|
|
Brecwast, swper - a darn o lawr i gysgu arno...
Profiadau dwy Gymraes mewn cartref i blant amddifad yn Yr India Ebrill 2002
|
gan Meinir Wyn Hughes o Lanfairpwll I weld llun fideo - cliciwch Pum mis mewn gwlad hollol ddiarth diwylliant diarth, bywyd diarth, hinsawdd diarth, ymysg llond llaw o bethau diarth eraill!
Mae'n ddigon teg dweud i'r newid fod yn un syfrdanol. Un munud roeddwn yn gweithio mewn siop siocled brysur ar Stryd Fawr Bangor a'r nesaf roeddwn ar draeth yn yr India yn gwylio gyrr o wartheg yn mynd am dro bach hamddenol ganol bore! Elusen i blant amddifad Clywais am elusen El-Shaddai i blant amddifad drwy un o fy ffrindiau pennaf, Meleri. Daeth hi a'i theulu yma ar wyliau ddwy flynedd yn ôl a phryd hynny, gwelodd hi boster am El-Shaddai yn ei gwesty. Mi aethon nhw i weld y cartrefi a phenderfynodd Meleri yn y fan a'r lle mai yma roedd hi am dreulio rhan o'i blwyddyn allan. Yn ystod fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol, penderfynais innau yr hoffwn ymuno â hi. Dyma ni erbyn hyn wedi cwblhau dros dri mis yn barod mae'r amser wedi hedfan! Cyfeillgar a chwrtais Roedd cyfarfod y plant am y tro cyntaf yn brofiad a hanner roeddynt i gyd mor gyfeillgar, yn ysgwyd llaw bron yn swyddogol wrth inni fynd i mewn i'r cartrefi gan ddweud 'Good Morning' neu beth bynnag oedd yn briodol. Yn dilyn eu 'llefaru' cwrtais croesawgar, roeddynt yn tueddu i fynd yn swil, ond dim ond am funud neu ddau nes ichi fedru cofio eu henwau nhw tasg eitha anodd o gysidro bod yna hanner cant o blant ym mhob ty! Mae gan yr elusen dri chartref ar hyn o bryd un i'r genod hynaf, un i'r hogiau hynaf ac un ar gyfer y plant lleiaf. Mi fydd pedwerydd ty erbyn diwedd Mai, a 50 o blant bach cyffrous yn rhuthro i mewn wrth gael y cyfle i droi dalen newydd yn eu bywydau. Duw a wyr pa fath o bethau fydd y plant hyn wedi gorfod eu dioddef yn ystod eu bywydau byr, boed nhw yn llwgu, boed nhw yn blant amddifad, neu wedi cael eu camdrin. Mae gorfod delio â'r ffeithiau yn gallu bod yn anodd iawn ar brydiau, yn enwedig wrth imi agosáu fwyfwy at y plant.
