"'Dwi'n ffermio y tu allan i Ruthun, fferm fynydd dros 400 acer.
"Yr wyf wedi bod aelod o'r Ffermwyr Ifanc ers 1970 ac wedi gwneud sawl swyddogaeth o fewn y mudiad fel cadeirydd ac arweinydd dros y blynyddoedd.
"Mae'r mudiad wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi, ac rwyf wedi cwrdd 芒 phobl o bob rhan o'r byd yn ogystal 芒 Chymru a Phrydain.
"Mae gennyf ffrindiau o ogledd Lloegr i lawr i'r de ac mae deg ohonom yn cwrdd am wyliau bob blwyddyn ac rwy'n eu gweld ar nifer o benwythnosau wrth feirniadu a stiwardio. 'Dwi prin yn stopio!
"Mae'r dathliadau 70 mlynedd yn bwysig i'r aelodau, oherwydd yr aelodau sydd 芒'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau'r Ffermwyr Ifanc.
"Fy safle i fel Llywydd yw bod yn gefn i'r aelodau pan fo angen os oes problemau neu anawsterau yn codi.
"Mae'r Llywydd yn rhywun y maent yn gallu troi ato am air o gyngor a gan fy mod wedi bod ar bwyllgorau Cymru rwy'n gwybod am y trafodaethau sydd wedi bod yn mynd 'mlaen ers talwm er mwyn sicrhau ffyniant y mudiad.
"O ran cadeirio a'r cystadlaethau, yr aelodau sydd yn gyfrifol am y rheini. Dyna yw cryfder y mudiad, fod popeth yn eu dwylo hwy.
"Mae'r aelodaeth wedi cynyddu eleni, sydd yn beth mawr oherwydd bod mudiadau ieuenctid cefn gwlad yn Lloegr yn dirywio oherwydd y llifiad allan gyda phobl yn mynd i golegau neu symud gwaith.
"Mae'r mudiad yn fwy perthnasol nag erioed oherwydd mae cymaint o bobl o du allan i'r diwydiant amaethyddol yn cymryd rhan ac yn gweld y pwysigrwydd o gael cefn gwlad cryf.
"Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y gala yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Dachwedd 5. Yr aelodau fydd yn cymryd rhan yn y cyngerdd, ac mi fydd hi'n wefreiddiol eu gweld yn canu ac yn arddangos eu doniau."
Cliciwch yma i weld lluniau o 糯yl y Wlad yn dod i'r Dref ym mae Caerdydd, Tachwedd 3.
Cliciwch yma i ddarllen dyddiadur rhai o aelodau CFfI Dyffryn Banw yn paratoi ar gyfer y Gala yng Nghaerdydd.
Cliciwch yma i Criw rhamantus yn creu cardiau serch.
|