd gwleidydd oedd wedi treulio'i fywyd yn brwydro yn erbyn militariaeth a dros ddiarfogi mor gadarn ei farn? Mae'r ateb ym mharagraff nesa'r araith.
"We can hardly forget that thousands of innocent people fighting for their political rights in Argentine are in prison and have been tortured and debased. We cannot forget that fact when our friends and fellow citizens in the Falkland Islands are suffering as they are at this moment."
Does dim amheuaeth bod y rhan fwyaf o lywodraethau De America yn rhai hynod o fileinig a didostur yn y saithdegau a'r wythdegau. Roedd parodrwydd yr Unol Daleithiau ac i raddau'r Deyrnas Unedig i'w cynnal ac yn achos Chile ei chreu wedi bod yn dân ar groen y chwith ers blynyddoedd.
Roedd eu casineb tuag at lywodraethau fel un Pinochet yn Chile a jwnta'r Ariannin yn hen ddigon i drechu eu greddfau arferol ynghylch ymyrraeth filwrol a jingoistiaeth.
Dyna yw'r eironi mawr ynghylch ynysoedd Falkland. Cyn y goresgyniad roedd llywodraethau'r Deyrnas Unedig wedi bod yn anwybyddu'r lle ers degawdau. Roedd hi'n dipyn o gur pen ac yn gostus i bwrs y wlad. Deirgwaith fe gynigiodd y Deyrnas Unedig adael i'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol benderfynu dyfodol yr ynysoedd. Fe wrthododd yr Ariannin y cynnig bob tro.
Y gwir amdani, mae'n debyg, yw y byddai'r Deyrnas Unedig wedi bod yn fodlon dod i ryw fath o drefniant gyda'r Ariannin pe bai gan y wlad honno lywodraeth ddemocrataidd sefydlog a fyddai'n parchu hawliau'r trigolion.
Ar y llaw arall roedd y syniad o adael miloedd o ddinasyddion Prydeinig, hyd yn oed dinasyddion eilradd ynysoedd Falkland, ar drugaredd llywodraeth waedlyd Buenos Aires yn gwbwl wrthun.
Pe na bai'r Archentwyr wedi lansio eu cyrch mae'n debyg y byddai'r cysylltiadau agos oedd yn bodoli rhwng yr ynysoedd a'r Ariannin wedi datblygu'n bellach erbyn hyn a hynny er budd yr ynyswyr a'u cymdogion. Fe fyddai miloedd o fywydau ifanc wedi eu sbario ac mae'n ddigon posib y bydda 'na gytundeb ynghylch dyfodol cyfansoddiadol yr ynysoedd.
Mae'n anodd gweld hynny digwydd nawr nac yn y dyfodol agos. Mae digwyddiadau 1982 yn taflu cysgod hir iawn.
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n cofio araith drychinebus ( i'w blaid ac i'r rhai a fu farw) Michael Foot yn gir. Yr oedd yn araith wych (ar y pryd) , ond yr oedd mor ymosodol a ffyrnig fel nad oedd gan y lywodraeth (a'r Blaid Lafur, ar ol yr araith, oherwydd buasai'r rhagrith yn amlwg) ddim modfedd i droi yn San Steffan. Fe wnaeth Michael Foot annog Mrs Thatcher i fynd i ryfel, i bob pwrpas. Gan iddi hi ymhyfrydu cymaint yn y fuddugoliaeth, fe aeth ei araith a'i ran ef yn y rhyfel yn angof. Aeth y llywodraeth - a oedd mewn perygl o ddisgyn am gyfnod byr - wedi cael modd i fyw. Eto, cofir Michael Foot fel aelod brwd o CND, ac fe'i addolir i raddau gan rai pobl.
Tybiaf i'r SNP fod o blaid y rhyfel hefyd, oherwydd cysylltiadau morwrol hanesyddol rhwng yr ynysoedd a'r Alban. Mae gwaed ar ddwylo pobl annisgwyl .
Mae o'n werth nodi mai Anthony Meyer AS(Ceidwadwyr) a Tony Benn AS(Llafur) oedd y ddau fwyaf blaenllaw i ddadlau yn erbyn ymgyrch militaraidd i adennill yr ynysoedd - y ddau, gyda llaw, yn berchen ar brofiad helaeth o ymladd yn yr ail ryfel byd. Ond ymlaen at heddiw, 30 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Camgymeriad gan y llywodraeth yw peidio â thrafod yr anghydfod gyda'r Archentwyr, oherwydd prin yw'r gwledydd yn America Ladin sydd yn cefnogi safiad llywodraeth Prydain. A oes sefyllfaoedd tebyg ar y gorwel? Rydym i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa yn Gibraltar, ond faint sydd yn gyfarwydd ag achos Venezuela i adennill talp sylweddol o Guyana? A yw hi'n amser i'r llywodraeth ddatrys y problemau a chreuwyd yn ei hanes?
Mi oeddwn yn fy mlwyddyn gyntaf yn y prifysgol pan dorrodd y rhyfel allan. Un bore, fe gyrhaeddodd amlen brown drwy'r post gyda'r geiriau "URGENT : Private and Confidential" arni. Agorais hi'n syth mewn chwilfrydedd a chyffro mawr. Yn anffodus, bu bron in mi farw yn y fan a'r lle pan welais y geiriau "CALL UP PAPERS" are draws y top a darllen oddi tanynt fy mod wedi cael fy newis i fynd i'r ynysoedd i frwydro. Dim ond wrth waelod y llythyr hynod effeithiol a (chreulon!) hwn pan ddarllenias gorchymyn i ddod a " Stock of s**t proof nappies" a "Money to buy fish and chips in Port Stanley" dechreuodd fy nghalon arafu.
Diolch Dad.
Yn amlwg, ni barhaodd y joc yn hir iawn.