Hanes Porthaethwy
topSut trodd tir creigiog y comin yn dref? Dyma Ann Benwell, un o drigolion Porthaethwy, i fwrw golwg ar hanes hir y dref ger y bont.
"Mae ardal Porthaethwy wedi bod yn bwysig fel man i groesi'r Fenai ers canrifoedd. Yr hen enw ar yr ardal oedd 'Porth Ddaethwy' - 'porth', ar 么l y man croesi, a 'daethwy', ar 么l y tylwyth oedd yn byw yma.
"Camgymeriad y mae rhai yn ei wneud yw s么n am yr enw Saesneg, 'Menai Bridge' yng nghyswllt y canol oesoedd. Heb y bont, nid hwn oedd yr enw wrth gwrs - a ch芒i ei alw'n 'Bangor Ferry', neu 'The Ferry' tan hyd at ganol y 19eg ganrif, er bod y fferi wedi mynd erbyn hynny.
"Roedd yna gasgliad bach o ffermydd ar y tir uchel yn ystod y canol oesoedd. Tir comin oedd y gweddill ger y Fenai. Hen enw'r ardal yma oedd 'Cerrig y Borth', gan ei fod yn greigiog iawn gyda phyllau a morfa. Yr unig adeilad yn yr ardal oedd yr hen d欧 fferi sydd erbyn hyn ar Stryd Cambren. Roedd angen deiseb gan y llywodraeth i adeiladu ar dir comin, felly hwn oedd yr unig adeilad am bellter pan gafodd ei adeiladu yn 1688.
"Mae rhai o'r ffermdai oedd ar y tir uchel yn dal i fod yno, ond collwyd T欧 Mawr a Thyddyn Mostyn wrth adeiladu stadau o dai. Ond y tu hwnt i'r cae criced mae Ty'n y Caeau, cartref i ffermwyr cyfoethog o'r ardal. Tua Four Crosses, mae 'Rallt ac yn y 19eg ganrif adeiladwyd Plas Cadnant, draw ar ochr arall Porthaethwy.
"Daeth newidiadau mawr i'r ardal ar gychwyn y 19eg ganrif pan adeiladwyd y bont. Gosodwyd y garreg sylfaen yn 1819 ac roedd yn barod erbyn 1826. Roedd yn newid enfawr i bobl yr ardal ac mae'n rhaid ei fod wedi edrych fel rhyfeddod iddynt.
"Ar yr un pryd, pasiwyd deddf seneddol i gau'r tir comin, gan roi'r rhan fwyaf o'r tir i Ardalydd M么n a thyfodd y dref fel y gwyddom ni heddiw.
"Ond ddaru nhw erioed adeiladu'r pontydd dros y Fenai i fod o fudd i'r ynyswyr - ond er mwyn galluogi i wleidyddion Iwerddon gyrraedd Llundain cyn gynted ac sy'n bosib."
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.