Hanes Glan Menai
topAr gefn ceffyl, ar fferi neu dros ei phontydd - bu llawer ffordd i groesi'r Fenai dros y blynyddoedd. John Meirion Davies o Borthaethwy sydd 芒 hanes ardal ei glannau.
Fe gafwyd tipyn o barti pen blwydd ar lannau'r Fenai yn 1976. Oedd, roedd Eisteddfod yr Urdd - y Genedlaethol, nid rhywbeth bach lleol - yn dod i'r ardal. Ond nid yr Urdd oedd achos y dathlu, ond achlysur pen blwydd Pont y Borth yn 150. Y digwyddiad yma oedd y sbardun i sefydlu papur bro yr ardal, sef Papur Menai.
Agor Pont Menai yn 1826, a phont reilffordd Stephenson yn 1858, fu'r dylanwad mwyaf ar yr ardal a'r Ynys gyfan.
Wedyn, cafwyd ffordd newydd dros bont Britannia. Tybed lle bydd y drydedd groesfan?
Ond roedd hi'n ddigon prysur ar lannau'r Fenai cyn bod pont. Er gwaethaf y Derwyddon a'u cefnogwyr, fe groesodd y Rhufeiniaid i'r ynys. Roedden nhw'n ddigon call i lunio cychod neu rafftiau arbennig, heb fod yn rhy ddyfn, rhag iddynt fynd i drybini ar y creigiau. Dyna fu'r traddodiad dros y canrifoedd - croesi yn y lle culaf a mwyaf bas, gan ddefnyddio llestr addas i'r fan.
Mentro ar lanw isel
Un rheswm dros boblogrwydd y Borth fel man croesi oedd mai dyma'r lle culaf ar y Fenai. Wrth gwrs, roedd llawer croesfan arall, o Abermenai i Benmon. Mentrai rhai dewrach na'i gilydd groesi ar gefn ceffyl, ar lanw isel, ar draws Traeth Lafan. Roedd gan rai o'r Methodistiaid cynnar ddigon o ffydd yn y drefn i wneud hynny.
Bu trychinebau mynych, fodd bynnag, yn deillio'n amlach na pheidio o esgeulustod, drwy orlwytho'r fferi, neu geisio croesi ar dywydd drwg. le, y siwrnai fyrraf oedd piau hi.
Nid na fu fferi'r Borth heb ei phroblemau. Yn 1699, suddodd ysgraff y Borth, a boddwyd pawb oedd arni ond un wraig. Un o'r rhai a ruthrodd i'r Borth wedi'r drychineb oedd Morys Prisiart, a ofnai bod ei briod o ddeufis, Margaret Morris, ar y llong anffodus, ar ei ffordd yn 么l o Ffair Wyl Ifan ym Mangor. Er mawr cysur iddo, gwelodd hi'n dod i'w gyfarfod, wedi croesi ar gwch arall. Er mawr ennill i Gymru hefyd, oherwydd hwy, maes o law, a fagodd Forysiaid M么n.
Ffair y Borth
O gofio'r helyntion hyn, nid rhyfedd i'r Monwysion sefydlu ffair ar eu hochor hwy o'r Fenai maes o law. Pery'r pedwerydd ar hugain o Hydref yn ddiwrnod arbennig yn yr ardal, oherwydd dyna ddiwrnod Ffair fawr y Borth. Ffair wartheg, a cheffylau'n arbennig, oedd hi ar y dechrau, a pharhaodd y traddodiad o ffair geffylau tan ddiwedd gyrfa'r mart ar gwr y bont.
Ffair gyflogi hefyd yn y dyddiau pan oedd gweision ffermydd yn lluosog. Ffair hefyd i chwilio am gariad i'w danfon adref.
Bellach, peidiodd y cyfan o'r arferion hyn, ac eithrio'r diwethaf, efallai, a ffair wagedd yn unig sydd yno erbyn hyn. Mae hyd yn oed y myfyrwyr a heidiai i'r sgw芒r i feddiannu'r mynegbost wedi cilio bellach. Heb ddim ond un Coleg mawr ar 么l, doedd fawr o bwrpas i'r gystadleuaeth honno mwyach.
Beth bynnag yw barn y trigolion am y ffair erbyn hyn, mae popeth ar stop ar y pedwerydd ar hugain o Hydref o hyd. A phawb yn gobeithio am fargen.
Fe fu llawer o enwogion y genedl yn byw yn yr ardal. Llenorion ac ysgolheigion fel Syr J E Lloyd, Cynan, Thomas Charles Williams, teulu Davies Treborth, Syr John Morris-Jones, Syr Ifor Williams, Dr John Williams, Brynsiencyn, a sawl gwron arall.
Eironi llwyr yw mai'r bardd salaf o'r cwbl - y Bardd Cocos - a gofir gan y rhan fwyaf.
John Meirion Davies
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.