1925
Trychineb Dolgarrog Lladd 16 o bobl wrth i gronfa ddwr dorri a sgubo drwy bentref Pwrpas Llyn Eigiau uwchben Dolgarrog oedd cyflenwi pwer i gynhyrchu trydan. Ar yr 2il o Dachwedd 1925 fe ddymchwelodd rhan o'r argae. Arllwysodd y dwr o'r llyn a llenwi cronfa ddwr Coety islaw. Llifodd y dwr ymhellach i lawr y dyffryn gan gario coed a cherrig a sbwriel yn y llif. Chwalwyd tai ym mhentref Dolgarrog ac mewn un stryd yn unig bu farw wyth o bobol. Lladdwyd un ar bymtheg o bobl, ac yn sgîl y drychineb pasiwyd Deddf Diogelwch Cronfeydd Dwr 1930. Gallasai llawer mwy fod wedi cael eu lladd oni bai bod llawer o'r pentrefwyr yn mynychu digwyddiad cymdeithasol y noson honno mewn adeilad na chafodd ei daro gan y llif.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Heddiw darlledwyd yn gyntaf 05/11/1975
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|