|
|
Efo Rocet i Borth Uffern
Mae Rocet Arwel Jones yn wynebu taith galed yn Kenya er mwyn codi arian at y mudiad Mind. Dyma ei sylwadau cyn cychwyn:
|
Taith fydd yn golygu wythnos o ddringo ac o gerdded caled. Roedd rhaid ymarfer cryn dipyn ar ei chyfer a chodi o leiaf £2,500.
Bydd y daith yn mynd a fi o droed Mynydd Susua heibio Porth Uffern ac at gopa Mynydd Longanot yn y Great Rifft Valley yn Kenya.
Afiechyd meddwl Bob blwyddyn mae 21 miliwn o bresgriptiwns yn cael eu hysgrifennu am dawelyddion ym Mhrydain.
Mae un o bob pedwar ohonom yn debyg o ddioddef o afiechyd meddwl o ryw fath. Nid anabledd meddwl y'n genir ni ag o ond salwch all daro unrhyw un ohonom yfory nesaf.
Mae Mind yn cynnal rhwydwaith sy'n cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl cyngor meddygol a chyfreithiol mewn dinasoedd ac, yn dilyn y blynyddoedd argyfyngus diwethaf, yn arbennig yng nghefn gwald.
Mae'n cynnal llinell ffôn gyfrinachol ond dim ond un alwad ym mhob pump y mae modd eu hateb oherwydd diffyg adnoddau.
Poeth, caled a chwyslyd Mae'r daith gerdded hon wedi golygu cryn ymarfer ar fy rhan i a dwi'n dal yn nerfus nad ydw i wedi caledu digon ar gyhyrau fy nghoesau ac ar wadnau fy nhraed.
Fe fydd hi'n boeth ac yn chwyslyd ac yn galed dan draed. Ond fel dwi'n ysgrifennu'r geiriau hyn rwyf newydd gadarnhau fy mod wedi cyrraedd £7,000 o nawdd.
Fe fyddai'n braf gallu treblu'r nod gwreiddiol a chyrraedd £7,500.
Mae modd cefnogi fy ymdrech i ar gyfer Mind arlein tan ganol Ebrill.
er mwyn ymweld â gwefan yr ymgyrch.
Cewch glywed rhagor am y daith yn y man.
|
|