Cyhoeddwyd ddydd Sadwrn enwau yr wyth fydd yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni yn dilyn wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni.
- Eirlys Myfanwy Davies (unawd) - Llanelli, Dwyrain Myrddin
- Glesni Fflur (unawd cerdd dant) - Aelwyd Y Bala, Meirionnydd
- Elgan Llyr Thomas (unawd allan o sioe gerdd) - Conwy
- Jocelyn Freeman (unawd offerynnol) - Tyddewi, Penfro
- Ceirios Evans (alaw werin unigol a llefaru unigol) - Aelwyd Aeron, Ceredigion
- Teleri Mair Williams (cyflwyniad theatrig unigol) - Aelwyd yr Ynys, Ynys M么n
- Elen Gwenllian (llefaru unigol) 19-25 oed - Aelwyd Dyffryn Nantlle, Eryri
- Cerian Phillips (dawns werin unigol) - Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd a'r Fro
Byddant hwy yn awr yn derbyn dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill yr ysgoloriaeth nos Sadwrn, Hydref 16 2010 ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.
Canmol y cyfle
Mae'r ysgoloriaeth werth 拢4,000 i'w ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant pellach addydd Gwener yr oedd enillydd yr ysgoloriaeth y llynedd, , Catrin Angharad Roberts Ynys M么n yn hael ei chanmoliaeth ar faes yr Eisteddfod.
''Roedd ennill yn brofiad gwerth chweil. Mi wnes i elwa'n fawr a chael fy ngwahodd i berfformio mewn sawl cyngerdd a chystadlu mewn nifer o Eisteddfodau lleol gyda Llan Bob Man, parti bechgyn rwyf wedi'i ffurfio ar yr ynys,'' meddai.
Dywedodd ei bod yn awr yn gymhorthydd dosbarth yn Ysgol Gynradd Llannerchymedd, ac ar fin dilyn cwrs dysgu ym Mhrifysgol Bangor
"Yn 2011dwi'n gobeithio defnyddio'r arian i ryddhau CD," meddai.
Mae hi hefyd newydd ddechrau mynychu gwersi canu gyda Mary Lloyd Jones yn Y Galeri, Caernarfon.