Lluniau: Sioe Tra Bo Dau, Ebrill 2006 A bwriad yr erthygl fer hon yw s么n am lwyddiannau nifer o wahanol berfformiadau, gweithdai a phrosiectau sydd ar gael i bobl fel ni yn y Sir, a gwybodaeth ynglyn 芒 sut i ymuno.
Un cwmni amlwg yn Sir Gaerfyrddin yw 'Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi', a gynhelir yng Ngholeg Y Drindod dan arweiniad Delyth Mai Nicholas. Sefydlwyd yr ysgol yn 2001, ac erbyn hyn mae dros 80 o aelodau o nifer o ysgolion ar draws y sir!
Rhennir yr ysgol i dri gr诺p fel arfer sef o dan 12 oed, rhwng 12 a 15 ac o dan 18 oed.
Drwy'r Ysgol Berfformio, mae 'na bob math o gyfleoedd; cyfle i actio, cyfle i ganu, cyfle i ddawnsio - unrhyw agwedd o berfformio - cyfle i gael clyweliadau i raglenni teledu, ac yn fwy na dim, cwrdd 芒 ffrindiau newydd sy'n rhannu'r un peth 芒 chi, sef cariad at berfformio.
Llongyfarchiadau mawr i Elen Morgan o'r Ysgol am gael rhan yng nghast Pobol y Cwm.
Drwy'r Ysgol, dwi 'di cael llawer iawn o gyfleoedd i actio ar lwyfannau'r brifwyl, gan fod yn llwyddiannus iawn, cystadlu yn yr 糯yl Gerdd Dant, mynychu cyrsiau, er enghraifft: 'Prosiect LLAIS' gydag aelodau o Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal y sesiynau.
Yn ogystal 芒 chael cyfle i berfformio nifer o sioeau, er engrhaifft: 'Yn Gymaint ag y Gwnaethoch', gwaith byrfyfyr, 'Amranwen' - sioe gerdd gan Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood, "Jac T欧 Isha" a gafodd ei pherfformio gan yr ysgol yn Theatr y Lyric llynedd, ac eleni buom yn gweithio ar y sioe gerdd 'Oliver', a lwyfannwyd yn Theatr y Lyric ddiwedd mis Hydref eleni.
Drwy wneud sioeau fel hyn, mae'n gyfle i'r dosbarthiadau i gyd ddod at ei gilydd i fwynhau'r profiad o ymarfer a pherfformio sioe gyda chyfarwyddwyr a th卯m proffesiynol.
Bu adran Iau'r Ysgol yn brysur iawn hefyd yn cyflwyno sioeau fel 'Stryd yr Aros' a 'Cip ar y Cymry'.
Bu cystadlu yn yr Urdd hefyd dros y blynyddoedd, gan ennill y wobr gyntaf, a'r ail wobr yng nghystadleuaeth y ddrama yn 2004. Eleni bu cystadlu brwd yn yr ymgomau, (gyda'r ymgon h欧n yn ennill yr ail wobr yn y brifwyl), dawnsio creadigol, c芒n actol, a nifer o eitemau unigol.
Llongyfarchiadau i Robert Thomas o'r Ysgol am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y llefaru unigol.
Yn ogystal 芒 holl lwyddiannau'r Ysgol ar lwyfannau'r brifwyl, fe enillodd yr Ysgol y wobr gyntaf yn y categori Prosiect Ieuenctid yn Noson Wobrwyo Grantiau Cymunedol Sir Gaerfyrddin am ei chynhyrchiad o'r opera roc Jac T欧 Isha, yn seiliedig ar hanes Merched Beca.
Drwy'r Ysgol Berfformio, fe gefais i, a nifer o fy ffrindiau o'r ysgol gyfle i fynd am glyweliad 'Theatr Ieuenctid yr Urdd' oedd yn mynd i berfformio Les Miserables' ar lwyfan enfawr Canolfan y Mileniwm yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd. Yn ffodus, buom i gyd yn llwyddiannus, ac yr oedd yn brofiad hynod, hynod fythgofiadwy.
Roedd perfformio ar lwyfan mor fawr yn brofiad arbennig, ac er bod yr ymarferion a'r perfformiadau yng nghanol arholiadau TGAU ac UG, roedd yr holl waith a'r ymdrech yn werth pob awr o ymarfer, ac ar y noson, roedd y gynulleidfa yn y theatr (a oedd yn orlawn) wedi'i phlesio'n fawr.
Cawsom gyfle i wneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru, ac rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad. Yn ogystal 芒 hyn, cawsom gyfle i fod yn rhan o sioe agoriadol yr Eisteddfod 'Sain, Cerdd a Sioe', gyda Cefin Roberts yn cyfarwyddo, a chyfle i rannu llwyfan gyda rhai o s锚r ifanc Cymru, tair ohonynt yn hannu o Gaerfyrddin, sef: Catherine Ayers, Elin Llwys a Rhian Mair Lewis - y dair yn gyn ddisgyblion o Ysgol Gyfun Bro Myrddin.
Profiad hollol ffantastig a bythgofiadwy!!
Am fanylion ynglyn 芒 sut i ddod yn aelod o'r Ysgol Berfformio, - cysylltwch 芒 Delyth Mai Nicholas yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin.
Gan: Hanna Hopwood