|
|
Ar dy Feic yn India
Ymhlith y tlodion
|
Disgrifiwyd India unwaith fel ein mam ni oll. Os yw hynny'n wir, mae hi'n fam greulon a rhagfarnllyd, yn rhoi cyfoeth eang i leiafrif bychan o'i meibion a'i merched a gadael i eraill o'i phlant lwgu a chrafu byw yn y slymiau diri a strydoedd budr ei dinasoedd.
Ond mae hefyd yn fam hardd a lliwgar gyda hanes diddorol, enaid ysbrydol a chyffro yn ei cham.
Yn rhaglen gyntaf cyfres newydd o Ar Dy Feic mae Hywel Gwynfryn yn cyfarfod Cymraes o Aberystwyth sydd wedi cael ei mabwysiadu, dros-dro beth bynnag, gan y fam India.
Pedair blynedd Bu Ann Griffith, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, yn byw yn Delhi ers pedair blynedd gyda'i gŵr Steve a'u mab Aled.
Mae gan y pâr ddwy ferch hefyd, Gwenan ac Angharad, sydd mewn colegau yn yr America.
Mae'r teulu wedi cael bywyd diddorol a gwahanol gydag Aled, sy'n mynd i ysgol Americanaidd yn y ddinas, yn rhestru Lesotho, Bolivia, Llundain, Bangladesh, Sri Lanka a Deli fel llefydd y bu'r teulu yn byw ynddynt.
Mae'r holl symud o wlad i wlad yn bennaf oherwydd gwaith y tad, Steve, Americanwr sy'n bennaeth elusen Care yn India.
Mae Ann ei hun hefyd yn gwneud llawer i helpu rhan o waith ei gŵr, sef ceisio helpu'r wlad i rwystro - a delio gydag un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd ei chenedl, HIV.
Mae tlodi wrth gwrs yn fygythiad holl bresennol a bydd y rhaglen yn dangos yn glir sut mae'r marchnadoedd lliwgar, llawn, yn bodoli ochr yn ochr â chardota truenus a phlant bach yn crafu ym mudreddi biniau'r ddinas am fwyd i fyw.
Cyflogi teulu Mae Ann yn cyflogi teulu i ofalu am y cartref, rhywbeth yr oedd yn ei ystyried yn atgas ar y dechrau: "Pan ddaethon ni dramor gyntaf, tua ugain mlynedd yn ôl, oni'n meddwl bod hynna'n beth ofnadwy, bod pobol yn cyflogi pobol i weithio yn y tŷ," meddai Ann.
"Erbyn heddiw dwi'n hynod o ddiolchgar ein bod ni'n gallu fforddio cyflogi pobol i weithio yn y tŷ. Yn rhannol am ei fod yn rhoi cyflog i bobol - mae diweithdra yn broblem fawr iawn yn yr India."
Gŵyl y Goleuni Mae Hywel yn ymuno â'r teulu difyr hwn a hithau yn uchafbwynt yn nyddiadur y flwyddyn, sef Gŵyl y Goleuni, Divali.
Mae'r ŵyl hon yn debyg i'n Nadolig ni, yn ŵyl lle mae cartrefi a siopau yn cael eu haddurno, seremonïau crefyddol yn cael eu cynnal ac anrhegion yn cael eu cyfnewid.
Does gan Ann ddim syniad pryd y bydd yn amser gadael y wlad ryfeddol hon, ond mae'n cyfaddef i'r lle wneud argraff arni a fydd yn para am byth.
"Mi fyddai'n gadael tamaid bach o fi fy hun yma pan fydd hi'n amser mynd," meddai.
Rhaglenni eraill: Yn ystod y gyfres bydd Hywel hefyd yn ymweld â Catherine Symonds o Amlwch sydd wedi ymgartrefu yng Nghairo, Irene Evans o Lanaman a Manon Ellis Williams o Fethel ger Caernarfon sy'n byw yn Ne Affrica, Dylan Selway o Lansannan sy'n byw yn Sweden, Gareth Jones o Fangor sy'n gweitho ar drên bwled yn Nhaiwan a Geraint Jones o'r Trallwng sy'n bobydd yn Llydaw.
Ar Dy Feic, dydd Llun, Mai 8, 2006. 成人论坛 Cymru ar S4C.
|
|