Canu o'r Galon o Frechfa
Ni farnwch ar sail gwisg! Dysgodd Iesu i ni weld pawb yn gyfartal - "car dy gymydog fel ti dy hun" , a dyna ddylem ni bobl Gaerfyrddin wneud. Wrth farnu pobl wrth eu dillad rydym yn creu cymdeithas wan yng ngolwg Duw! Dysgwch ddod yn ffrindiau efo'r bobl yma, ac fe ddewch i weld eu bod yn bobl gyffredin fel chi a fi.
Hannah o Landeilo
Ma cymysgedd o bobl yma. Nid yw'r 'chavs' yn broblem go iawn! Mae'n annheg iawn i weud bod rhywun yn 'chav' achos bod nhw'n gwisgo 'tracksuit'. Mae'n hefyd yn annheg i gwyno hyd yn oed oes yw'r dref gyda llawer o 'chavs', nid ydyn nhw'n achosi problemau. Nid oes lle i bobl ifanc i gwrdd, ble does neb yn labelio nhw am y ffordd mae nhw'n siarad a gwisgo.
Chav Lover o Llanelli
Fi'n cytuno da Chav o Gaerfyrddin - be sy'n bod ar chavs? Ma ffrind gore fi a brawd fi a 2 ffrind arall fi yn chavs ond sa nhw yn gas i neb. Chi jyst yn stereotypo heb nabod nhw. Ma nhw actually yn pobl neis iawn.
Chav o Gaerfyrddin
Fi YN chav a fi'n prowd o fod yn un hefyd. Sain understando beth chi da against nhw?!
Rheinallt Williams, Caerfyrddin
Mae "Chavs" a "Hoodies" ym mhob man! Nid wyf o blaid y datganiad fod Caerfyrddin yn dref y chavs! Onid yw trwbwl yng Nghaerfyrddin yn ddim o'i gymharu a^ dinasoedd fel Llundain, Maenceinion a.y.b. O fewn y dinasoedd yma mae llofruddiaethau ac anafiadau difrifol wedi dod i fod yn ddyddiol! Mae rhai pobl yn ofn edrych ar rhywun y ffordd anghywir rhag cael eu ymosod, a dydi cerdded y strydoedd wrth eich hun ddim yn opsiwn yno. Yn un o glybiau nos Caerfyrddin bu dwy ferch yn ymladd, ac roedd yn rhaid i un fynd i Ysbyty Glangwili a derbyn triniaeth. O'r herwydd i'r camymddwyn cyhoeddus yma mae CCTV wedi datblygu. Diolch yn fawr, a byddwch yn gall!
Rhian Owen o Caerfyrddin
RWYN FALCH BOD RYWUN DI DWEUD RYWBETH! Da iawn chi! Mae rhai o ffrindiau fi yr un peth Rowan! Fi'n credu ma nhwn meddwl bod nwhn fifty cent neu rywbeth! Y ffwls!
JOSHUA CAERFYRDDIN
MAE CHAVS YN MEDDWL BOD NHW YN GALED OND MAEN NHW YN OFN. MAE NHW YN EDRYCH YN DDWL IAWN
JESSICA EVANS A HELEDD EVANS!
DYDY HYN DDIM YN WIR! RYDYM YN ANGHYTUNO!
Beth o sir Gaerfyrddin
Mae hawl gan bawb wisgo ac ymddwyn fel maen nhw moyn (o fewn rheswm!) so dw i'n meddwl chware teg i'r unigolion hyn i fod yn wahanol os mae dyna fel maen nhw moyn bod. Os mae'n nhw yn bod yn fygythiol at bobl eraill, wel mae hynny yn stori wahanol, ond dyle ni ddim barnu pobl jyst am beth maen nhw yn ei wisgo.
Gyda llaw, oes unrhyw un yn gallu meddwl am enw Cymraeg am 'chavs'???
sali a jac o park hall
Rydym ni'n credu bod llawer o chavz yn y dre, rydym yn teimlo o dan fygythiad oherwydd os ydym yn edrych arnyn nhw maent yn dod ar ein 么l ac yn creu gelyn ohonnom.
Mae eu steil yn comon iawn ac rydym yn casu'r dillad maent yn gwisgo.
Mae rhai chavz yn bobl neis a dylwch dod i wybod y bobl cyn eu barnu,(roedd rhaid i ni ddweud hynny neu byddwn gyda chavz ar ein hol.) Rydym wedi dod i gwybod llawer ohonynt,a dydyn nhw ddim yn neis.
Queen of Spin o Aber
Rwy`n credu bod gan pawb hawl i wisgo beth bynnag mae nhw moen (shock horror- I speak welsh!!!). Nid rwyf yn hoffi y gwisg chav llawer.
Dwlali a Loopy o Sir Gar
Dwlali-fi'n casau chavs. mae'n nhw'n edrych mor stupid yn ei "bling" ac yn eu tracwisgoedd hyll. Os ydy Vicky Pollard yn apelio atoch chi, wel Duw a'ch helpwch chi!!
Loopy- Sai'n meddwl bod chavs yn edrych mor wael a na, ond nid ydw i na fy ffrindiau yn un ohonyn nhw.
Helsig Griffiths o Llanllawddog
Mae Chavs yn meddwl eu bod nhw mor gr锚t ac yn gwneud i pobl arall teimlo mor fach. Mae gormod o chavs yng Nghaerfyrddin.
will o Drimsaran
Falle bod tipyn o chavs yn y dref ond rwy'n gweld y merched sy'n chavs yn rhywiol dros ben so gadwch nhw i fod. Lan i'r unigolyn fel maent yn gwisgo!!!!!
Bethan (yn wreiddiol o Gaerfyrddin)
Dw i'n meddwl bod yn iawn i bawb fod yn wahanol, a mae'n dda bo ni gyd ddim yn edrych a gwisgo yr un peth. Jyst achos bod y bobl yma yn cael eu ystradebu fel 'chavs' ddim yn neud nhw yn wahanol i neb arall. Pawb i fod fel maen nhw mo'yn bod, os nad ydyn nhw yn neud drwg i eraill - dyna fy marn i ta beth!
Da iawn i Ysgol Bro Myrddin ar y cylchgrawn ma - mae'n gret!
JIM o Pontiets
IESU MOWR, CHI DI CYMRYD YNG NGHERIAU MAS O'N NHEG, Y CHAVS! WEDI CAEL DIGON! WELL DONE I'R MERCHED AM DDWEUD Y BLWMIN GWIR!
Ffan go fawr
Rowan, rwyt ti'n sgwennu o'r galon!!!
xx