1925
Trychineb Dolgarrog 1925 Argae'n torri, a thrychineb yn taro cymuned fach yng ngogledd Cymru Ar yr 2il o Dachwedd 1925 torrodd argae cronfa ddwr Llyn Eigiau yn y mynyddoedd uwchben Dolgarrog yn Nyffryn Conwy. Rhuthrodd y dwr i lawr drwy'r pentref gan gario cerrig mawr a choedwig gyfan yn y llif. Gorchuddiwyd Porth Llwyd a lladdwyd 16 o oedolion a phlant. Oni bai fod sinema deithiol wedi bod yn dangos ffilm yn y neuadd bentre ar y pryd - adeilad oedd allan o ffordd y llif - byddai llawer mwy wedi cael eu lladd. Cafodd gwaith alwminiwm Dolgarrog, lle roedd dau gant o ddynion yn gweithio, ei lenwi â dwr, ond fe lwyddodd pawb i ddianc. Mewn rhaglen "Adlais" yn 1972 mae un o'r dynion, George Wilkins, yn cofio'r achlysur yn dda.
Clipiau perthnasol:
O Adlais 1925 darlledwyd yn gyntaf 04/04/1973
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|