|
|
Cymry diddorol mewn lleoedd annisgwyl
Byddwn yn cyfarfod Cymry mewn pob math o sefyllfaoedd anarferol ac anghyffredin mewn ail gyfres o'r rhaglenni teledu Ar Dy Feic gyda Hywel Gwynfryn.
|
Ymhlith y bobl y bydd yn eu cyfarfod ym mhellafoedd byd mae cyn dwrnai yng nghanol peryglon byd drygiau Rio de Janeiro; Cymraes ym mherfeddion Kenya yn byw heb na thrydan na ffôn heb sôn am wasanaeth e-bost ac un arall yn gweithio gyda chymdeithas y Maoris yn Seland Newydd.
Yr un peth a fydd yn ein rhyfeddu unwaith eto gyda'r gyfres boblogaidd hon o ymweliadau gan Hywel Gwynfryn yw sut y mae cenedl mor fechan yn cyrraedd corneli mwyaf anghysbell y byd.
Cychwyn yn Kenya Yn ystod y gyfres bydd Hywel yn ymweld ag Affrica, Siapan, Seland Newydd a Brasil gyda'r daith yn cychwyn yn Kenya lle mae Sian Molero wedi cartrefu mewn cynefin sy'n gwbl wahanol i fro ei mebyd yn Ystradgynlais, Cwm Tawe.
Mae hi'n byw yn Kitale, ardal gyntefig sydd â golygfeydd godidog o fynydd Elgon sy'n gwahanu Uganda a Kenya.
Pan yn y coleg yng Ngholeg Wye yn Ashford, cyfarfu Sian â George Molero, syrthio mewn cariad a dewis bywyd gydag o yng Nghenya ond wrth ei briodi nid yn unig yr oedd wedi dewis gwr ond hefyd wlad cwbl estron a theulu estynedig sydd wedi ei drwytho yn ddwfn yn arferion dieithr llwyth Luia yn y wlad.
Merched yn neb "Mae'n frwydr gyson iddi yn erbyn gwlad a thraddodiadau sy'n ystyried merched yn hollol eilradd ac heb hawliau.
"Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith mai dau o blant sydd gan Sian yng ngolwg y llwyth er bod ganddi dri phlentyn mewn gwirionedd ond gan mai merch yw un ohonyn nhw dydi hi ddim yn cael ei chydnabod," meddai Gwenan Thomas, sy'n cynhyrchu a chyfarwyddo'r rhaglen.
"O'r herwydd, mae Siân yn benderfynol fod Rhiannon ei merch yn derbyn yr addysg orau fel nad yw o dan unrhyw anfantais am ei bod yn ferch," ychwanegodd.
Ac meddai Hywel Gwynfryn: Mae Siân yn berson annibynnol a phenderfynol iawn. Meddyliwch amdani yn mynd i wlad mor ddieithr, yn ifanc, yn feichiog a cheisio torri ei chwys ei hun o dan amodau mor ddieithr . . .
"Mae hi'n siarad yn hollol onest am ei theimladau a'i pherthynas gyda'i theulu yng nghyfraith. Mae'n gweithio yn anhygoel o galed i roi addysg i'w phlant, yn gweithio ar fferm y teulu ac mewn hufenfa. Dwi'n llawn edmygedd tuag ati, a dydi hi ddim yn hawdd o gwbl arni.
Mwy a mwy yn teithio Ac yntau yn ei elfen yn cyfarfod pobol, yn cael profiadau newydd ac yn teithio, mae'r gyfres Ar Dy Feic yn un ddelfrydol ar gyfer darlledwr fel Hywel.
Dwi'n eiddigeddu at y bobol hyn i raddau, meddai Hywel. Dwi'n meddwl yn aml sut y byddai pethau petawn i wedi mynd i deithio fy hun. Pan oeddwn i yn yr ysgol doedd dim ffasiwn beth a gap year na'r math yna o beth. Rwan wrth gwrs mae'n hollol wahanol gyda mwy a mwy o bobol yn mynd i deithio byd.
Ond lle dwi'n lwcus ydi bod fy ngwaith i wedi mynd a fi i lawer o wledydd felly dwi wedi cael blasu bywydau pobol ledled y byd.
Mewn lleoedd peryglus Ond dydi gwneud rhaglenni fel y rhain ddim heb eu peryglon fel y gwelodd y tîm pan ymwelwyd â Rio de Janeiro ym Mrasil.
"Yn ystod ein hymweliad yno doedd hi ddim yn ddiogel inni grwydro o gwmpas heb warchodwyr arfog i edrych ar ein holau," meddai Gwenan.
"Yr oedd yn ddinas o dlodi anhygoel ar y naill law ac o gyfoeth anhygoel ar y llaw arall gyda rhai ardaloedd yn cael eu rheoli gan farwniaid cyffuriau ac yr oedd mynd o gwmpas gyda chamera yn ffilmio yn gweiddi 'pres' a'n rhoi mewn perygl ac mi fu yna adegau pan oeddem yn teimlo dan fygythiad," ychwanegodd.
Chwe rhaglen fydd yn y gyfres; y ddwy gyntaf o Dde Affrica, y drydedd o Rio, y bedwaredd o Siapan a'r bumed a'r chweched o Seland Newydd.
Erthyglau eraill i ddilyn dowch yn ôl i'r wefan hon.
|
|