成人论坛

Prif gyfansoddwr - y beirniad eisiau gwrando a gwrando

Manon, ei mam a'i thad, Dewi a Valmai Hughes a'i chwaer, Eleri

Ei Mam berswadiodd Manon Hughes, merch fferm o Babell ger Treffynnon, Sir Y Fflint, i anfon ei gwaith i gystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr yng Nghaerdydd.

Dywedodd Manon, 21 oed, iddi gyfansoddi'r darn gwreiddiol fel rhan o'i chwrs coleg ond iddi weithio ymhellach arno ar gyfer y gystadleuaeth.

"Pan glywodd Mam o mi wnaeth hi ei hoffi ac mi awgrymodd ei anfon i'r gystadleuaeth," meddai Manon.

Derbyniodd ei gwaith, deuawd ar gyfer piano a ffidil, ganmoliaeth hael y beirniad, Alun Guy, a ddywedodd y gallai wrando arno droeon.

Deall y cyfrwng

Aeth ymlaen i ddisgrifio Manon fel cyfansoddwraig sy'n deall y cyfrwng ac a lwyddodd i greu darn oedd nid yn unig yn seingar ond yn dangos sgiliau creadigol aeddfed a chryno.

"Mae'r cyd blethu rhwng y piano a'r fiolin yn feistrogar wrth i'r ffocws symnud yn 么l ac ymlaen rhwng y ddau offeryn," meddai.

Yr oedd y gwaith, meddai, yn ddeuawd yng ngwir ystyr y gair.

"Clywn y motifau sydd yn y fiolin a'r piano ar y dechrau yn cael eu datblygu mewn arddull ffantasiol gydol y cyfansoddiad . Weithiau'n syml, weithiau'n flodeuog," meddai.

"Dyma ichi waith y medrai wrando arno droeon oherwydd mae yna ffresni ac mae yna fywyd cerddorol yn llifo drwy gydol y darn," meddai wrth gyhoeddi o lwyfan yr Eisteddfod mai dyma'r darn buddugol o dri oedd wedi cyrraedd y dosbarth cyntaf. - tri gwaith a oedd yn haeddu ystyriaeth ddwys iawn cyn dod i benderfyniad.

Creu deuawd

Dywedodd Manon wedi'r seremoni iddi'n fwriadol gyhoeddi darn a fyddai'n rhoi'r argraff o ddeuawd yn hytrach na dau offeryn nar wah芒n.

Yn ogystal 芒 chyfansoddi mae Manon hefyd yn berfformwraig a thelynores lwyddiannus wedi ymddangos yn y Barbican, Neuadd wigmore ac yn ystod dathliadau pen-blwydd y Tywysog Charles.

Dywedodd fod cyfansoddi yn fodd iddi ymlacio.

Yn dilyn cyfnod yn fyfyrwraig Cerdd yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt bu'n astudio'r Delyn yn y Guildhall, Llundain.

Mae Manon hefyd yn ddawnswraig ac wedi mynychu Ysgol Ddawns Whitton Morris am dair blynedd ar ddeg i ddawnsio bale, tap, modern a jas gyda'i diddordeb mewn dawns yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith buddugol.

Mae hefyd yn gyfarwyddwr cerdd Ysgol Haf 'West End in Wales' .

Ar gyfer y dyfodol dywedodd mai ei bwriad yw hyfforddi'n athrawes wedi ei hysbrydoli i'r cyfeiriad hwnnw gan ddwy o'i hathrawesau yn yr ysgol, Ann Davies ac Ela Davies.

Disgrifiodd ei gwaith buddugol fel un rhamantus "eithaf dawnsgar, ysgafn a swynol" gyda dylanwadau miwsig dawns yn amlwg iawn arno.

  • Ieuan Wyn o Aelwyd y Waun Ddyfal , Caerdydd ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth ac Arwel Rhys Williams, Aelod Unigol o Lanelli yn drydydd.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.