|
|
Y gwyllt a'r ecsotig yn Kerala
Gwion ap Rhisiart yn sôn am ei ymweliad â Kerala, de India
|
Wrth imi gamu o'r awyren am bump o'r gloch y bore, llanwyd fy ffroenau ag arogl groesawgar a chyfarwydd de Asia.
Hyd yn oed yn oriau mân y bore, mae'r lleithder a'r gwres yn drawiadol ac o fewn munudau o adael aer artiffisial yr awyren, rwy'n teimlo chwys yn casglu ar waelod fy nghefn.
Hir a thenau Mae talaith Kerala yn un hir a thenau sy'n ymestyn tua 400 milltir o begwn deheuol India i fyny'r arfordir gorllewinol.
"Tebyg i Goa, ond yn llai twristaidd," yw'r frawddeg a glywir amlaf ond gan nad oeddem ni wedi ymweld â Goa doedd hynny fawr o gymorth.
Y cwbl oeddwn i'n gobeithio amdano oedd milltiroedd o draethau euraidd a lot fawr o fwyd môr ffres. Wnaeth Kerala ddim mo fy siomi.
Nid y dechrau gorau Un bychan, eithaf cyntefig, ydi maes awyr, Trivandrum, prif ddinas y dalaith, a doedd sefyll mewn rhes yno am awr a hanner yn oriau mân y bore i ddangos pasport, ddim y dechrau gorau i wyliau - ond rhaid disgwyl hyn os yn dewis gwyliau yn yr India.
Fel teithwyr annibynnol lled brofiadol, gwnaethom y dewis anarferol tro hwn o fynd am wyliau package.
Rai blynyddoedd yn ôl byddai gwneud dewis o'r fath wedi codi ngwrychyn ond ar ôl cymaint o brofiadau diflas yn ceisio teithio'n annibynnol drwy Croatia a dwyrain Ewrop roedd cael gwyliau wedi'i drefnu yn gwneud synnwyr!
Roedd y daith bws o'r maes awyr i'r gwesty yn llyfn a hwylus ac o fewn ffiniau'r gwesty braf roedd staff cyfeillgar yng ngwisgoedd traddodiadol Kerala yn ein croesawu yn y dull Hindŵaidd o roi smotyn ar ein talcen yn ysgafn gyda tilak, - past oren sydd wedi ei wneud o gymysgedd o durmerig, ïodin a pherlysiau eraill.
Erbyn hyn roedd y wawr yn torri ac yn gyfle gwirioneddol wych i weld yr olygfa berffaith wedi ei fframio gan amlinell y coedydd palmwydd ger y pwll nofio y tu allan i'n hystafell wely a sŵn y môr a'i donnau yn y cefndir.
Er y blinder, dyma baradwys.
Pedwar llawr Mae'n rheol yn nhalaith Kerala i beidio â chaniatáu i westai fod yn uwch na thri neu bedwar llawr er mwyn sicrhau nad ydynt yn anharddu'r arfordir prydferth ac rwy'n falch o ddweud fod hyn yn amlwg yn y gwesty roeddem ni'n aros ynddo.
Gan mai dim ond tri llawr oedd i'r gwesty, roedd yna adeiladau isel i roi llety a lluniaeth Indiaidd a gorllewinol i'r gwesteion wedi eu gwasgaru o amgylch.
Y dyddiau cyntaf, ni wnaeth fy nghariad na minnau lawer o ymdrech i wneud unrhyw beth ond darllen, cysgu a bwyta yn ystod y dydd ond gyda'r nos, er bod adloniant lled draddodiadol yn y gwesty, aethom allan i'r byd mawr y tu allan i'w libart cyfforddus.
O ddweud hynny, y cyfan oeddem ni'n ei wneud oedd dal tuk-tuk i'r Bae nesaf yn nhref Kovalam lle roedd rhimyn o draeth hanner cylch yn arwain at oleudy mawr ar y pen.
