Yr Urdd yn cyhoeddi llwyddiant ysgubol
Hyd yn oed cyn y cyfrif pennau ddiwedd dydd yr oedd yr Urdd wedi datgan fore Sadwrn mai "llwyddiant ysgubol" fu Eisteddfod 2009 yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Ac erbyn i'r llenni gau yno gwelwyd bod y Mudiad yn iawn i fod yn ffyddiog gydag 11,259 o ymwelwyr yn ystod y dydd o gymharu 芒 9,358 y llynedd.
Yr oedd y niferoedd ar gyfer yr wythnos gyfan hefyd yn tra rhagori ar y llynedd - 96,013 o gymharu 芒 91,785 y llynedd.
Ond, o drwch blewyn, methodd Eisteddfod 2009 yng Nghanolfan y Mileniwm a churo Eisteddfod 2005 yno - ymwelodd 572 yn fwy 芒 honno, 96,585.
Dyma'r ffigurau dyddiol ar gyfer yr wythnos gyda'r nifer eleni yn gyntaf, wedyn y llynedd a 2005 yn drydydd:
- Llun: 21,812 - 20,656 - 21,382
- Maw: 22,962 - 20,087 - 24,687
- Mer: 13,087 - 12,823 - 13,829
- Iau: 13,567 - 14,600 - 16,509
- Gw: 13,329 - 14,261 - 13,927
- Sad: 11,256 - 9,358 - 6,251
Ffigurau sy'n dangos i arbrawf eleni o ganiat谩u mynediad i ddau am bris un ar y Sadwrn fod yn un llwyddiannus. Hynny, a'r haul a gwres.
Myrdd o atyniadau
Dim rhyfedd felly fod trefnwyr Prifwyl 2009 wedi eu plesio gan gyhoeddi datganiad fore Sadwrn yn dweud:
"Heidiodd degau o filoedd o ymwelwyr o Gymru benbaladr a thu hwnt i fwynhau'r myrdd o atyniadau yn yr 诺yl ac unwaith eto roedd ardal Bae Caerdydd yn safle bendigedig i gynnal yr 诺yl, gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn ganolbwynt i'r cyfan ac adeilad gwych y Senedd yn gartref gwych i'r arddangosfa gelf, dylunio a thechnoleg."
Unwaith eto pwysleisiwyd y profiad amheuthun i blant o gael perfformio ar un o lwyfannau gorau'r byd.
Ddau ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod yr oedd cyntedd a grisiau y Ganolfan yn goferu o bobl yn gystadleuwyr ac yn gynulleidfa yn disgwyl am fynediad i'r awditoriwm.
Pen-blwydd
Bu rhywfaint o ysbryd parti hefyd wrth i'r Eisteddfod ddathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ac fe wnaeth y trefnwyr yn fawr o ymweliad Mickey Mouse 芒'r Eisteddfod ddydd Mawrth.
Ac er na fu creadigaeth fawr Disney yn fodlon ymddangos ochr yn ochr 芒 chreadigaeth Wyn Melville Jones, Mr Urdd, fel arwydd gweledol o'r bartneriaeth newydd fe gydsyniodd i gofleidio Cyfarwyddwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, a chaniatau iddi roi cusan iddo! A go brin y byddai neb yn ei feio am ei ddewis yn hynny o beth!
Degfed Bryn
Enw mawr y diwrnod cynt oedd Bryn Terfel - yno i ddathlu deng mlwyddiant ei ysgoloriaeth flynyddol trwy rannu llwyfan ag enillwyr y blynyddoedd.
Cafodd nifer eu bodloni hefyd fod Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi gwir godi o'r lludw bellach a pherfformio drama gerdd, Ffawd ddwy noson - er bu mwy nag un yn holi tybed a oedd y llwfaniad, er yn wych o ran ei gyfarwyddo, braidd yn rhy hir.
Difetha'r hwyl
Ddydd Iau aeth pethau o chwith braidd - wrth i feirniaid y Gadair orfod atal y wobr am nad oedd neb yn deilwng - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers chwarter canrif.
Mae'r penderfyniad beth i'w wneud a'r gadair, a roddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol, eto i'w wneud.
Pen-blwydd arall
Y mae pawb yn gwybod i ymweliad cyntaf yr Urdd a Chanolfan y Mileniwm beri cryn syndod i awdurdodau'r lle yn 2005 gan nad fawr neb yno wedi gwir amgyffred maint yr 诺yl genedlaethol hon ond diau bod ganddynt well syniad beth i'w ddisgwyl y tro hwn a chyfeiriodd Prif Weithredwr y Ganolfan, Judith Isherwood, at yr wythnos fel kick start i ddathliadau pump oed y lle.
"Pa well ffordd i ddathlu ein pen-blwydd yn bump oed eleni! O safbwynt y Ganolfan mae hi wedi bod yn Steddfod lwyddiannus iawn, o ran ansawdd a threfniant. Dwi'n mawr obeithio na fydd raid aros yn rhy hir cyn daw hi'n 么l yma ar lwyfan cenedlaethol y genedl," meddai.
"Does dim dwywaith mae'r plant a'r bobl ifanc wedi bod wrth eu boddau cael perfformio ar un o lwyfannau gorau'r byd, a thrueni byddai colli y cyfle hwn. Mae sawl un gan gynnwys Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn wedi ategu hyn," meddai.
Hynny'n amlwg yn gyfeiriad at yr awgrymiadau cryfion a wnaed na fydd yr Eisteddfod yn dychwelyd yno ymhen pedair blynedd er bod trefniant gyda'r Ganolfan yn caniatau iddi wneud hynny pe dymunai.
Ond, yn awr a'r Urdd wedi dod i drefniant ariannol newydd 芒 Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bydd gan yr elfennau hynny ddylanwad cryf ar daith yr Eisteddfod drwy Gymru yn y dyfodol a'r tebygrwydd mawr yw na y rhai sy'n talu am i'r pibydd Eisteddfodol ddychwelyd i Gaerdydd ymhen pedair blynedd ac yntau wedi bod yn canu ei alwon yn y de dair blynedd yn ddilynol - Caerdydd eleni, Ceredigion y flwyddyn nesdaf ac Abertawe wedi hynny!