Cynhaliwyd G诺yl T芒n Tanat 2007 ar benwythnos Mehefin 22 a 23. - cliciwch i ddarllen adolygiad.
Bwriad yr 诺yl oedd codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg yn yr ardal a bu'r tywydd braf yn help mawr i ddenu pobl i'r 诺yl ac i fwynhau'r gweithgareddau. Ar nos Wener Mehefin 17 cafwyd cyngerdd yn y babell fawr ar faes y 'rec' gyda Meinir Gwilym a'r Band yn perfformio i dorf o dros 200. Yn cefnogi Meinir Gwilym roedd y gantores Lisa Pedrig a'r gr诺p lleol o Lanerfyl, 'Strap the Button'. Cynhaliwyd gweithgareddau ar gyfer y rhai iau yn ystod y bore canlynol. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys sioe bypedau gan 'Gwmni Cortyn'; castell gwynt; a gwybodaeth a chyngor ar sut i fagu plant yn ddwyieithog. Dilynwyd y sesiwn foreol gan ddarlleniadau barddonol gan y beirdd Iwan Llwyd a Mei Mac yng ngwesty'r Plough. Roedd y lle yn llawn dop o bobl o bob oed ac yn 么l pob s么n mae'r ddau fardd am ddod yn 么l i Lanrhaeadr yn y dyfodol agos! Parhawyd gyda'r hwyl yn hwyr i mewn i'r prynhawn gyda sesiwn jamio werinol dan ofalaeth cerddorion gwerin leol. Daeth y digwyddiadau i ben ar y dydd Sadwrn gyda g诺yl roc yn y babell fawr. Ymysg y grwpiau oedd yn perfformio roedd grwpiau newydd lleol fel Gwiber, Vendetta a Blue Room yn ogystal ag enwau mwy adnabyddus fel Sibrydion a Kentucky AFC. Uchafbwyntiau cerddorol y noson oedd setiau Bootnic a Frizbee ac unwaith eto roedd dros 200 yn y gynulleidfa. Mae'r trefnwyr yn hapus iawn gyda'r ymateb sydd wedi bod i'r 诺yl a'r gobaith nawr yw trefnu rhagor o ddigwyddiadau a nosweithiau Cymraeg yn yr ardal. Dywedodd un o'r trefnwyr Catherine Morris, "Mae trefnu'r 诺yl wedi golygu llawer o waith caled dros y chwe mis diwethaf ond erbyn y diwedd roedd llawer o'r trigolion lleol wedi helpu i wneud T芒n Tanat yn llwyddiant tra ar yr un pryd, codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg yn yr ardal ac i gynulleidfa ehangach, a'r gobaith nawr yw parhau gyda'r gwaith yn y dyfodol". Hoffai'r trefnwyr ddiolch i'r gymuned leol (yn enwedig y Plough, y Clwb Bowlio, y Clwb P锚l-Droed a phwyllgor y 'rec') am eu cefnogaeth dros y chwe mis diwethaf ac i PAVO (Cynllun Ysbryd 2, Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 2) am gefnogaeth ariannol.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|