1934
Trychineb Gresffordd Galar ym maes glo'r Gogledd wrth i 264 o ddynion farw mewn ffrwydrad Ychydig cyn 2 o'r gloch y bore ar yr 22ain o Fedi 1934, rhwygwyd pwll glo Gresffordd ger Wrecsam gan ffrwydrad a thân mawr. Hon oedd y drychineb danddaearol waethaf ers tanchwa Senghennydd yn 1913, ac ni fu trychineb cyn waethed byth wedyn. Rhwystrwyd y tîmau achub rhag cyrraedd y dynion gan nwy gwenwynig a thân. Cludwyd cerrig anferth mewn caets i waelod y pwll er mwyn codi gwrthfuriau, ond er gwaetha'r holl ymdrechion hyn, ychydig iawn o'r dynion a gludwyd i'r wyneb. Collodd 264 eu bywydau, gan gynnwys tri aelod o'r tîmau achub. Stuart Hibbard gyhoeddodd y drychineb ar y newyddion, ac yn dilyn y datganiad, Bob Ellis, un o arweinwyr y tîmau achub, sy'n cofio'r achlysur.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Gresfordd, Newsflash darlledwyd yn gyntaf 28/11/1984
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|