Person o Aberystwyth
Fi'n credu bod pobl ddim yn lico caneuon Cymraeg achos bod pobl 'rubbish' yn dewis pobl rubbish i ganu'r caneuon. e.e. beirniaid ar y rhaglen Wawffactor ddim yn dewis Duffy sy di bod yn rhif 1 yn siartiau DU i ennill y gystadleath. Ma' ishe ini gael pobl sydd gyda thalent i ddewis y bobl dda.
Josh R o Lanelli
Mae ambell gan Gymraeg yn dda ond mae'r rhai eraill yn trash ac yn shed! Yr unig un dda Gymraeg yw yr un ar diwedd cd Gwyl y Baban - awesome! Fy hoff gan i yw "We are the Cheeky Girls" gan y "Cheeky Girls". Pam na yw hwnna ar y list?
SIONED EVANS!!
Wel...sion ifan..rwyn cytuno cant a chant gyda ti....mae'r sylwadau rwyt wedi rhoi n ffantastic!!
Steff o Lanelli
Wel, fi'n credu bod Anhysbys yn awesome!! enwedig y boi sy'n canu, GENIUS!!
Lisa Marged o Nantycaws
Fi'n dwli ar yr hen Reiland Teifi.Mae e mor sexy!!!a ma 'da fe lais BEAUTIFUL!!Beth i ti'n feddwl Sion Ifan??
Sion Ifan
Guto Owen o Gelli Aur...pa fath o gaws yw dy ffefryn di?
贬芒蹿
Rwy'n cytuno da Sion Ifan. Mae caneuon Fflur Dafydd yn catchy iawn. Heb brynu albym newydd Meinir Gwilym, ond wedi clywed sawl trac ar Radio Cymru - rwy'n ffan!Caneuon hawdd iawn i wrando arnyn nhw. Sai erioed di bod yn ffan mawr o Zabrinski so sai'n gwbod y diweddaraf am eu albyms.
Guto Owen, Bl.10, Gelli Aur
Rwy'n credu bod caneuon Cymraeg yn trash!!!! Fi'n lico stwff fel 'Window Cleaner' gan 50 cent, a'r JCB song. V'n angytuno'n llwyr efo Sion Ifan, ma fe dim ond yn gweud na achos so fen hoffi caws!!
Rhiannedd Mair a Betsanna Eleri o Gaerfyrddin
Os nad ydych wedi clywed am lawer o fandiau Cymraeg, syniad da yw prynu 'compilation cd' Cymraeg, sy'n cynnwys amryw o fandiau, wedyn, fe allech chi ddewis rhai o'ch hoff, ac yn y pendraw prynu ei albwm. Enghreifftiau da o rhain yw 'Sesiynnau C2' a 'Dan y Cownter'! Mae'r sin roc gymraeg yn wych ar hyn o bryd!
Cliciwch yma i fynd i wefan C2.
Sion Ifan
Wi'n hollol cytuno fod clasuron Meic Stevens yn ffantastic...dim ond casgliad bach iawn o albyms sy da fi fan hyn (sori)
Fi newydd brynu albym newydd Meinir Gwilym- heb gael digon o amser i benderfynu beth fi'n meddwl ohono eto- oes gan unrhyw un farn ar yr albym newydd?
+ Fflur Dafydd yn wych...llawer o caneuon catchy...trenu bo fi heb ddarganfod ei cherddoriaeth dros haf dwetha achos ma 'na lot o diwns hafaidd iawn ar yr albym- "Coch am weddill fy oes"
Os na album ddiweddar gyda Zabrinski allan? (rhywun yn gallu ateb?)
miss crazy o gaerfyrddin
sorry ond nid yw cerddoriaeth cymraeg yn apelio ataf i. mae'n well gennyf i gerddoriaeth fel y sugababes,mcfly, son of dork, pussycat dolls a cerddoriaeth pop ac rnb arall. sori :(
Betty Lee o Gaerfyrddin
Does neb wedi clywed am y band zabrinski? Maen nhw wedi cefnogi Super Furry Animals am flynyddoedd, mae nhw yn chwarae yn Caerdydd ac yn Llundain. Mae nhw yn ffab - rhaid cael ar eich Ipod
Haf o Sir G芒r
Dewis cool o gerddoriaeth. Ond beth am Meic Stevens? Mae'n rhaid cael rhai clasuron gan Meic ar unrhyw Ipod!!