成人论坛

Hanes Caernarfon

top
Doc Fictoria

Parhad o daith hanesyddol o amgylch tref Caernarfon.

Wel, dyna beth o ramant tref Caernarfon i frodor fel fi, a chyn i neb fy nghyhuddo o osgoi fy nghwestiynau ar ddechrau'r ysgrif, prysuraf i'w hateb. Rwyf eisoes wedi ymdrin ag un ohonynt, sef "Cloch yr Uwd" a chyfeirio hefyd at Stryd Star Bach, ond dylid ychwanegu, mai yn y stryd honno yr arferai'r "Star Tea Company" fod mewn busnes yn "Pepper Lane" a phan symudodd, yn gyntaf i Stryd y Porth Mawr ac wedyn i Bont Bridd, aeth person arall i gadw busnes yn "Pepper Lane" a chafodd ei siop ei galw yn "Star Bach".

Lle mae "Tai Clapars" a beth yw ei ystyr? Tai oeddynt a arferai fod rhwng Penrallt Isaf a Phen Llyn, i lawr heibio talcen Adeiladau Gronant. Dywedir mai llygriad ar lafar o'r gair Saesneg "Clubbers" ydyw, ac mae talu am eu tai i Glwb oedd y deiliaid. Morgais yr oes honno.

"Gardd yr Afon" yw'r enw Cymraeg gwreiddiol ar "Mill Lane". Pan oedd Caernarfon yn Borthladd o bwys yn ystod y 19eg ganrif, tyrrai llongwyr i'r tai hyn gan mai puteindai oeddynt,"Stryd y Priciau Saethu" (Prickey Sithy ar fap Speede). Penrallt Isa neu South Penrallt heddiw. Cafodd yr enw oherwydd mai yma y byddai milwyr yn ymarfer gyda'u bwa a saeth yn y Canol Oesoedd.

Mae'r Batri (Battery) gyferbyn 芒'r Amgueddfa Forwrol Seiont II ger Doc Fictoria. Yno y byddai y Royal Naval Volunteers yn ymarfer ar ddiwedd yn 19eg ganrif. Clwb Hwylio Caernarfon ydyw heddiw.

Tafarn y Black BoyRoedd yr olaf o'r cwestiynau mewn dwy ran ac yn gofyn i'r sawl a holid lanw'r bylchau gydag un gair. Dau ddisgrifiad cywir o gyfnod y Frenhines Fictoria yn nhref Caernarfon oeddynt. Un yn cyfeirio ati fel porthladd lle doi llongwyr o bob cwr o'r byd i dreulio oriau yn ymlacio a mwynhau eu hunain fel y byddant mewn unrhyw borthladd ledled y byd. A'r ateb syml i'r rhan hon o'r cwestiwn yw: Tref y TRIGAIN Tafarn. Hollol wir, wrth gwrs!

Newidir y cywair yn yr ail ran o'r cwestiwn. Os oedd y dref yn cael ei chysylltu 芒 phob math ar faswedd, bryd hynny, roedd hi hefyd yn ganolfan i ddiwylliant Cymreig ar ei orau. Roedd y capeli yn rhwydd lawn ar y Sul a llawer iawn o argraffdai yma yn cynhyrchu papurau newydd, cylchgronau addysgiadol a chrefyddol eu naws, ac o'r herwydd daeth Caernarfon i gael ei hadnabod fel Prifddinas yr Inc.

T Meirion Hughes


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.