Ar hyd y traeth roedd degau a'r ddegau o fwytai digon tebyg i'w gilydd yn gwneud eu gorau i ddenu twristiaid i fwyta bwyd môr ffres oedd wedi ei ddal y bore hwnnw.
Pryderwn i ddechrau am lendid y llefydd bwyta hyn gan fod y pysgod yn gorwedd yn y gwres yn ystod y nos heb unrhyw iâ i'w hoeri ond ar ôl bwyta'r gorgimwch a'r pysgod mwyaf anhygoel imi flasu erioed, noswaith ar ôl noswaith, heb gael problemau stumog, pylodd yr ofn o gael gwenwyn bwyd.
Tonnau gwyllt Yr oeddem yn fwy anturus yr ail wythnos gan deithio i lawr i Cape Comorin, sef pegwn mwyaf deheuol yr India, yn nhalaith Tamil Nadu.
Gan fod tri môr yn cwrdd fan hyn - Cefnfor India, y Môr Arabaidd a Bae Bengal - mae'r dŵr yn wyllt a ffyrnig ac o edrych yn ôl doedd o ddim yn syniad rhy dda croesi fel y gwnaethom ni mewn llong ddigon sigledig i ynys fechan lle'r oedd cofgolofn anferth i fardd Tamil o'r drydedd ganrif.
Ac er bod y llong wedi ei gorlwytho â channoedd o bobl sylweddolais mai dim ond ugain o siacedi achub oedd ar gael! Wedi'n hantur ar y moroedd gwyllt roeddem ni'n hapus iawn i aros ar dir cadarn am weddill y gwyliau - ond doedd teithio mewn car ar hyd y ffyrdd ddim llawer diogelach ychwaith.
Rhaid dweud i'n bywydau fflachio o flaen ein llygaid nifer o weithiau tra'n cael ein dreifio i fyny i Allepey a Cochin yng nghanolbarth Kerala.
Drwy ryw wyrth, cyrhaeddwyd Allepey heb anffawd a threulio prynhawn cyfan ar long-afon gyda tho gwellt yn llithro'n hamddenol ar hyd rhwydwaith o gamlesi ac afonydd a gwyrddni cefn gwlad yn gwylio'r cymunedau bach yn byw eu bywydau ger y dŵr.
Yn ystod y prynhawn, paratowyd gwledd anhygoel o bysgod a chyw iâr mewn sawsiau sbeislyd gyda phinafal ffres i orffen.
Wnaf i byth anghofio'r atgofion melys o'r diwrnod hwnnw er imi deimlo pang o euogrwydd o rentu cwch mawr i ddim ond y ddau ohonom.
Hen ddylanwadau Os oes unrhyw le sy'n adnabyddus yn Kerala, Cochin yw hwnnw. Dros y blynyddoedd gadawodd Prydain, Tseina, Portiwgal, yr Arabiaid a'r Iseldiroedd eu hôl ar y ddinas hon oherwydd ei phwysigrwydd fel porthladd.
Mae'r dylanwadau hyn i'w gweld hyd heddiw ac yn ei gwneud yn ddinas braf llawn hanes diddorol.
Hawdd treulio diwrnod cyfan yn ymlwybro ar hyd y cei yn bwyta a gwylio'r dynion yn pysgota gyda'r un offer a gyflwynwyd gan y Tsieniaid ganrifoedd yn ôl.
Yn fuan iawn, daeth yn amser gadael Cochin a Kerala a hedfan adref.
Bu hwn yn wyliau adawodd flas egsotig, gwallgof, lliwgar a byrlymog ond hefyd yn gyfle i ymlacio ar yr un pryd.
I unrhyw un sy'n awyddus i brofi diwylliant yr India ond sy'n bryderus am fudreddi a phrysurdeb dinasoedd mawr fel Delhi a Mumbai, dyma'r lle i'w brofi gyntaf.
|
|