Gweld ei fam yn cael ei llosgi Wna i byth anghofio darllen am hanes un hogyn bach o'r enw Ral. Roeddwn wedi bod yn chwarae cuddio am tua awr efo fo'r diwrnod blaenorol ac wedi sylwi ei fod yn ddistaw iawn ac yn tueddu i syllu ar ddim byd yn benodol roeddwn yn sicr bod rhywbeth yn ei boeni. Ychydig a wyddwn i fod yr hogyn chwech oed yma wedi gweld ei dad yn tywallt petrol dros ei fam a'i rhoi hi ar dân! Tybed beth sy'n mynd drwy'i feddwl? A mwy na hynny, sut mae rhywun fel fi, sydd heb unrhyw fath o brofiad ym maes seicoleg, i fod i ddelio efo fo? Does gen i ddim syniad! Mae'r un broblem efo'r plant hynny sydd wedi cael eu camdrin. Mae'n rhaid troedio mor ofalus a cheisio bod mor sensitif â phosib. Nid tlodi yn unig Yn anffodus, dim ond ychydig iawn sydd yn ein cartrefi ni oherwydd tlodi yn unig - dioddefodd y rhan fwyaf anawsterau eraill ofnadwy yn ogystal â thlodi enbyd - fel Ral druan. Eto i gyd, wrth ymweld â'r cartrefi, mae'r plant yn ymddwyn bron yn union fel plant yng Nghymru chwarae o gwmpas, ymladd, pwdu a strancio. Yr unig wahaniaeth ydi'r ffaith eu bod nhw yn glanhau ar eu holau, yn golchi a phlygu eu dillad, gwneud y gwelyau, coginio, popeth, a hynny'n hollol ddi-stwr. Faint o blant pedair oed adref sydd yr un mor aeddfed a rhesymol â hyn? Mae'r gwaith dw i'n ei wneud yma yn rhoi cymaint o foddhad imi - yn enwedig pan fyddwn ni yn mynd â'r plant i'r traeth bob Sadwrn mae hi mor braf eu gweld nhw i gyd yn cael cymaint o hwyl yn neidio o gwmpas yn y môr ac wedyn yn adeiladu rhyw gestyll eithaf rhyfedd yr olwg! Dwi weithiau yn ceisio dychmygu beth fyddai'r plant hyn yn ei wneud ar ddydd Sadwrn heb ymroddiad a dyfalbarhad Anita, sylfaenydd yr elusen a ddaeth yma chwe blynedd yn ôl. Cyflawnodd gymaint mewn cyn lleied o amser gan barhau i ymestyn a datblygu'r gwaith ac estyn llaw i gymaint o blant ag y bo modd. Mae hi, wir, yn ysbrydoliaeth! Yn y brifddinas Y prosiect nesaf sydd ar y gweill ydi agor rhyw fath o gysgodfan i blant yn Panaji, prifddinas Goa. Yma, bydd y plant yn gallu cerdded i mewn, cael brecwast a swper, a darn o lawr i gysgu arno. Mae'r elusen hefyd newydd brynu pum erw o dir er mwyn adeiladu rhyw fath o fythynnod ar gyfer y dyfodol. Anodd credu pa mor gyflym mae'r elusen yn tyfu mewn gwirionedd; er, dw i'n tueddu i boeni am rai agweddau ar y datblygiadau hyn, mae'n rhaid cyfaddef. Rhywfaint o bryder Dw i'n bryderus bod holl arian yr elusen yn mynd ar y prosiectau newydd hyn a dim digon yn cael ei gynilo er mwyn gallu rhoi rhyw fath o sicrwydd i'r cant a hanner o blant presennol a rhoi cyfle efallai iddynt fynd i'r brifysgol. Heb y gefnogaeth a'r addysg angenrheidiol. bydd y plant yn gorfod dychwelyd i'r slyms, a dilyn yn ôl troed eu rhieni mewn bywyd. Dw'i wir yn gobeithio na fydd hyn yn digwydd, yn enwedig o ystyried pa mor anhygoel o alluog ydi rhai o'r plant. Byddai'n drueni mawr iddyn nhw beidio â chael cyfle maen nhw'n haeddu hynny. Mi fydda i a Meleri yn teithio o amgylch De India am y mis olaf, felly dim ond tua phedair wythnos sydd gennym ni yn weddill efo'r plant. Bydd yn anodd iawn eu gadael ac yn waeth o lawer gan na fydda i'n dychwelyd am flynyddoedd, mae'n siwr. Yn drist eu gadael Erbyn hynny, mi fydd y genod hyn, gobeithio, yn prysur ddatblygu i fod yn ferched proffesiynol llwyddiannus a rhai o'r bechgyn efallai'n chwarae yn y tîm criced cenedlaethol! Mi fydd hi'n drist iawn eu gadael. Dw i mor falch imi gael y cyfle i ddod i'r India fel rhan o'm blwyddyn allan mi fydda i'n dychwelyd i Gymru wedi gweld ac wedi dysgu cymaint, ac yn byrlymu efo egni wrth imi ddechrau ar fy nghwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Wel, nes iddyn nhw osod y traethawd cyntaf beth bynnag!
|
|