Heb os y cystadleuydd sydd wedi teithio bellaf i fod yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron eleni ydi Madlen Bevan, naw oed.
Mae Madlen a fu'n cystadlu ddoe ar lefaru i ddysgwyr, blynyddoedd 3 a 4, saith mil o filltiroedd oddi cartref ac fe gymerodd 17 awr iddi deithio yno o ddrws ei th欧 yn Singapore lle mae'n byw gyda'i mam a'i thad, Bethan a Huw Bevan, sy'n bennaeth rhaglenni gyda chwmni teledu, a'i chwaer, Miriam, 17 oed.
Dyma'r ail dro i Madlen deithio i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r tro hwn yr oedd o fewn un i gael llwyfan o'r rhagbrofion.
"Yr oedd hynny yn arbennig o siomedig - ei bod hi mor agos," meddai Bethan ei mam, sy'n dod o Gwm Tawe yn wreiddiol ac yn gyfarwydd iawn 芒 chystadlu yn eisteddfodau'r Urdd.
Dywedodd mai'r unig Gymraeg y mae Madlen yn ei chlywed yn Singapore yw ar yr aelwyd adref.
I gyrraedd y Genedlaethol cystadlodd Madlen yn yr eisteddfod sirol trwy gyfrwng Skype yn cael ei gwylio o'i chartref ar sgrin fawr yng Nghaerdydd gan y beirniaid.
Efallai mai Dweud Dim oedd y darn y bu'n cystadlu arno ond yn sicr bydd gan Madlen ddigon i'w ddweud am y profiad o gystadlu yn yr Urdd ac am yr Eisteddfod pan ddychwel at ei ffrindiau yn Singapore.
"Does yna ddim byd tebyg i'r eisteddfod yno," meddai Bethan a ddywedodd i Madlen ddechrau ymddiddori o fod yn gwylio'r 糯yl ar y we.
Ychwanegodd ei bod wrth ei bodd gyda diddordeb Madlen mewn llefaru ac yn yr Eisteddfod.
"Yr oedd yn gymaint rhan o mhlentyndod i," meddai.