Hanes Caergybi a'r cylch
topParhad o hanes Caergybi a'r cylch gan y Parch Edgar Jones.
Yma mae ardal y llynnoedd M么n lle bu Cynan ar Lyn Traffwll 'yn rhwyfo'r cwch a'r s锚r uwchben', ac i Lan D诺r ar ochr y llyn yr anfonodd y bardd y nico o Facedonia.
Ardal y llynnoedd yw cefndir y nofel Madam Wen. W. D. Owen yw'r awdur a ganwyd ef mewn bwthyn ym mhlwyf Bodedern. Hyd y twyni cyfagos y byddai Lladron Crygull yn cuddio eu hysbail wedi iddynt hudo'r llongau i daro'r creigiau miniog wrth yr aber yn Rhosneigr.
Mae'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol wedi prynu llawer o'r arfordir i warchod bywyd gwyllt. Daw elyrch o Rwsia i dreulio'r gaeaf ar Lyn Llywennan a channoedd o hwyaid Canada i bori porfa fras y caeau cyfagos.
San Padrig
Ardal llawn hanes yw. Ar lan y m么r ym mhlwyf Llanfair yng Nghornwy daeth cwch i'r lan a dau fachgen bach ynddo. Tyfodd un ohonynt, Evan Thomas, i fod y meddyg esgyrn gwreiddiol a bu ugeiniau o'i ddisgynyddion yn feddygon hyd a lled Prydain. Cafodd llong Padrig Sant ei dryllio ar yr ynys sydd heddiw'n cael ei galw'n Ynys Badig tra'r oedd ar ei daith o Iwerddon i Gymru a sefydlodd ei eglwys ar y clogwyn uwchben Cemaes.
Mae sawl plas ar ei draed o hyd lle bu enwogion yn trigo ynddynt. Ym Mhlas Presaddfed, Bodedern y cafodd John Elias ei ail wraig. Roedd Ann yn weddw i Syr John Bulkeley a hi yw cefndir drama Saunders Lewis 'Dwy briodas Ann'.
Ym mhlas y Brynddu, Llanfechell yr ysgrifennodd William Bulkeley ei ddyddlyfr enwog a'i gefnder yn Dronwy, Llanfachraeth yn ei efelychu. Gwobr gan Harri Tudur i Rhys ap Llywelyn oedd Plas Bodychen am iddo gasglu byddin o F么n a'u harwain i Faes Bosworth gan warantu buddugoliaeth iddo.
Ym mhlas Garreglwyd, Llanfaethlu y trigai Ledi Reade a chaeodd hi sawl tafarn yn y pentrefi ac adeiladu y Tai Coffi lle ni cheir yfed diod feddwl ynddynt hyd heddiw.
Bu dylanwad Ymneilltuaeth yn fawr ar y fro ac mae'r capeli gwych a'r festr茂oedd yn ategu hyn a llawer ohonynt yn deillio o bregethu John Wesley, William Williams Pantycelyn, John Elias a Christmas Evans.
Mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn y fro ac erbyn hyn yn Llanddeusant ceir y felin dd诺r, Melin Selar a'r felin wynt, Melin Llynnon , a'r ddwy'n agored i'r cyhoedd ac yn malu unwaith yn rhagor
Ym Mhorth Swtan mae y bwthyn to gwellt olaf ym M么n. Yn ddiweddar cafodd ei ail doi ac erbyn hyn mae'n agored i ymwelwyr.
Dau gwmwd sydd yma, Llifon a Thalybolion. Ac yn 么l yr ail gainc o'r Mabinogi i aber Alaw yn Nhalybolion yr hwyliodd Branwen ac wedi glanio edrychodd tuag at Iwerddon ac yna at Gymru a 'rhoi ochenaid fawr a wnaeth a thorri ei chalon'. Fe'i claddwyd mewn 'bedd petrual' yng nglan Alaw.
Mae Goronwy Owen yn gofyn, 'Pwy a rif dywodd Llifon? Pwy rydd i lawr w欧r mawr M么n?'. Bu digon ohonynt ym mro 'Y Rhwyd' drwy'r canrifoedd.
Parch. Edgar Jones
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.