"Wyt ti eisiau cymryd rhan mewn cynhyrchiad gan Theatr Cenedlaethol Cymru?"
Nid bob dydd y mae rhywun yn cael cynnig fel yna! Ond dyna ofynnwyd imi gan Nesta, trefnydd ar ran y Cwmni Theatr, dim ond ychydig wythnosau yn 么l.
Allwn i ddim gwrthod cyfle fel 'na a minne'n astudio Drama ar gyfer fy Lefel A. A pheth arall, roedd yn gyfle i deithio gyda'r cwmni fel rhan o'r corws a chael perffromio ar lwyfannau rhai o brif theatrau De Cymru.
Ychydig a wyddwn am gefndir y peth cyn mynd i gyfarfod 芒 Cefin Roberts, cynhyrchydd y ddrama gerdd yng nghartref dros dro'r cwmni ym Mharc yr Arfordir Llanelli. Eglurodd inni fwriad y ddrama sef rhoi hanes diwygiad 1904 ond yn bennaf, hanes Evan Roberts a'i droedigaeth.
Cawsom ein cyflwyno i'r cefndir hanesyddol, gwelsom fodel bychan o'r set a chawsom wybod pwy fyddai'n cymryd rhan y prif gymeriadau. Roeddwn yn teimlo'n reit gyffrous yn gadael gan fy mod yn mynd i gael rhannu llwyfan gyda rhai o enwogion y byd perfformio yng Nghymru.
Yn yr ymarferion oedd i ddilyn, diddorol oedd y ffordd y cawsom ein paratoi yn feddyliol ac yn gorfforol gan ddysgu cymeriadu o ran hanes, iaith ac osgo.
A dyma ni, bron 芒 gorffen ein taith gyda'r cwmni, ac wedi cael gwefr arbennig o gydweithio gyda'r s锚r, cael gwisgo dillad dydd Sul o'r gorffennol ond yn fwy na dim, cael profi ymateb cynulleidfaoedd brwd yn arbennig ar ein tomen ein hunain yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.
Gan: Catrin Lewis
|