Trechu dau fynydd a gwastadedd
Mae Rocet Arwel Jones yn Kenya yn codi arian at y mudiad Mind. Dyma adroddiad ganddo oddi yno:
Ganol dydd - Dydd Gwyl Dewi - roedd y Ddraig Goch yn cwhwfan ar Fynydd Longonot yn Kenya.
Roedd y daith gerdded noddedig er budd MIND drosodd ac wedi llwyddo i godi cyfanswm o dros £60,000 er budd yr elusen iechyd meddwl.
Anifeiliaid rheibus Cerdded gwastadeddau a mynyddoedd a champio allan ymysg anifeiliaid rheibus Affrica oedd yr her a'r anrhydedd.
Roedd y daith at Borth Uffern yn hir a chaled. Milltiroedd maith yn haul tanbaid canol dydd ar hyd llwybrau llychlyd oedd yn llac dan draed.
Yn waeth na dim roeddwn i bron hanner ffordd at ferwi - yn llythrennol. Roedd y tymheredd yn 47 gradd C!
Cyn pen yr awr roedd y glawogydd rhyfedda yn ein gyrru ni i gysgodi dan rynnu yn yr oerfel a gwylio ein gwersyll yn cael ei sgubo i ffwrdd. O fewn awr arall roedd hi'n braf eto.
Eithafion anodd ar y ysbryd a'r corff a hynny rhwng cloriau un diwrnod!
Nod ariannol Bellach mae dau fynydd a gwastadedd wedi'u trechu a'r nod wedi ei gyrraedd o ran y daith. Fodd bynnag rwy'n dal i gyrchu at y nod ariannol o godi cymaint a phosib at yr elusen cyn canol Ebrill ac mae modd ichi barhau i gefnogi.
Rwy'n falch o ddweud fy mod i yn ddigon da i allu mynd ymlaen i fusnesu rhywfaint yn y wlad ryfeddol yma - nid pawb fentrodd ar y daith fu mor ffodus. Cewch rywfaint o hanes hynny ymhen 'chydig wythnosau.